Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n hawdd deall bod yr adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi achosi pryder ymysg defnyddwyr gwasanaethau am gynnydd ein cynlluniau i wella mynediad at wasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo o hyd i’r cynlluniau i wella'r gwasanaethau ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau.
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ym mis Awst 2017 a oedd yn cyfeirio at ddwy gydran o’r gwelliannau arfaethedig y cytunwyd arnynt gan Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru. Mae'r ddwy gydran yn hanfodol er mwyn darparu'r llwybr gofal llawn i gleifion sydd angen therapi hormonau hirdymor fel bod modd darparu ar gyfer anghenion gofal iechyd y rhan fwyaf o’r cleifion yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i brosiect dan arweiniad y gwasanaeth iechyd i gydlynu'r gwelliannau i wasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd.
Yn gyntaf, bydd sefydlu'r tîm arbenigol ‘Tîm Rhywedd Cymru' yn caniatáu i gleifion gael eu hasesu a dechrau ar eu triniaeth, os oes ei hangen, yma yng Nghymru. Byddai hyn yn lleihau pellteroedd ac amseroedd teithio a bydd hefyd, dros amser, yn lleihau'r amseroedd aros y mae pobl Cymru yn eu profi ar hyn o bryd cyn dechrau ar y driniaeth.
Bydd Tîm Rhywedd Cymru yn wasanaeth amlddisgyblaethol a fydd wedi’i leoli yn y lle cyntaf yng Nghaerdydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn cynllunio'r gwasanaeth newydd, ac rydym yn disgwyl i'r achos busnes terfynol fod yn barod o fewn yr wythnosau nesaf.
Bydd angen i nifer o staff medrus ymuno â Thîm Rhywedd Cymru, a bydd angen iddynt gael hyfforddiant arbenigol pellach. Mae tîm y prosiect yn gweithio gyda’r rheini sy’n darparu gwasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd ar hyn o bryd i sicrhau bod gan y tîm newydd y sgiliau sydd ei angen arno i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Mae'r tîm hefyd yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau presennol i bennu proses er mwyn i’r cleifion sydd ar y rhestrau aros am driniaeth ar hyn o bryd gael eu trosglwyddo i Dîm Rhywedd Cymru. Rhagwelir y bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau gweld cleifion o'r gwanwyn ymlaen, os bydd staff sydd â'r sgiliau priodol wedi'u recriwtio a bod modd rheoli effaith eu recriwtio ar wasanaethau hanfodol eraill.
Bydd Tîm Rhywedd Cymru yn darparu cymorth clinigol ar gyfer y brif gydran arall, sef rhwydwaith bach o feddygon teulu yng Nghymru sydd â diddordeb arbenigol mewn triniaeth hunaniaeth o ran rhywedd. Mae Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o'r gwasanaeth iechyd wedi cynnal trafodaethau â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru dros y misoedd diwethaf ynghylch model ar gyfer y gwasanaeth gofal sylfaenol.
Yn fwyaf diweddaraf, cafwyd cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru ar 29 Ionawr. Cytunwyd i weithredu model dros dro ar gyfer gofal sylfaenol er mwyn diwallu anghenion cleifion dros y tymor byr.
Bydd nifer bach o feddygon teulu sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol yn rhoi gofal sylfaenol i gleifion sydd â dysfforia rhywedd, dan gyfarwyddyd clinigydd arbenigol ym maes hunaniaeth o ran rhywedd. Os nad yw meddyg teulu claf wedi cael hyfforddiant i ddarparu therapi hormonau hirdymor, bydd y meddyg teulu hwnnw yn gallu atgyfeirio cleifion at un o'r meddygon teulu sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Fodd bynnag, nod y model newydd fydd sicrhau bod cleifion sy'n cael gofal hirdymor gan eu meddyg teulu, sy'n hyderus yn darparu'r gofal hwn, yn gallu parhau i wneud hynny.
Bydd y Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r defnyddwyr gwasanaeth am y newidiadau hyn yn rheolaidd.
Rwy'n teimlo'n gryf y dylai anghenion gofal iechyd pob person trawsryweddol allu cael eu diwallu mor agos at y cartref â phosibl, fel sy’n wir yn achos pob un o gleifion GIG Cymru. Mae pawb sydd ynghlwm â’r gwaith wedi ymrwymo o hyd i ddarparu gofal trawsryweddol, a hynny ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd.