Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth 2011, cytunodd Llywodraeth Cymru i ystyried a oes mwy y gellid ei wneud i atgyfnerthu'r polisïau y mae’r Llywodraeth yn gyfrifol amdanynt o ran gwneud ein partneriaid yn fwy atebol am y  plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ymuno â'r system cyfiawnder ieuenctid, neu sydd eisoes yn rhan ohoni. Amlinellwyd hyn yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Yn hydref 2012, cyhoeddwyd Papur Gwyrdd i ymgynghori ar y cynigion i wella’r gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ymuno â'r system cyfiawnder ieuenctid, neu sydd eisoes yn rhan ohoni. Ym mis Hydref 2013, cyhoeddais fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ailintegreiddio ac yn ail-ymgartrefu'n effeithiol yn dilyn dedfryd gymunedol neu ddedfryd o garchar. Lansiwyd Papur Gwyn ar 5 Chwefror 2014, a daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 30 Ebrill 2014. Cyhoeddir yr ymatebion i'r Papur Gwyn maes o law.

Er fy mod yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella'r trefniadau a'r gwasanaethau ar gyfer y bobl ifanc hyn i'w helpu i dorri'r cylch dieflig o aildroseddu, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chyflwyno'r Bil i'r Cynulliad hwn. Penderfynwyd y dylai cynlluniau ar gyfer y dyfodol ystyried yr Adroddiad ar y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru a'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, ac y dylai’r cynlluniau gael eu halinio â chynnwys yr Adroddiadau hyn.  

Byddaf yn parhau i weithio'n agos â'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i wella gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau ailymgartrefu, er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ymuno â'r System Cyfiawnder Ieuenctid, neu sydd eisoes yn rhan ohoni, yn cael eu bodloni’n well. Byddwn yn lansio Strategaeth ar y cyd rhwng y Llywodraeth a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn fuan; bydd y Strategaeth yn canolbwyntio ar wella’r dulliau o weithio mewn partneriaeth a rhoi gwell cefnogaeth i bobl ifanc a phlant yn y system cyfiawnder ieuenctid. I ddangos fy mod yn parhau i gefnogi trefniadau partneriaethau lleol drwy’r Gronfa Atal Troseddau Ieuenctid, byddaf yn cyfrannu £4.9 miliwn yn 2014-15 tuag at y prosiectau a nodir gan bartneriaid yn eu Cynlluniau Busnes Rhanbarthol.

Bydd y Llywodraeth yn monitro effaith y trefniadau hyn ac yn adolygu'r angen am ddeddfwriaeth yn y dyfodol.