Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2019
Diweddarwyd diwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’) yn canolbwyntio darpariaeth gofal a chymorth yn gadarn ar unigolion, gyda llais cryfach a mwy o reolaeth, o fewn system gofal cymdeithasol fwy integredig. Roedd y Ddeddf honno – a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016 – yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill, i asesu, cynllunio a darparu neu drefnu gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yn eu hardaloedd, gyda ffocws ar wella canlyniadau i unigolion a’u gofalwyr. Mae’r ddeddf ategol, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’) a’r rheoliadau ynghlwm â hi, yn gosod gofynion cymesur a phriodol ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau o safon y gellir ei harddangos, ac yn rhannu’r un amcanion o ddiwallu anghenion unigolion a hyrwyddo llesiant. Mae’r datganiad hwn yn darparu diweddariad ynghylch y camau diweddar o’r gwaith o weithredu Deddf 2016 yn raddol.

Cofrestru gwasanaethau rheoleiddiedig

Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai’r system newydd o reoleiddio gwasanaethau yn cael ei rhoi ar waith ac yn weithredol ar gyfer yr holl wasanaethau rheoleiddiedig erbyn mis Ebrill 2019. Ar gyfer gwasanaethau Cam 2 – cartrefi gofal, llety diogel, canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref – daeth rheoliadau i rym ym mis Chwefror a mis Ebrill 2018. Ers hynny, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi ailgofrestru dros 1,300 o oddeutu 1,750 o wasanaethau, gyda’r gweddill i’w cwblhau erbyn diwedd Mehefin.

Mae’r arolygiaeth wedi gweithio’n helaeth gyda darparwyr i sicrhau bod eu ceisiadau (ac felly’r wybodaeth sydd gan AGC ar gyfer eu cofrestru a’u harolygu) wedi’u cwblhau’n gywir ac yn llawn, ac felly’n hwyluso eu llwybr i ailgofrestru yn y pen draw. Cafodd rheoliadau cyfatebol yn gosod y safonau sy’n ofynnol o wasanaethau Cam 3 – lleoli oedolion, gwasanaethau eiriolaeth statudol, maethu a mabwysiadu plant – eu pasio gan y Cynulliad hwn yn gynharach eleni a daethant i rym ar 29 Ebrill. Cyn belled bod y gwasanaethau hyn yn ailymgeisio i gofrestru – neu yn achos gwasanaethau eiriolaeth, yn gwneud cais am y tro cyntaf – erbyn 31 Awst, mae AGC yn rhagweld y bydd cofrestriadau’n cael eu penderfynu erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Gwasanaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol

Gan nad yw gwasanaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol yn ‘wasanaethau rheoleiddiedig’ o fewn ystyr Deddf 2016, ni fydd angen iddynt gofrestru gydag AGC ond byddant yn parhau i gael eu harolygu ganddynt. Fodd bynnag, mae wedi bod yn amcan polisi gennym i weithredu’r un safonau, i’r graddau y bo’n briodol, ar draws gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau awdurdodau lleol. I gyflawni hyn, rydym wedi defnyddio pwerau o dan Ddeddf 2014 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, yn y drefn honno, i osod gofynion cyfatebol ar y gwasanaethau hyn. Rwy’n hyderus, drwy’r gofynion craidd yr ydym wedi’u rhoi ar waith – gan gynnwys y rhai hynny sy’n ymwneud â llywodraethu gwasanaethau, y ffordd y cânt eu cynnal, sut y dylid eu staffio a sut maent yn cefnogi ac yn diogelu pobl – ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig a gwasanaethau awdurdod lleol, ein bod wedi cyflawni’r dull gweithredu cyson a ddymunir, gan nodi a gwneud addasiadau er mwyn sicrhau bod pob set o reoliadau yn darparu’r ateb gorau ar gyfer y gwasanaeth penodol.

Atebolrwydd am wasanaethau rheoleiddiedig

Mae Deddf 2016 a rheoliadau cysylltiedig yn gosod dyletswyddau a chyfrifoldebau clir ar berchnogion gwasanaethau rheoleiddiedig yn rhinwedd eu swyddogaeth fel darparwyr ac fel cyflogwyr yn y sector gofal a chymorth. Maent hefyd yn gofyn am ddynodi ‘unigolyn cyfrifol’ ar gyfer pob gwasanaeth, a fydd yn gorfod bodloni meini prawf cymhwyster ac yn destun dyletswyddau uniongyrchol i sicrhau rheolaeth a goruchwyliaeth effeithiol o’r gwasanaeth; sicrhau cydymffurfiaeth y gwasanaeth (yn enwedig o ran cadw cofnodion a pholisïau a gweithdrefnau) ac arwain ar fonitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth. Yn y cyfamser, mae rheolwyr gwasanaeth, sydd i gael eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), yn cadw’r cyfrifoldeb dros redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd. Mae’r rhain yn nodweddion pwysig wrth symud atebolrwydd cyfreithiol am berfformiad cyffredinol a diogelwch gwasanaethau rheoleiddiedig tuag at ddarparwyr a phenderfynwyr allweddol, yn hytrach na’r rhai sy’n darparu gofal a chymorth, o unigolyn i unigolyn.

Mae’r rheoliadau’n cymryd agwedd gymesur ac, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, agwedd gynhwysol at greu troseddau ar gyfer yr holl wasanaethau rheoleiddiedig , gan sicrhau y gall gwasanaethau eu deall ac y gall AGC eu gorfodi. Mae’r rheoliadau yn diffinio pa dramgwyddau a fydd yn drosedd yn awtomatig a’r rhai lle gall trosedd gael ei chyflawni os ydynt yn arwain at achosion lle mae pobl yn agored i niwed y gellir ei osgoi, colli arian neu eiddo. Mae llawer ohonynt yn ailadrodd neu’n addasu troseddau presennol ac, yn seiliedig ar ddata diweddar a dull gorfodi AGC – fel yr amlinellwyd yn eu polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi – rydym yn rhagweld mai dewis olaf fydd dwyn darparwyr ac unigolion cyfrifol i gyfrif. Bydd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad yr wythnos diwethaf, yn cynnig opsiwn gorfodi arall ac yn gweithredu fel dull ataliol pellach. O fis Gorffennaf 2019, bydd y rhain yn disodli rheoliadau a wnaed yn 2017 ac yn ymestyn opsiwn AGC i ddyfarnu cosb yn hytrach na mynd ar drywydd erlyniad am rai troseddau i bob gwasanaeth rheoleiddiedig.

Y camau nesaf

Gan fod elfennau gweithredol hanfodol Deddf 2016 yn eu lle bellach, bydd gwaith yn parhau gydag AGC, GCC, darparwyr a dinasyddion i weithredu’r fframwaith, gan gynnwys gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i sicrhau ein hamcanion polisi yng ngoleuni profiad neu gyfeiriad y gwaith. Wedi ailsefydlu systemau effeithiol ac ymatebol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu tua 1,800 o wasanaethau a’u gweithlu (dros 60,000 o bobl), bydd hyn yn cymryd amser i ymsefydlu, ond mae’r gwaith sydd wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf a mwy, ar y cyd â rheoleiddwyr a rhanddeiliaid allweddol, wedi rhoi sicrwydd i mi ein bod wedi adeiladu sylfaen gydlynol a chadarn i weithredu arni. Rwyf hefyd yn hyderus ein bod wedi sefydlu system sydd yn ddigon hyblyg i ganiatáu cynnwys gwasanaethau a modelau gofal a chymorth newydd oddi mewn i’r maes rheoleiddio, pan a phryd y bydd angen hynny.

Maes o law, bydd mecanweithiau adrodd sydd wedi’u cynnwys yn Neddf 2016, gan gynnwys datganiadau blynyddol gan ddarparwyr gwasanaethau (o fis Mai 2020) ac adroddiadau blynyddol gan AGC a GCC, yn rhoi syniad o sut mae’r newidiadau a ragwelwyd wrth ddatblygu a gweithredu’r Ddeddf yn cael eu cyflwyno. Bydd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr yn y ffynonellau hyn, yn gwneud y defnydd gorau o’r wybodaeth a gyflwynir, a, lle nodir hynny, yn cymryd camau priodol ac amserol, gan hysbysu Aelodau’n rheolaidd. 

Rwyf am i’r sector cyfan sianelu ymdrechion i gyfathrebu’r newidiadau allweddol i’r ddeddfwriaeth a’r system i’r cyhoedd, fel bod gan bobl sy’n derbyn gofal a chymorth, a’u teuluoedd, neu’r rhai sy’n dymuno dewis eu gwasanaethau gofal cymdeithasol, well syniad o’r hyn y gallant ac y dylent ei ddisgwyl. O 2021, rydym hefyd yn bwriadu defnyddio pwerau o fewn Deddf 2016 i gyflwyno system sgorio gadarn ond teg a chyson ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, fel rhan o’r broses arolygu, er mwyn sicrhau tryloywder pellach ac annog gwelliant. Mae cryfhau llais a rheolaeth yn gonglfaen y fframwaith cyfreithiol a roddwyd ar waith gennym, a bydd codi ymwybyddiaeth o’r hawliau oddi tano yn helpu i sicrhau hyn.

Hoffwn ddiolch i’r rheoleiddwyr, y rhanddeiliaid a’r aelodau am gyfrannu eu harbenigedd yn y meysydd hyn. Mae hyn wedi dylanwadu’n sylweddol ar ddatblygiad y rheoliadau a’r canllawiau neu godau ymarfer cysylltiedig sydd bellach ar waith. Rwyf hefyd yn canmol AGC am lwyddiant ei gweithgarwch gweithredu ei hun - digido cofrestriad; ail-gysoni fframweithiau arolygu a gorfodi; ailhyfforddi arolygwyr, a’u parodrwydd i wneud hynny, a’r cymorth helaeth a gynigiwyd i ddarparwyr wrth eu paratoi ar gyfer cofrestru a rheoleiddio parhaus o dan Ddeddf 2016.

Mae’r Hyb Gwybodaeth a Dysgu, sy’n cael ei gynnal gan GCC, yn cynnig mynediad i adnoddau’n ymwneud â deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n cynnwys dolenni i’r rheoleiddiadau, canllawiau a chodau ymarfer a wnaed o dan y ddwy Ddeddf.

https://gofalcymdeithasol.cymru/hyb/rheoleiddio-ac-arolygu

https://gofalcymdeithasol.cymru/hyb/deddf-sswb