Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Roedd Deddf Cyllid Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 a’r Fframwaith Cynllunio GIG Cymru cysylltiedig yn nodi dull newydd o weithredu cynlluniau tymor canolig, a bydd yn ofynnol i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau bennu sut y caiff adnoddau eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd er mwyn:
- ymdrin ag anghenion iechyd y boblogaeth a gwella canlyniadau iechyd;
- gwella ansawdd y gofal; a
- sicrhau gwerth gorau o’r adnoddau.
Roedd y Ddeddf a’r Fframwaith hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n gofyn i mi graffu a chymeradwyo cynlluniau, gan alluogi addasiadau yn ôl yr angen i ddyrannu adnoddau rhwng blynyddoedd ariannol. Bydd hyn yn allweddol ar gyfer y trawsnewid sydd ei angen dros gyfnod treigl tair blynedd.
Wrth i Ddeddf Cyllid Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) fynd drwy’r Senedd, yn ei sylwadau gerbron y Pwyllgor Cyllid cymeradwyodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fwriad Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG ddatblygu, craffu a chymeradwyo Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, gan gynnwys cynlluniau ariannol tymor canolig cytbwys, a thrwy hynny gyflwyno elfen o hyblygrwydd a reolir.
Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol hefyd gydnabod rôl hanfodol Llywodraeth Cymru wrth gymeradwyo’r cynlluniau i sicrhau bod yr her a’r manylder priodol yn rhan o’r broses gynllunio.
Mae’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau wedi bod yn datblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig ers hydref 2013, ac yn unol â’r fframwaith maent wedi cyflwyno cynlluniau drafft a ystyriwyd gan y Byrddau gerbron Llywodraeth Cymru i’w hystyried ar 31 Ionawr, a’r cynlluniau terfynol ar 31 Mawrth.
Wrth i Ddeddf Cyllid Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 fynd drwy’r Senedd, rhoddais sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad ar sawl achlysur y byddai cynlluniau ond yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar ôl craffu manwl a chymeradwyaeth ar lefel Bwrdd o gynlluniau’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau, a phan fyddent wedi bodloni gofynion fframwaith cynllunio GIG Cymru.
Roeddwn hefyd wedi egluro nad yw cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r cynlluniau mewn unrhyw ffordd yn ymwrthod ag atebolrwydd Bwrdd Iechyd a Bwrdd Ymddiriedolaeth o ran darparu gwasanaethau, nac yn dylanwadu ar ganlyniad unrhyw brosesau sy’n ofynnol i weithredu’r cynllun. Er enghraifft, dylid cyflawni unrhyw newidiadau i wasanaethau yn unol â’r Canllawiau Ymgysylltu ac Ymgynghori, a byddent yn amodol ar brosesau cymeradwyo arferol achosion busnes.
Yn dilyn proses graffu gadarn, sydd wedi’i sicrhau o ran ansawdd gan aseswyr annibynnol, allanol a’i chydnabod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gallaf gadarnhau fy mod wedi cymeradwyo’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig canlynol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Mae dau Fwrdd Iechyd arall - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - wedi cyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig y cytunwyd arnynt mewn egwyddor gan eu Byrddau, gyda chytundeb terfynol i’w ddisgwyl yn ystod mis Mai. Mae hyn yn dystiolaeth dda o lefel y craffu a’r her y mae’r Byrddau unigol wedi bod yn eu cymhwyso i gynlluniau. Rwyf wedi cytuno i ailgyflwyno’r ddau gynllun erbyn 30 Mai, ac yn dilyn craffu pellach gan Lywodraeth Cymru byddaf yn gwneud datganiad pellach pan fyddaf yn eu cymeradwyo.
Bydd Prif Weithredwr GIG Cymru yn ysgrifennu at Fyrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan, gan egluro’r disgwyliadau o ran perfformiad a’r cyflawniadau allweddol yn y cyfamser.
Yn yr un modd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno Cynllun Tymor Canolig, y cytunwyd arno gan ei Fwrdd mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod y Prif Weithredwr newydd, a fydd yn cychwyn ar ei swydd ar 2 Mehefin, yn cael amser i gyfrannu ato. Hefyd, mae cyd-ddibyniaeth gwasanaethau a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydliadau eraill a’r ddibyniaeth ar weithredu gan Fyrddau Iechyd ar gyfer darparu rhai o wasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn golygu na ellir cwblhau agweddau ar y cynllun nes y bydd holl gynlluniau’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau eraill wedi’u datblygu ymhellach.
Daeth y Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau sy’n weddill i’r casgliad, am resymau da, na allant gyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig manwl ar hyn o bryd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Addysgu Iechyd Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dymuno rhoi ymateb ystyrlon i gasgliadau Astudiaeth Canolbarth Cymru cyn ymrwymo i Gynllun Tymor Canolig. Maent hefyd yn awyddus i ganiatáu digon o amser i weld yr effaith a gaiff newidiadau diweddar, neu newidiadau sydd ar fin digwydd, i bersonél allweddol y Bwrdd.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn datblygu nifer o ddiwygiadau allweddol sy’n deillio o adolygiad McClelland, gan gynnwys sefydlu’n llawn y trefniadau comisiynu newydd a fydd yn hanfodol i adolygu, mewnbynnu a chymeradwyo cynllun ar sail tymor canolig. Dim ond ar 1 Ebrill, 2014 y daeth y fframwaith cyfreithiol newydd i rym, sy’n rheoli’r berthynas rhwng y Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaeth Ambiwlans a’r bwrdd sydd newydd ei benodi.
Am y rhesymau hyn rwyf wedi gofyn i bob un o’r sefydliadau hyn gwblhau a llofnodi cynllun blwyddyn cyn 30 Mai. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â phob un o’r sefydliadau hyn i gytuno ar gerrig milltir allweddol ar gyfer parhau i ddatblygu eu Cynllun Tymor Canolig yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Gyda’i gilydd, mae’r penderfyniadau hyn yn dangos y manylder sydd ei angen er mwyn gwneud y trefniadau a amlinellir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru a Deddf Cyllid Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Gwnaed cynnydd wrth i drefniadau cynllunio tair blynedd aeddfedu o fewn sefydliadau’r GIG.
Rhoddwyd hyblygrwydd ariannol a reolir, ar hyn o bryd, i’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau hynny sy’n gallu dangos bod ganddynt gynllun tair blynedd sy’n cynnwys blaenoriaethau digon integredig, gan gyfuno ystyriaethau o ran y gwasanaeth, o ran y gweithlu ac o ran cyllid.