Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu camu yn ôl o gyflwyno’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a gweithredu Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 (Deddf 2019). Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd y ddeddfwriaeth angenrheidiol i weithredu'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cael ei chyflwyno yn ystod Senedd bresennol y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn hynod siomedig gyda'r penderfyniad hwn i beidio â bwrw ati i weithredu ar hyn o bryd. Mae’r hawl i ryddid yn un o'n hawliau dynol mwyaf sylfaenol.
Trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yw’r cynllun sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer asesu ac awdurdodi ceisiadau amddifadu o ryddid. Cafodd y cynllun hwn ei gyflwyno i amddiffyn hawliau dynol yr unigolion hynny sydd â diffyg galluedd meddyliol i gydsynio i gael eu hamddifadu o'u rhyddid. Yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos “Cheshire West”, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf 2019, gyda'r bwriad o ddiddymu’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid a rhoi’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar waith yn eu lle. Yn wahanol i’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (sydd ond yn berthnasol i drefniadau mewn cartrefi gofal ac ysbytai ac i bobl 18 oed a throsodd), byddai'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn berthnasol ym mhob lleoliad a hefyd i unrhyw un sy'n 16 oed a throsodd.
Er bod gweithredu Deddf 2019 yn faes a gedwir yn ôl, ar adeg cychwyn y Ddeddf, byddai gan Weinidogion Cymru bwerau gwneud rheoliadau mewn meysydd penodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl gefnogol o'r diwygiadau y byddai'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid wedi eu cyflwyno. Ers i'r Ddeddf dderbyn y Cydsyniad Brenhinol yn 2019, rydym wedi bod yn llunio rheoliadau i Gymru ac wedi gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Cod Ymarfer yn dangos y safbwynt polisi ar gyfer Cymru.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar reoliadau drafft i Gymru, ynghyd â'n cynigion ar gyfer cefnogi'r gweithlu i baratoi i'w gweithredu. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru hefyd ar rolau Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i fonitro’r trefniadau newydd ac adrodd arnynt, gyda chymorth am y tro cyntaf gan Estyn i ddangos cwmpas ehangach y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid sy’n cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed.
Rydym i gyd yn rhannu'r un nod i barhau i integreiddio ac ymwreiddio egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf 2019 mewn gofal, cymorth neu driniaeth o ddydd i ddydd, er mwyn osgoi dyblygu gwaith a chreu biwrocratiaeth yn ddiangen i unigolion a’u teuluoedd, ac i ymarferwyr yn yr un modd, gan eu galluogi i rannu gwybodaeth a’i defnyddio yn gyfreithlon ac yn briodol.
Er gwaethaf penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU, dyma yw ein nod a'n huchelgais ar gyfer pobl Cymru o hyd. Nid yw safbwyntiau a gwaith pawb a wnaeth ein helpu i ddatblygu a siapio cynnyrch yr ymgynghoriad, yn ogystal â phawb a gynigiodd eu barn ar yr ymgynghoriad, yn ofer. Maent wedi cael eu cofnodi a'u cadw i'n cefnogi i amddiffyn a gwella hawliau pobl o dan Ddeddf 2019.
Cydnabuwyd yn eang fod nifer o heriau yn gysylltiedig â'r system bresennol o drefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, yn enwedig yn sgil y cynnydd yn nifer y ceisiadau o dan y trefniadau hynny – cynnydd sydd wedi cael ei weld ar draws Cymru a Lloegr, ill dwy.
Yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU, bydd angen inni ystyried sut i gryfhau'r system bresennol o drefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yng Nghymru a pharhau i amddiffyn a hybu hawliau dynol yr unigolion hynny â diffyg galluedd meddyliol. Mae rhanddeiliaid yng Nghymru wedi darparu tystiolaeth a chymorth sylweddol i'n helpu i siapio'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid i Gymru. Yn dilyn y penderfyniad diweddaraf hwn gan Lywodraeth y DU, mae'n briodol inni ymgysylltu unwaith eto â'r rhanddeiliaid hyn er mwyn inni allu gwrando a chlywed beth y gallwn ei wneud yn awr i fynd i'r afael â rhai o'r heriau presennol o ran y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith presennol o gymhwyso’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, ac yn cryfhau'r sefyllfa y bydd Cymru ynddi i bontio i'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn y dyfodol.
Neilltuwyd £8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2022/23 i gefnogi paratoadau ar gyfer y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Gan nad oedd y rheoliadau a'r Cod Ymarfer yn derfynol ar y pryd, defnyddiwyd swm sylweddol o'r cyllid hwnnw ar gyfer darparu hyfforddiant ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol, ac i reoli'r system bresennol o drefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa gryfach i bontio i'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Er gwaetha’r penderfyniad gan Lywodraeth y DU i beidio â gweithredu'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn ystod Senedd bresennol y DU, mae'r cyllid hwn yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer amddiffyn hawliau'r rheini â diffyg galluedd meddyliol o dan y system bresennol o drefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid. Bydd Llywodraeth Cymru felly yn parhau i ddarparu cyllid ar lefel debyg i lefelau 2022/23, er mwyn sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu hamddiffyn cyn i’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid gael eu gweithredu yn y dyfodol.
Er bod Llywodraeth Cymru yn hynod siomedig gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â gweithredu'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn ystod Senedd bresennol y DU, mae'n hollbwysig na fydd y momentwm sydd wedi’i fagu diolch i gyfraniadau rhanddeiliaid yng Nghymru yn mynd yn ofer. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i wella gwasanaethau ar gyfer y rheini â diffyg galluedd meddyliol, gan baratoi hefyd ar gyfer unrhyw benderfyniad yn y dyfodol gan Lywodraeth y DU i weithredu'r diwygiadau angenrheidiol a nodwyd yn Neddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.