Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol ym mis Hydref 2023. Mae'r datganiad yn nodi ein disgwyliadau o ran sut y dylid cynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG ar gyfer clefydau anadlol cyffredin, megis COPD ac asthma, ar draws Cymru. Mae’r datganiad ar gael yma: Y datganiad ansawdd ar gyfer clefydau anadlol
Fel y nodir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, bydd y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn defnyddio datganiadau ansawdd i gefnogi'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd cyson o ansawdd uchel. Mae fframwaith cynllunio'r GIG yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG yng Nghymru eu defnyddio yn eu prosesau cynllunio strategol a gweithredol. Y nod yw sicrhau bod disgwyliadau cenedlaethol ynglŷn ag ansawdd gwasanaethau yn cael eu hymwreiddio mewn prosesau cynllunio lleol.
Mae Gweithrediaeth y GIG wedi sefydlu rhwydwaith strategol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau anadlol sy'n dod â chlinigwyr arbenigol o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gydweithio i wella ansawdd gwasanaethau a rhoi cyngor arbenigol ar ddarparu gofal anadlol. Mae'r rhwydwaith yn goruchwylio'r rhaglen genedlaethol sy’n archwilio’r ddarpariaeth anadlol, ac mae’r rhaglen hon yn darparu data wedi'u meincnodi ynglŷn ag ansawdd gofal clefydau anadlol.
Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd â rhaglen archwilio glinigol ar gyfer y gofal anadlol a ddarperir mewn gofal sylfaenol, ac mae hyn yn adlewyrchu penderfyniad bwriadol i ganolbwyntio ar y ddarpariaeth reolaidd a ddefnyddir i reoli cyflyrau cronig. Mae'r data ar gael bob mis i fyrddau iechyd yng Nghymru ac maent yn cael eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau.
Mae'r rhwydwaith wedi datblygu platfform digidol i helpu clinigwyr y GIG ledled Cymru i ddarparu gofal anadlol cyson o ansawdd da. Mae'n cynnwys addysg gofal iechyd proffesiynol gynhwysfawr ar draws ystod o gyflyrau, gan gynnwys asthma, COPD, apnoea cwsg, bronciolitis, niwmonia sy'n cael ei ddal yn y gymuned, twbercwlosis a Covid-19, ac ymyriadau. Mae'r llwybrau cenedlaethol hyn, ynghyd â'r canllawiau a'r adnoddau addysgol proffesiynol, yn helpu i sicrhau gwelliannau yn y gofal iechyd a ddarperir.
Un enghraifft o sut mae'r dull gweithredu newydd hwn yn gweithio yw'r llwybrau cenedlaethol y mae'r rhwydwaith wedi eu rhoi ar waith ar gyfer gofal COPD ac asthma. Mae'r rhain yn rhoi cyngor ar ragnodi anadlwyr, gan wella arferion rhagnodi drwy symud i ffwrdd oddi wrth y defnydd o anadlwyr sy'n cael effaith niweidiol fwy sylweddol ar y newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang. Mae data'n dangos bod Cymru ar y blaen i weddill y DU wrth iddi symud at ddefnyddio anadlwyr sy'n cael llai o effaith ar y newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang.
Mae pecyn cymorth anadlol GIG Cymru wedi cael cefnogaeth gan gyrff proffesiynol ac wedi ennill gwobrau ar lefel y DU gyfan.
Enghraifft arall yw sut y mae'r ffordd newydd hon o weithio yn cefnogi trawsnewid ac adfer o fewn gwasanaethau'r GIG. Mae mynediad at spirometreg, sef prawf hanfodol i fesur effeithlonrwydd yr ysgyfaint, a ddefnyddir i gael diagnosis a rheoli cyflyrau megis COPD ac asthma, wedi amrywio ar draws Cymru ers blynyddoedd. Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau anadlol yn nodi'r disgwyliad y dylai'r prawf hwn fod ar gael yn y gymuned i bawb dros 12 oed yn ôl yr angen. Mae'r rhwydwaith yn gweithio gyda'r byrddau iechyd ar eu cynlluniau i wella'r ddarpariaeth o'r prawf hanfodol hwn sy'n asesu effeithlonrwydd yr ysgyfaint. Yn ogystal â hynny, mae gwaith ar y gweill i integreiddio'r dyfeisiau profi gyda systemau digidol cenedlaethol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu lanlwytho'n awtomatig i gofnod clinigol yr unigolyn, a'u bod ar gael i bob clinigydd perthnasol.
Yn olaf, mae'r rhwydwaith wedi goruchwylio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu apiau cymorth hunanreoli, sy'n cael eu defnyddio gan oddeutu 16,000 o bobl sydd ag asthma (gan gynnwys plant a phobl ifanc), neu COPD. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg bod yr apiau hyn yn gallu gwella sut mae'r clefydau’n cael eu rheoli, gan leihau'r galw ar wasanaethau'r GIG. Mae byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd i werthuso effaith y pecyn cymorth clefydau anadlol a'i apiau er mwyn diffinio eu rôl yn nyfodol y gofal a ddarperir gan y GIG.