Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf i yn flaenorol wedi hysbysu Aelodau am ein hymgynghoriad ar y Cynllun 'Pan fydda i'n barod' arfaethedig i ganiatáu i bobl ifanc aros gyda'u cyn-ofalwyr maeth y tu hwnt i 18 oed. Roedd hyn yn dilyn gwaith gyda Ken Skates AC, Aelod De Clwyd, i lunio cynllun i gynyddu atebolrwydd corfforaethol awdurdodau lleol i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn gallu pontio'n rhwydd o ofal i fyd oedolion.

Caiff crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad ei gyhoeddi’n fuan ar wefan Llywodraeth Cymru a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gyflwynodd ymateb. Rwyf i'n falch i adrodd bod yr ymgynghoriad wedi dangos bod cefnogaeth eang mewn egwyddor o bob sector ar gyfer gweithredu'r Cynllun. Roedd ymatebion yr ymgynghoriad yn cynnig adborth gwerthfawr yn benodol ar rai materion allweddol ynglŷn â gweithrediad ymarferol y Cynllun y bydd angen eu hystyried ymhellach. Rwyf i felly wedi penderfynu rhoi'r Cynllun ar waith ar sail ‘arloesi' a'i weithredu fel arbrawf mewn nifer fach o awdurdodau lleol yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn caniatáu i ni asesu effaith yr arweiniad cyfredol ac ymdrin ag unrhyw faterion gweithrediadol y bydd angen eu hystyried ymhellach.

Rwyf i wedi gofyn i swyddogion weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a  Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ganfod ardaloedd arloesi addas i gyflwyno'r Cynllun ynddynt ddiwedd y gwanwyn, gan weithredu am hyd at 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn bydd adborth o'r ardaloedd Arloesi yn ein galluogi ni i ystyried datblygu arweiniad pellach yn barod ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith ar draws Cymru.

Rwyf i hefyd yn sefydlu Grŵp Monitro a fydd yn derbyn adroddiadau rheolaidd o'r ardaloedd Arloesi i’n alluogi ni i fireinio'r canllawiau cyfredol lle bo'n briodol, sicrhau eu bod yn gwbl addas i'r diben, a hefyd adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r cyfnod Arloesi. Ni ddylai cyflwyno'r cyfnod Arloesi atal awdurdodau lleol eraill rhag gweithredu cynlluniau tebyg yn eu hardaloedd fel rhan o'u cyfrifoldebau rhianta corfforaethol. Rwyf i'n gwybod bod nifer fawr o awdurdodau lleol eisoes yn gweithredu cynlluniau ôl-18 ac mae'n bosibl y byddant am roi ystyriaeth briodol i fframwaith y Cynllun 'Pan Fydda i'n Barod' y mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei fod yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer  gostyngiad yn y dreth dan y Gorchymyn Rhyddhad Gofal Cymwys (Cynlluniau Gofal Cymdeithasol Penodol).

Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn gosod cefndir ein bwriad datganedig i wneud mwy dros blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru,. Fel rhieni corfforaethol, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael y dechrau gorau bosibl mewn bywyd. Rwyf i'n gobeithio y bydd Aelodau'n parhau i gefnogi datblygiad cadarnhaol y Cynllun a fydd, fe gredaf i, yn rhoi dewisiadau gwell i bobl ifanc ac yn eu helpu i bontio'n gadarnhaol i fyd oedolion.

Byddaf yn parhau i hysbysu aelodau am y cynnydd ac unrhyw gynlluniau ar gyfer gweithredu pellach yng Nghymru.