Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiweddaru’r Aelodau ar y cynnydd yn y gwaith o baratoi Rheoliadau i wneud Safonau’r Gymraeg yn benodol gymwys i’r sefydliadau yn ail Ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg.
Daeth ail Ymchwiliad Safonau y Comisiynydd mewn perthynas a’r 119 sefydliad nesaf (Atodiad A) i ben ar 6 Chwefror 2015. Cyflwynodd y Comisiynydd 9 adroddiad safonau i Weinidogion Cymru ddiwedd Mai 2015. Yn unol ag adran 66 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, rwyf wedi rhoi sylw dyladwy i gasgliadau’r Comisiynydd. Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymateb llawn i gasgliadau’r Comisiynydd yn ei hadroddiadau safonau, yn ogystal ag atodiad yn ymateb i bod un o gasgliadau’r Comisiynydd yn eu tro.
Rwy’n ddiolchgar am waith y Comisiynydd. Mae’r adroddiadau a’r casgliadau wedi ein galluogi i ymestyn ein dealltwriaeth o’r safonau gallai fod yn berthnasol i’r sefydliadau. Rydym yn ymwybodol wrth gyrraedd ei chasgliadau i’r Comisiynydd ymgymryd ag ymchwil pellach i swyddogaethau a gwasanaethau’r sefydliadau, oedd yn cynnwys ystyriaeth i’w perfformiad yn erbyn eu Cynlluniau Iaith presennol. Golyga hyn ein bod mewn safle cryf i barhau gyda’r gwaith o baratoi Rheoliadau i baratoi safonau a’u gwneud yn benodol gymwys i’r sefydliadau hyn.
Oherwydd y nifer sylweddol o sefydliadau sydd yn rhan o’r ail ymchwiliad a’r amrywiaeth o sectorau sydd yn cael eu cynnwys, y bwriad yw i gyflwyno’r Rheoliadau’n raddol. Byddwn yn dechrau trwy osod y set gyntaf o Reoliadau erbyn diwedd 2015. Wedi hynny, byddwn yn cyflwyno Rheoliadau pellach. Fel y noder yn yr adroddiad sydd wedi’i hatodi, mae’n bosib y bydd angen ymgynghori ar Reoliadau ar gyfer y sector iechyd.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru Aelodau’r Cynulliad ar y rhaglen dreigl o wneud safonau wrth iddi ddatblygu.
ATODIAD A
Sefydliadau wedi’u cynnwys yn ail Ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg
- Cyrff Cyhoeddus: Llywodraeth (1 sefydliad)
- Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
- Cyrff Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (25 sefydliad)
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru
- Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg
- Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan
- Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr
- Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed
- Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro
- Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf
- Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda
- Cyngor Iechyd Cymuned Sir Drefaldwyn
- Awdurdod yr Heddlu Niwclear Sifil
- Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
- Atodlen 5(1): Awdurdodau cyhoeddus (11 sefydliad)
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
- Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru
- Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys o Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru
- Prif Gwnstabl Heddlu Gwent
- Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
- Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Atodlen 5(3)(a) – Personau sy’n hybu dysg a gwybodaeth drwy addysgu neu ymchwilio neu drwy ddatblygu neu ddyfarnu cymwysterau (2 sefydliad)
- Coleg Ceredigion
- Coleg Sir Gâr
- Atodiad 5 (5) – Personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd ac sy’n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol (7 sefydliad)
- CAG Cymru
- Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyngor ar Bopeth
- Gofal Cymru o Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
- Hafal
- Leonard Chesire Disability
- Wallich-Clifford Community
- Cyrff Cyhoeddus: Cyffredinol (1) (21 sefydliad)
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg Cambria
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Catholig Dewi Sant
- Coleg Gwyr Abertawe
- Coleg Gwent
- Coleg Penybont
- Coleg Sir Benfro
- Grŵp Llandrillo Menai
- Grŵp NPTC
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Aberystwyth o Prifysgol Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Cymru
- Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol De Cymru
- Prifysgol Glyndwr
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Y Brifysgol Agored
- Career Choice Dewis Gyrfa
- Cyrff Cyhoeddus: Cyffredinol (2) (19 sefydliad)
- Amgueddfa Cymru
- Canolfan Mileniwm Cymru
- Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol
- Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyllid Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Chwaraeon Cymru
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Opera Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig
- Sianel 4 Cymru
- National Theatre Wales
- Theatr Genedlaethol Cymru
- Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig
- Y Gronfa Loteri Fawr
- Y Swyddfa Gyfathrebiadau
- Cyrff Cyhoeddus: Cyffredinol (3) (16 sefydliad)
- Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch
- Colegau Cymru Cyfyngedig
- Comisiynydd Plant Cymru
- Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
- Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Cyngor Gofal Cymru
- Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau o The National Institute of Adult Continuing Education
- Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
- Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Y Cyngor Optegol Cyffredinol
- Y Cyngor Osteopatheg Cyffredinol
- Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Cyrff Cyhoeddus: Cyffredinol (4) (17 sefydliad)
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu
- Comisiwn Cydraddoldeb Hawliau Dynol
- Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
- Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
- Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
- Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
- Uned Ddata Cymru
o Y Comisiwn Etholiadol