Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas AS, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53m ym mis Gorffennaf i ddarparu cymorth hanfodol i theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, orielau a sinemâu annibynnol, sydd i gyd wedi gweld colled refeniw ddramatig oherwydd pandemig Covid-19.

Clustnodwyd cyfran o'r gronfa honno – £27.5m – i'w dosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru becyn o gymorth ariannol ar gyfer cerddoriaeth, dawns, theatr, llenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a chymhwysol, celfyddydau cyfun, a sefydliadau celf digidol fel rhan o'r Gronfa Adfer Diwylliannol.  

Bydd cyfanswm o 222 o sefydliadau yn cael cymorth ariannol hanfodol. Cynigiwyd y rhan fwyaf o'r cyllid mewn grantiau refeniw i gefnogi'r rhai sy'n wynebu anawsterau ariannol brys ac i ddiogelu cynifer o swyddi yn y sector â phosibl. Dyfarnwyd grantiau cyfalaf hefyd i wneud addasiadau ffisegol i adeiladau sydd eu hangen i gadw at reoliadau ymbellhau cymdeithasol. 

Mae Cyngor y Celfyddydau yn amcangyfrif y bydd y cyllid yn diogelu o leiaf 1,800 o swyddi, gan roi achubiaeth i'r sector. Mae rhestr o'r sefydliadau i dderbyn grantiau ar gael yma

Nod Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yw cefnogi sefydliadau yn y sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth. Caewyd y broses ar gyfer ceisiadau ar 2 Hydref. 

Mae dros 1,000 o geisiadau wedi dod i law ar draws y pedwar maes ariannu. Mae'r ceisiadau'n cael eu gwerthuso a'u cymeradwyo ar hyn o bryd ac mae'r taliadau cyntaf yn cael eu gwneud i sefydliadau. 

Mae llawer o artistiaid unigol a gweithwyr llawrydd creadigol wedi colli incwm o ganlyniad i'r argyfwng hwn. Bydd y Gronfa Llawrydd gwerth £7m yn helpu 2,800 o weithwyr llawrydd gyda grant o £2,500 yr un. 

Agorodd y gronfa ar 5 Hydref gyda cham un yn cynnig £3.5m. Mae wedi derbyn 1,400 o geisiadau; mae'r rhai sydd wedi'u cymeradwyo wedi dechrau derbyn arian yn eu cyfrifon banc a bydd y mwyafrif yn cael yr arian erbyn diwedd yr wythnos nesaf. 

Agorwyd cam dau, gyda £3.5m arall, ar 19 Hydref. Bu galw sylweddol gyda chwe awdurdod lleol yn cau eu harian yn gyflym yn gynharach yr wythnos hon. Mae ceisiadau'n cael eu sicrhau a'u cymeradwyo gyda thaliadau eisoes yn cael eu gwneud. Yn seiliedig ar y galw clir mewn rhai awdurdodau o'i gymharu ag eraill, yr ydym wedi ailddyrannu cyllidebau i'r ardaloedd hynny sydd â'r angen mwyaf. Rydym yn disgwyl galw parhaus yng Nghaerdydd a'r ardaloedd cyfagos ac rydym yn archwilio opsiynau i sicrhau adnoddau ychwanegol i ateb y galw hwn. 

Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys undebau a gweithwyr llawrydd, drwy'r Tasglu Llawrydd i gefnogi'r sector drwy'r cyfnod anodd iawn hwn.