Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Ebrill 2023, lansiwyd yn ffurfiol ein fframwaith adrodd wedi'i ddiweddaru ar gyfer mesur oedi yn achos llwybrau gofal yn ein hysbytai a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiadau misol newydd yn rhoi cipolwg inni o'r oedi sy'n digwydd wrth ryddhau unigolion o'r ysbyty gan eu hatal rhag dychwelyd adref neu i'r man lle maen nhw’n preswylio fel arfer.
Ers i'r fframwaith ddod yn weithredol, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i adolygu eu data a chefnogi gweithgareddau i leihau unrhyw oedi wrth ryddhau o'r ysbyty. Rydym eisoes wedi gweld gwelliant yn y niferoedd cyffredinol ers i'r trefniadau adrodd ddechrau, ac rydym wedi gweld tystiolaeth bod nifer y rhai sy'n aros am asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol a'r rhai sy'n aros i weithiwr cymdeithasol gael ei neilltuo iddynt yn gostwng. Mae gwelliannau wedi'u gweld mewn nifer o feysydd eraill, ond rydym hefyd yn gwybod bod rhagor i'w wneud o hyd. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n byrddau iechyd a'n hawdurdodau lleol i ysgogi rhagor o welliannau ac i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf.
Yn ddiweddar, mae swyddogion a’u cydweithwyr yng Ngweithrediaeth y GIG wedi cynnal sesiwn adolygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol gyda rhanddeiliaid i fyfyrio ar y broses o ddatblygu'r fframwaith adrodd ac ystyried hefyd sut y gellir ei ehangu a'i wella ymhellach. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar ganlyniad yr ystyriaethau hyn ac rydym yn gobeithio gallu rhannu manylion y blaengynllun gwaith ddechrau'r flwyddyn newydd.
Ers mis Mai eleni, rydym wedi cyhoeddi ffigurau lefel uchel ar oedi yn achos llwybrau gofal, wedi'u dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd ac awdurdod lleol. Rwy'n falch o adrodd ein bod yn awr yn gallu cyhoeddi'r data gydag amrediad mwy cynhwysfawr o ddadansoddiadau, sy'n golygu bod defnyddwyr yn gallu gweld data ar gyfer byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn ôl y rhesymau penodol dros yr oedi.
Fel rhan o'n gwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf, mae sefydliadau'r GIG yn adolygu eu trefniadau cydnerthedd y gaeaf yn barhaus gan gynnwys gwaith drwy eu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i nodi meysydd sy’n galw am ddull gweithredu ar y cyd. Bydd angen mabwysiadu agwedd system gyfan a bydd disgwyliad ar wasanaethau sylfaenol, gwasanaethau a gynlluniwyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau acíwt i wella capasiti. Bydd mwy o bwyslais ar wella llif y system drwy Ofal Argyfwng yr Un Diwrnod, cynlluniau gweithredu ar gyfer rhyddhau cleifion, model yr asesydd dibynadwy a thrwy ddefnyddio data 'oedi yn achos llwybrau gofal'.
Bydd y data hyn yn cael eu defnyddio yn rhanbarthol i nodi meysydd gweithredu â blaenoriaeth. Bydd disgwyliadau yn cael eu gosod ar fyrddau iechyd i leihau niferoedd y cleifion sy'n treulio dros dair wythnos mewn gwely yn yr ysbyty er mwyn rhyddhau capasiti gwelyau. Mewn achosion pan fydd angen cymorth newydd neu gymorth ychwanegol ar unigolyn, rydym am sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu paratoi gyda’i gilydd a'u bod ar gael i roi'r lefel gywir o gymorth sydd ei angen ar yr unigolyn dan sylw. Bydd y rhanbarthau yn cael eu cefnogi i ddefnyddio eu data ar oedi yn achos llwybrau gofal i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau mewn modd diogel ac amserol.
Er mwyn cefnogi staff, yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi canllawiau rhyddhau o’r ysbyty wedi'u diweddaru ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau blaenorol a luniwyd yn ystod y pandemig ac mae’r pwyslais erbyn hyn ar y gwaith sy'n dod i'r amlwg o'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng gan gynnwys y prosesau Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA), SAFER a Coch i Wyrdd. Nod y prosesau hyn yw cefnogi cleifion drwy lwybrau ysbyty a sicrhau eu bod yn barod i'w rhyddhau cyn gynted ag y byddant yn ffit yn glinigol. Mae cysylltiad cryfach hefyd rhwng y canllawiau diwygiedig a'r canllawiau ar gyfer staff, cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr ynghylch y gwasanaethau gofal cymdeithasol y gallai fod arnynt eu hangen. Efallai na fydd rhai unigolion erioed wedi bod angen cael mynediad at wasanaethau gofal cefnogol cyn hyn. Roeddem am sicrhau, felly, fod gan staff wybodaeth allweddol y gallant ei rhannu i helpu'r unigolion hynny, neu eu teuluoedd/gofalwyr, i ddeall beth fydd yn digwydd nesaf.
Mae'r rhaglen waith hon, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod y flwyddyn, yn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at sefydlu trefniadau rhyddhau o'r ysbyty sy'n glir, yn fesuradwy ac yn effeithiol i’w rhoi ar waith ledled Cymru. Bydd y trefniadau hyn o gymorth ar gyfer ymateb i bwysau'r gaeaf dros y misoedd nesaf.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.