Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn gynnig diweddariad i Aelodau ar argaeledd gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg i gefnogi cymwysterau diwygiedig.

Gan gydnabod y pryderon sydd wedi'u mynegi ynghylch argaeledd gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg, mae fy swyddogion wedi gweithio’n agos gyda CBAC i edrych ar wella’r sefyllfa yn y tymor byr.

Rwy’n falch o ddweud bod hyn wedi arwain at arferion gweithio newydd sydd wedi helpu i leihau'r bwlch rhwng amserlen cyhoeddi’r gwerslyfrau yn Saesneg a'u cyhoeddi yn Gymraeg.

Cymerwyd camau cadarnhaol a chreadigol i wella'r sefyllfa, megis rhoi fersiynau drafft o’r  gwerslyfrau ar wefan ddiogel CBAC cyn bo copïau am ddim o fersiynau printiedig ar gael i’w dosbarthu i ysgolion. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnwys ar gael yn gynharach o lawer i athrawon a dysgwyr. Mae adnoddau digidol newydd hefyd yn cael eu datblygu ac adnoddau cyfredol yn cael eu diwygio i lenwi unrhyw fylchau. Mae ‘r rhain ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan CBAC.

Bydd Cymwysterau Cymru yn rhoi gwybod i ysgolion yr wythnos hon o’r cymwysterau sy’n cael eu cyflwyno yn 2017 a bydd yn darparu gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ac wedi'i chynllunio ar gyfer y cymwysterau hyn.

Fodd bynnag, hoffwn roi ar ddeall mai ateb dros dro ar gyfer y diwygiadau i’r cymwysterau presennol ydy hyn. Fel rwyf wedi datgan eisoes, rwy’n anfodlon gyda’r sefyllfa bresennol ac nid wyf yn disgwyl bod dysgwyr cyfrwng Cymraeg dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb tymor hir ar gyfer y mater hwn. Mae angen i ni hefyd gynllunio ar gyfer gofynion adnoddau y cwricwlwm newydd - yn Gymraeg a Saesneg - yn y dyfodol.

Ar 30 Tachwedd, cyhoeddais fy mwriad i gynnal uwchgynhadledd i edrych ar ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hyn. Bydd yr uwchgynhadledd hon yn digwydd ar 26 Ebrill.

Rwy’n awyddus i glywed beth all y sector addysg a'r sector creadigol yng Nghymru ei hun ei wneud i fynd i'r afael â’r methiant hwn yn y farchnad. Byddwn yn dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd i ymchwilio i ffyrdd o gynhyrchu adnoddau yn y dyfodol, yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfer y cwricwlwm diwygiedig a chymwysterau.

Mae datblygu cwricwlwm newydd, yng Nghymru, yn rhoi cyfleoedd i ni weithio gyda'n gilydd, i rannu ein harbenigedd a'n profiadau ac edrych ar ffyrdd arloesol o ddarparu adnoddau i gefnogi ein hathrawon a’n dysgwyr. Rwyf hefyd am sicrhau bod rhieni a dysgwyr yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu'n well drwy ddarparu adnoddau dysgu perthnasol ar y stryd fawr. Rwy'n disgwyl i lyfrwerthwyr i weithio gyda Llywodraeth Cymru, CBAC a chyhoeddwyr ar hyn.

Mae’r trafodaethau cychwynnol sydd wedi'u cynnal gyda’r sector cyhoeddi yng Nghymru wedi bod yn addawol ac maent yn barod i dderbyn yr her o sicrhau bod adnoddau addysgol amserol a phriodol ar gael, yn Gymraeg a Saesneg,  i ddiwallu anghenion ein cwricwlwm newydd a'n cymwysterau yn y dyfodol.

Rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach ar y mater yn dilyn yr uwchgynhadledd.