Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn 2011, cafodd pawb eu syfrdanu wrth glywed am yr achosion ofnadwy o gam-drin oedolion ag anableddau dysgu yn Ysbyty Winterbourne View, ger Bryste. Daeth yr achosion hyn i'r amlwg yn sgil rhaglen Panorama y BBC. Penderfynwyd bryd hynny bod angen gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd achosion o gam-drin o’r fath byth yn digwydd yng Nghymru.  

Ym mis Rhagfyr 2012, cyhoeddodd yr Adran Iechyd ei adroddiad terfynol i’r achosion yn Ysbyty Winterbourne View, sef  'Transforming care: A National Response to Winterbourne View Hospital’ http://www.dh.gov.uk/health/2012/12/final-interbourne/

Roedd hyn y dilyn Adolygiad o Achos Difrifol Ysbyty Winterbourne View a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Oedolion Swydd Gaerloyw ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd. http://www.southglos.gov.uk/Pages/Article Pages/Community Care - Housing/Older and disabled people/Winterbourne-View-11204.aspx

Hoffwn arbed ar y cyfle hwn i roi diweddariad ichi ar y camau a roddwyd ar waith yng Nghymru ers i'r BBC ddarlledu'r rhaglen Panorama ac ers y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddais ym mis Mehefin 2011.  

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gyfrifol am adolygu ansawdd a diogelwch y gofal sy'n cael ei gomisiynu a'i ddarparu gan sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru. Er nad oedd unrhyw un o Gymru yn cael gofal yn Ysbyty Winterbourne View ar yr adeg honno, yn sgil rhaglen Panorama y BBC mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi adolygu a gwella ei methodoleg a'i ffordd o weithio wrth iddi gynnal arolygiadau dirybudd o wasanaethau anableddau dysgu. Bellach, mae'r rhain yn digwydd dros gyfnod o ddeuddydd ac maent yn canolbwyntio llawer yn fwy ar brofiadau'r defnyddwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys mwy o waith arsylwi ynghyd ag adolygu’r cynlluniau gofal/dogfennau'r Ddeddf Iechyd Meddwl (lle bo hynny'n briodol) a siarad gyda staff, perthnasau a gofalwyr, er enghraifft.

Cynhaliwyd arolygiad o bawb sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer anableddau dysgu yn y sector annibynnol gan ddefnyddio’r dull newydd hwn ac aed i'r afael ag unrhyw faterion a nodwyd naill ai yn ystod yr arolygiad neu drwy anfon llythyr dilynol a chynllun gweithredu pan fo hynny'n angenrheidiol. Bydd yr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn parhau i gynnal arolygiadau dirybudd o leiaf unwaith y flwyddyn ond byddant yn cynnal arolygiadau'n amlach os daw unrhyw fater sydd angen iddi gymryd camau ar unwaith neu ymchwilio i'r mater i’w sylw.

Yn ddiweddar, mae Gofal Iechyd Cymru wedi ymestyn ei raglen arolygu i gynnwys darparwyr sy'n gyfrifol am wasanaethau anableddau dysgu o dan y GIG.  Yn ogystal â hyn, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cwrdd â chomisiynwyr GIG Cymru a chomisiynwyr o Dde-orllewin Lloegr i egluro'r rolau a'r cyfrifoldebau perthnasol o ran gwasanaethau anableddau dysgu a'u lleoliadau, ac i gryfhau'r trefniadau rhannu gwybodaeth ac unrhyw fater sy'n codi am unrhyw ddarparwr.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). 

 
Rôl AGGCC yw arolygu ac adolygu gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol, ynghyd â rheoleiddio ac arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal. Roedd Winterbourne View wedi'i chofrestru fel ysbyty preifat ond er hynny mae hefyd yn bwysig rhoi blaenoriaeth i ddiogelu hawliau pobl sydd ag anableddau dysgu ac sy'n byw mewn cartrefi gofal.  

Pan ddaeth y pryderon hyn i’r amlwg, roedd y dull o reoleiddio ac arolygu a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn dra gwahanol i'r hyn a fabwysiadodd AGGCC. Yn wahanol i'r Comisiwn Ansawdd Gofal, mae AGGCC wedi cynnal arolygiadau blynyddol mewn cartrefi gofal erioed gan arolygu gwasanaethau sy’n destun pryderon yn amlach. Mae AGGCC yn ystyried y byddai'r broses o reoleiddio sy'n bodoli yng Nghymru wedi gallu nodi’r pryderon a roddwyd sylw iddynt gan yr Adolygiad o Achos Difrifol ac ymateb iddynt, a hynny am fod arolygiadau:  

  • yn canolbwyntio ar ansawdd bywyd ynghyd â hawliau a rheolaeth;
  • yn defnyddio dulliau arsylwi sy'n canfod achosion o gam-drin mewn sefydliadau; ac
  • wedi cyflwyno ymateb rhagweithiol i bryderon sy'n dod i law.

Er 1 Hydref 2012, mae AGGCC wedi sefydlu proses gofrestru a gorfodi newydd gan gynnwys cymryd camau pan fo cartref yn methu penodi rheolwyr cofrestredig mewn pryd.  Mae hefyd yn bwriadu defnyddio pobl sydd ag anabledd dysgu a gofalwyr i ymweld â chartrefi gofal fel ymwelwyr annibynnol, ac mae hyn bellach yn cael ei dreialu yn y De-orllewin.

Grŵp Cynghori ar Anabledd Dysgu 

Y llynedd, sefydlwyd Grŵp Cynghori ar Anabledd Dysgu i roi cyngor imi ar y gwaith o lunio polisi ar anableddau dysgu o fewn cyd-destun ein rhaglen ddiwygio, sef Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, ac ar faterion perthnasol. Yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi 2012, cytunodd y Grŵp mai un o'i flaenoriaethau fyddai rhoi cyngor imi ar y gwersi sydd i’w dysgu drwy'r hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty Winterbourne View a'r camau sydd angen eu cymryd yng Nghymru i wella'r modd y caiff pobl sydd ag anableddau dysgu eu diogelu a'r gofal a gânt. I gyflawni'r gwaith hwn, bydd y Grŵp yn cael cymorth gan Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol a chaiff y cyfarfodydd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Hefyd, byddaf yn ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol i'w hatgoffa am y 'Rhestr Gyfeirio Hunanasesu ar gyfer Pobl sydd ag Anabledd Dysgu ac Ymddygiad Heriol.' Lluniwyd hon gan is-grŵp o blith y grŵp cynghori blaenorol ar anabledd dysgu.  

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Fel y nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddais ar 18 Hydref 2012, mae'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a fydd yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan Lywodraeth Cymru yn gynnar eleni, yn cynnwys darpariaethau i gryfhau'r dulliau o ddiogelu pobl sydd mewn perygl yng Nghymru. Bydd yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol ystyrlon ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod ymateb aml-asiantaethol i achosion o gam-drin oedolion yr un mor gyson, mor gydgysylltiedig ac mor gadarn â'r modd yr ymatebir i achosion o gam-drin plant.

 
Bydd y fframwaith yn cynnwys diffiniad o 'oedolyn mewn perygl' ac yn gosod  rhyw fath o ddyletswydd ar amrywiaeth o asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaethau iechyd, i adrodd, cydweithredu, ymchwilio a rhannu gwybodaeth.

 
Bydd Corff Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn cael ei sefydlu a bydd yn cynghori'r Gweinidogion ynghylch pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r trefniadau diogelu, a pha gamau y dylid eu cymryd er mwyn helpu i gryfhau polisi a gwella arferion. Bydd gan y Bwrdd aelodau arbenigol a byddant yn rhoi cefnogaeth a chyngor i Fyrddau Diogelu i sicrhau eu bod yn effeithiol.

Y Papur Gwyn ar Reoleiddio ac Arolygu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Bil.

Bydd y Papur Gwyn ar Reoleiddio ac Arolygu'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd i'r afael â materion sylfaenol ym maes reoleiddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys y gwaith o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant ac oedolion, rheoleiddio'r gweithlu a’r hyfforddiant ynghyd â’r gwaith o reoleiddio ac arolygu'r awdurdodau lleol. Rydw i wedi ymrwymo i gyhoeddi'r Papur Gwyn eleni at ddiben ymgynghori. Ar hyn o bryd, disgwylir y bydd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu yn cael ei gyflwyno ar gyfer craffu yn gynnar yn 2015.

Y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Yng Nghymru, rydym eisiau ennyn hyder y cyhoedd mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.  Nid yn unig y bydd hyn yn cydnabod yn well y gwaith da a wneir gan weithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rheini sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, ond byddai hefyd yn ein cynorthwyo i recriwtio a chadw'r bobl fwyaf galluog a'r gorau yn y sector.

Er mwyn proffesiynoli'r gweithlu ymhellach, rydym yn datblygu nifer o gynlluniau, ar y cyd â'n partneriaid. Mae'r rhain yn cynnwys llunio Strategaeth Gweithlu ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol i gyd yng Nghymru. Bydd y strategaeth hon yn amlinellu'r ffordd ymlaen ar gyfer y gweithlu hwn dros y 10 mlynedd nesaf fel bod modd gwireddu'r ymrwymiad i greu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Rydym hefyd yn bwriadu datblygu llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac rydym yn ystyried ymestyn pwerau cyfredol y Cyngor Gofal fel bod modd iddynt reoleiddio'r gwaith o hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol. Drwy wneud hynny, gall gweithwyr gofal cymdeithasol gael cynnig hyfforddiant a chymwysterau sydd yn gyson o safon uchel. Yn olaf, rydym yn ymestyn y gwaith o reoleiddio rheolwyr ym maes gofal cymdeithasol i gynnwys rheolwyr gofal cartref, a hynny oherwydd y dylanwad sylweddol y mae'r rolau hyn yn ei gael ar arferion o ddydd i ddydd.

Yn gyffredinol, ac i'r graddau y bo hynny'n bosibl, dylai bod modd lleihau'r risg o achosion o gam-drin, tebyg i'r hyn a welwyd yn Ysbyty Winterbourne View, rhag digwydd yng Nghymru. Rydym wedi mynd ati eisoes i gryfhau'r gweithlu a'r modd y caiff arolygiadau eu cynnal, a dylai hynny, ynghyd â chamau i ymgysylltu mwy â'r darparwyr ac i ddefnyddio gwybodaeth yn well, a'r gwelliannau a fydd yn dod yn sgil Bill Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), fod o gymorth yn hyn o beth.

Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae yna wastad feysydd y gellid eu gwella a'u hatgyfnerthu ac mae angen ymateb yn effeithiol i'r rhai sy'n codi'r pryderon.  Mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus i sicrhau bod y rheini sydd mewn perygl yn ein cymdeithas yn cael eu diogelu'n iawn a'u hanghenion o ran gofal a thriniaeth yn cael sylw llawn.