Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin a chynnig lloches a diogelwch yng Nghymru.

Mae Cymru yn estyn croeso cynnes.

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau ein bod yn bwriadu dod yn “uwch-noddwr” y cynllun Cartrefi i Wcráin – cynllun sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynllun hwn yn darparu llwybr i'r DU am hyd at dair blynedd.

Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gwblhau'r manylion er mwyn gallu gwneud y trefniadau paru unigolion cyntaf o dan y cynllun hwn. Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda chynghorau a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i bobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru.

Mae hyn yn cynnwys cynllunio canolfannau croeso a sicrhau mynediad i'r holl wasanaethau cofleidiol y gallai fod eu hangen ar bobl sy'n cyrraedd o ardal rhyfel.

Rwy’n ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u gwaith caled ar yr adeg dyngedfennol hon.

Mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin yn cael ei gynllunio ar gyfer pobl o Wcráin sydd am ddod i'r DU os oes ganddynt rywun yma sy'n barod i roi cartref iddynt. O dan y cynllun, gall unigolion yn y DU gynnig llety a darparu llwybr i ddiogelwch i bobl o Wcráin, ac aelodau o’u teulu agos, sydd wedi cael eu gorfodi gan y rhyfel i ddianc o’u mamwlad.

Pan fydd ffoadur penodol yn cael ei baru â noddwr penodol sydd wedi cofrestru i ddarparu llety am o leiaf chwe mis, rhoddir fisa i’r ffoadur hwnnw.

Bydd pobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun hwn yn gallu byw a gweithio yn y DU am hyd at dair blynedd a byddant yn cael elwa ar ofal iechyd, budd-daliadau, cymorth cyflogaeth, addysg a chyfleoedd i ddysgu Saesneg.

Mae cynllun ar wahân ar gael i bobl yn Wcráin sydd â theulu yn y DU.

Mae haelioni pobl yng Nghymru a'r cynigion o gymorth i bobl Wcráin wedi creu cryn argraff.

Gall pobl sydd ag ystafell yn eu cartref ac sydd am helpu gofrestru eu manylion ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin ar-lein.

Bydd rhai pobl yn gallu cynnig mwy nag ystafell yn eu cartref yn unig – bydd rhai mewn sefyllfa unigryw i allu cynnig adeilad, tŷ neu eiddo cyfan. Byddwn yn rhoi diweddariad pellach ar sut y gall pobl gynnig cymorth o'r fath i gefnogi ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru.

Gellir rhoi arian i Apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfyngau yn www.dec.org.uk

Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i Aelodau'r Senedd wrth i'r cynllun Cartrefi i Wcráin fynd rhagddo yng Nghymru.