Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 9 Hydref 2018, rhoddais Ddatganiad Llafar i Aelodau’r Cynulliad ar y pryderon ynglŷn â’r ddarpariaeth gofal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn y datganiad, ymrwymais i gomisiynu adolygiad allanol o wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, i’w gynnal ar y cyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.

Cynhaliwyd yr adolygiad yr wythnos diwethaf (15-17 Ionawr), pan dreuliodd y tîm adolygu dridiau yn y bwrdd iechyd yn siarad â theuluoedd a staff. Cafodd y canfyddiadau cychwynnol eu cyfleu i’r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru ddydd Iau 17 Ionawr 2019 a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2019. Gofynnwyd yn benodol i’r tîm adolygu gynghori ar y camau pellach y bydd angen eu cymryd i sicrhau bod gofal diogel o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i famau a babanod, a bod y systemau llywodraethiant a sicrwydd yn cael eu gwella yn unol â’r safonau a’r arferion gorau yn genedlaethol.

Daeth nifer o bryderon amlwg o ran ansawdd a diogelwch i’r golwg yn sgil adborth cychwynnol y tîm adolygu. Rydym wedi cytuno ar fyrder ar nifer o gamau gweithredu gyda’r Colegau Brenhinol a Chwm Taf er mwyn gwneud gwelliannau ar unwaith i sicrhau diogelwch y gwasanaethau mamolaeth. Cymerodd y bwrdd iechyd gamau cyn y penwythnos mewn perthynas â rhai o’r pryderon, ac rydym yn disgwyl iddynt roi camau eraill ar waith rhag blaen.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i weithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd, gan gadw golwg yn barhaus ar y camau gweithredu  a gymerwyd yn syth.  Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cael gwybod am y canfyddiadau cychwynnol.  Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i weithio’n agos gydag Uned Gyflawni Llywodraeth Cymru i adolygu’r prosesau llywodraethiant ac i sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i ddigwyddiadau, a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu trosglwyddo.

Un o’r agweddau y mae’r gwaith wedi bod yn canolbwyntio arno hyd yma yw sicrhau lefelau priodol o staff bydwreigiaeth ac obstetreg, arweinyddiaeth glinigol gref a threfniadau llywodraethiant gwell. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael eu sicrhau gan y bwrdd iechyd bod y lefelau staffio presennol yn ddiogel o ran bydwreigiaeth ac obstetreg. Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n recriwtio i swyddi gwag ar gyfer bydwragedd ac obstetregwyr

Diogelwch a lles y mamau a’r babanod sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf sy’n cael ein prif sylw o hyd. Fel rhiant fy hun, rwy’n deall y pryderon a’r gofid y bydd hyn wedi’i greu i’r rhieni sy’n defnyddio’r gwasanaethau ac sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Rwy’n hollol ymrwymedig i sicrhau bod canfyddiadau’r adolygiad yn arwain at welliannau yn y ddarpariaeth gwasanaethau, ar sail argymhellion y tîm adolygu. Rwy’n gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd iawn i’r staff a hoffwn eu canmol am eu gwaith caled, yn enwedig o ran y cymorth y maent yn ei roi i deuluoedd ar hyn o bryd, a’u hyblygrwydd o ran sicrhau bod y lefelau staffio yn briodol ar draws y gwasanaeth.

Mae gan fenywod sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yr hawl i dderbyn gofal diogel o ansawdd uchel. Gall geni plentyn fod yn adeg o straen, ond mae hefyd yn brofiad o lawenydd mawr. Rhaid i les menywod a’u babanod fod yn brif flaenoriaeth inni. Rwyf wedi cael fy sicrhau bod camau gweithredu clir ar y gweill ar unwaith i sicrhau bod menywod sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn gallu disgwyl gofal diogel a chydymdeimladol.

Bydd yr adolygiad llawn yn rhoi darlun llawnach a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau pan gyhoeddir yr adroddiad yn y gwanwyn.