Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn fy natganiad diweddar, mae’n bleser gennyf rannu diweddariad pellach â’r Aelodau ynglŷn â chynnydd y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.
Lansiais y rhaglen ym mis Ebrill wedi i’r GIG gael gaeaf a oedd wedi’i ddominyddu gan bandemig y coronafeirws a phwysau argyfwng. Mae’r GIG yn parhau i weithio o dan bwysau sylweddol, a hynny wrth inni weld ymchwydd newydd mewn achosion o’r coronafeirws yn y gymuned. Yn ogystal, mae staff yn gweithio’n eithriadol o galed i ddarparu gofal a gynlluniwyd a lleihau amseroedd aros a gronnodd yn ystod y pandemig.
Mae’r rhaglen Chwe Nod yn cael ei chefnogi gan gyllideb flynyddol o £25m, ac eleni, gall byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau y GIG gael gafael ar hyd at £20m. Bydd pob bwrdd iechyd yn cael hyd at £2.96m tuag at gyflawni eu cynlluniau rhaglenni lleol a bydd Cronfa Arloesi a Chyflawni’r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng gwerth £4m ar gael ar gyfer prosiectau sy’n cael eu cydlynu’n genedlaethol.
Ein prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn hon yw cynyddu capasiti o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod er mwyn helpu pobl i gael gafael ar ofal yn agosach i gartref heb fod angen iddynt ymweld ag adran achosion brys neu gael eu derbyn i’r ysbyty. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y cynnydd cynnar sydd wedi’i gyflawni, yn ogystal â’r gwaith sy’n mynd rhagddo drwy’r rhaglen i drawsnewid y system gyfan.
Ar hyn o bryd, mae naw canolfan gofal sylfaenol brys ledled Cymru, a dull o weithio sy’n seiliedig ar ymarfer ym Mhowys, Mae’r gwasanaethau yn cwmpasu 256 o bractisau, 39 o glystyrau a chyfanswm poblogaeth o 1.8m o bobl ledled Cymru sy’n gallu cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau hyn. Mae tîm y Rhaglen yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i ehangu’r nifer o fodelau gofal sylfaenol brys sydd ar gael ac rwyf wedi fy nghalonogi gan yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan staff a chleifion ynghylch manteision y dull hwn o weithio.
Mae’r holl fyrddau iechyd wedi ymrwymo i ehangu ac ymestyn gwasanaethau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod drwy gyfuniad o fodelau meddygol, modelau llawfeddygol a
modelau sydd wedi’u seilio yn y gymuned. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi cefnogi cynnydd mewn lefelau staffio a chynnydd yn oriau gweithredu’r gwasanaethau hyn. Mae hyn yn galluogi mwy o bobl i gael eu hasesu, cael profion diagnostig a chael triniaeth heb gael eu derbyn i’r ysbyty neu aros yno dros nos.
Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd canllawiau cenedlaethol gennym er mwyn galluogi parafeddygon i wneud atgyfeiriadau uniongyrchol at wasanaethau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod.
Disgwyliaf i fyrddau iechyd gyflymu’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r gwasanaethau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod hyn wrth inni gynllunio at y gaeaf. Bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i agor ei uned lawfeddygol bwrpasol gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i agor ei ganolfan bwrpasol gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod yn Ysbyty Athrofaol y Faenor fis nesaf.
Mae rhoi gwasanaeth ffôn GIG 111 Cymru ar waith yn garreg filltir bwysig arall. Mae’r gwasanaeth hwn yn sicrhau gwasanaeth cyson am ddim 24/7 i gefnogi pobl sydd ag anghenion iechyd brys ledled Cymru. I lawer o bobl, bydd hyn yn golygu eu bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn y gymuned heb orfod mynd i adran achosion brys. Ers i’r gwasanaeth ddod yn weithredol yn genedlaethol, mae dros 260,000 o bobl wedi’i ddefnyddio.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans brys yn parhau i fod o dan bwysau ledled Cymru. Rydym yn buddsoddi £3m ychwanegol er mwyn cynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynyddu capasiti ymateb y gwasanaeth mor fuan â phosibl drwy broses o benodi rhwng 100 a 150 o weithwyr rheng flaen. Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol i’r £1.8m o gyllid unigol a roddwyd yn gynharach eleni gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys er mwyn parhau â chefnogaeth Ambiwlans Sant Ioan Cymru, yn ogystal â sicrhau capasiti ychwanegol arall er mwyn ateb y galw.
Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn gweithio gyda byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddatblygu cynllun gwella integredig wedi’i adnewyddu a’i wella ar gyfer gwasanaethau ambiwlans. Disgwyliaf i’r cynllun hwn gynnwys ffocws clir ar gamau gweithredu ar y cyd er mwyn gwella amseroedd ymateb, lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, yn ogystal â delio yn well â phobl yn y gymuned.
Mae cynlluniau gwella o ran symud cleifion o ambiwlansys wedi’u datblygu ar gyfer pob adran achosion brys yng Nghymru. Rydym wedi dechrau gweld gwelliant ym mherfformiad trosglwyddo cleifion o ambiwlansys mewn rhai ardaloedd. Nid yn unig y bydd gwelliant pellach yn rhyddhau ambiwlansys i ymateb i alwadau brys yn y gymuned ond bydd hyn hefyd yn gwella profiadau cleifion ac yn gwella canlyniadau iddynt.
I gloi, mae pob bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithio gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid i sicrhau gwelyau gofal cymunedol ychwanegol - neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt - erbyn mis Hydref er mwyn gwella llif cleifion drwy’r system iechyd a’r system gofal. Caiff y gwaith hwn ei gefnogi gan y tîm Chwe Nod yn ogystal â ffocws o’r newydd ar fodel rhyddhau i adfer yna asesu (D2RA). Bydd hyn yn cefnogi pobl i ddychwelyd adref neu ddychwelyd i’w cymunedau lleol pan fyddant yn barod ac yn gwella prydlondeb gofal mewn rhannau eraill o’r system gofal brys a gofal mewn argyfwng.
Rwyf wedi gosod her i arweinwyr y byrddau iechyd i sicrhau 1000 o fannau gwely ychwanegol, neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt, er mwyn cefnogi pobl sy’n parhau i orfod aros yn yr ysbyty o ganlyniad i’r diffyg capasiti o fewn gwasanaethau rhyddhau i adfer yna asesu, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymunedol. Dyma’r elfen gyntaf yn ein dull gwell o weithio o ran cynllunio at y gaeaf. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan ein hymrwymiad parhaus tuag at flaenoriaethau’r Chwe Nod.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ynglŷn â chynnydd y rhaglen yn nhymor yr hydref.