Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi'r ail ddiweddariad i'n Strategaeth Frechu Genedlaethol. Cyhoeddwyd ein Strategaeth ar 11 Ionawr a diweddariad iddi ar 26 Chwefror. Mae ein rhaglen frechu ar y gweill ers 15 wythnos ac mae’n mynd o nerth i nerth.
Ers cyhoeddi'r diweddariad cyntaf fis diwethaf rydym wedi cyrraedd rhai cerrig milltir allweddol. Roedd cyfanswm o 1 miliwn dos wedi’u rhoi erbyn dechrau'r mis ac erbyn yr wythnos diwethaf roedd y cyfanswm wedi cyrraedd 1.5 miliwn dos. Mae’r data a gyhoeddir heddiw yn dangos bod ein timau brechu rhagorol bellach wedi rhoi 1,288,250 o ddosau cyntaf a 353,347 o ail ddosau, a’u bod felly wedi rhoi 1,641,597 o frechiadau.
Mawr yw fy niolch i’n timau brechu ardderchog. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi bod yn gweithio dan bwysau aruthrol na welwyd eu tebyg o’r blaen. Er hynny, mae staff y GIG, gyda chefnogaeth partneriaid a gwirfoddolwyr lleol anhygoel, yn parhau i ddod i’r adwy i'n diogelu wrth inni geisio ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Yn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Iau diwethaf, yn dilyn y newyddion am oedi o ran cyflenwi brechlynnau i'r DU, dywedais mai'r cyflenwad hwnnw yw'r ffactor sy’n cyfyngu ar ein rhaglen. Pe bai gennym fwy o frechlynnau, gallai ein timau roi brechiadau i fwy o bobl yn gyflymach. Ond, er gwaethaf y sefyllfa hon, oherwydd y cynllunio rhagorol sy'n digwydd yn ein rhaglen, rydym yn dal mewn sefyllfa gref ac yn parhau ar y trywydd iawn i gyrraedd ein carreg filltir o gynnig y brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 erbyn canol mis Ebrill.
Wrth inni gyrraedd yr ail garreg filltir yn ein Strategaeth Genedlaethol, mae’r cynlluniau ar gyfer carreg filltir 3 yn cael eu cwblhau a'u gweithredu. Mae'r diweddariad i'n Strategaeth yn cynnwys manylion pellach am y cynlluniau hyn, sydd wedi’u seilio ar dair ystyriaeth allweddol:
- Cynnal y niferoedd uchel sy’n manteisio ar y brechlynnau – gallai hyn fynd yn anoddach wrth inni ddechrau targedu ein poblogaeth iau, iachach, ond mae hyn yn gwbl hanfodol er mwyn i frechu fod yn llwybr i’n harwain allan o'r pandemig;
- Cydraddoldeb a mynediad teg - gan adeiladu ein dull hyd yma o estyn allan at gymunedau er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gael brechiad ac nad oes unrhyw unigolyn na chymuned yn cael eu hanghofio;
- Model cyflawni cadarn – pwyso a mesur cyn y cam nesaf i sicrhau bod ein model yn cael ei ddiogelu a’i fod yn addas i'r diben o ran y grwpiau sydd bellach yn cael eu targedu.
I ategu ein hymdrech i sicrhau cydraddoldeb a mynediad teg, rwyf hefyd yn cyhoeddi Strategaeth Brechu Teg heddiw. Bydd hyn yn rhan o'n Strategaeth Genedlaethol a bydd yn ysgogi ein gweithgarwch i sicrhau bod cyfle teg a chyfartal i bawb yng Nghymru gael cynnig brechiad. Mae Pwyllgor Brechu Teg wedi’i sefydlu i oruchwylio'r flaenoriaeth hon.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r 1.2 miliwn a rhagor o bobl sydd bellach wedi cymryd y cyfle i gael eu brechu. Mae tystiolaeth ynghylch effeithlonrwydd brechu yn dal i dyfu, a gwelwyd yr astudiaeth ddiweddaraf o’r Unol Daleithiau ddoe ddiwethaf. Calonogol iawn hefyd oedd gweld cefnogaeth bendant yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i ddiogelwch y brechlynnau yr wythnos diwethaf. Roeddwn yn falch iawn o gael y dos cyntaf o'r brechlyn yr wythnos diwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at yr amddiffyniad y bydd yr ail ddos yn ei gynnig. Rwy’n annog pawb arall i ddilyn arweiniad yr 1.2 miliwn a manteisio ar y cynnig pan ddaw; ac yna sicrhau eu bod yn mynd yn ôl i gael eu hail ddos. Mae pob brechlyn yn cyfrif, ac mae’n un cam at ddyfodol mwy disglair inni i gyd.