Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwyf am sicrhau bod ansawdd addysg a lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol yn cael eu cryfhau, wrth beidio â chyfyngu'n ddiangen ar y rhyddid sydd gan ysgolion annibynnol i drefnu eu hunain a darparu addysg.
Bydd y fframwaith deddfwriaethol bellach yn rhoi ffocws cryf ar ddiogelu a llywodraethu mewn ysgolion annibynnol, ac yn benodol, mae'r Rheoliadau Safonau yn ei gwneud yn glir mai perchennog yr ysgol sy'n gyfrifol am gydymffurfio yn y pen draw.
Roedd cefnogaeth eang i'r newidiadau arfaethedig i'r gyfres o Reoliadau y mae ysgolion annibynnol yng Nghymru yn gweithredu oddi tanynt a bydd y rhain yn dod i rym yn gynnar yn 2024. Rwy'n falch heddiw o gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynigion i ddiweddaru'r gyfres o Reoliadau y mae ysgolion annibynnol yng Nghymru yn gweithredu oddi tanynt.
Roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 22 Mai a 17 Gorffennaf 2023 yn gofyn am farn yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb yn y ffordd y mae ysgolion annibynnol yng Nghymru yn gweithredu ar y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003, Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) newydd.
Mae diwygio’r rheoliadau i adlewyrchu arferion gorau, canllawiau a pholisïau cyfredol yn un o elfennau hanfodol sicrhau y cynhelir ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru; yn ogystal â diogelu buddiannau plant a phobl ifanc sy’n dysgu yn y lleoliad annibynnol.
Bydd y gyfres ddiwygiedig o Reoliadau Ysgolion Annibynnol yn dod i rym yn gynnar yn 2024 a byddant yn arwain at well llywodraethu mewn ysgolion annibynnol a lefelau uwch o ddiogelu i blant a phobl ifanc sy'n dysgu yn y sector hwnnw yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.