Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel yr wyf dweud eisoes wrth yr aelodau, mae gwaith ar ddatblygu'r model cenedlaethol wedi'i gwblhau erbyn hyn ac rwyf wedi derbyn y Model Cenedlaethol newydd. Mae Cyngor Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr cynghorau hefyd wedi derbyn yr egwyddorion a'r strwythurau a amlinellir yn y model ac maent oll wedi datgan imi eu hymrwymiad i'r model. 

Yn sgil cyhoeddi'r model cenedlaethol, cafodd rhagor o waith ei wneud i sicrhau bod y Model Cenedlaethol yn weithredol o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, derbyniais y cynlluniau busnes blynyddol cyntaf gan y consortia ym mis Chwefror. Rwyf wedi dadansoddi'r cynlluniau hynny erbyn hyn ac rwyf wrth fy modd o allu dweud wrth yr aelodau bod cynnydd wedi'i wneud a bod y consortia yn glynu at y Model Cenedlaethol newydd. Fodd bynnag, ysgrifennais heddiw i bob consortiwm yn tynnu sylw at feysydd i’w gwella ac i'w hatgoffa fy mod yn disgwyl iddynt symud ymlaen yn gyflym ac ar fyrder.  

Bydd fy Adran i yn parhau i weithio'n agos gyda'r consortia i fonitro sut y bydd y cynlluniau busnes hyn yn cael eu gweithredu ac i sicrhau bod y model yn cael ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn. Byddant hefyd yn sicrhau bod sylw yn cael ei roi ar fyrder i'r meysydd i'w datblygu a nodwyd gennyf.