Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Darparodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gyfer creu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (y Cyd-bwyllgorau) i hybu cydweithio ymhellach ar draws awdurdodau lleol. Y bwriad cyffredinol yw bod y Cyd-bwyllgorau’n cael eu trin fel rhan o ‘deulu awdurdodau lleol’ Cymru a bod ganddynt i raddau helaeth yr un pwerau a dyletswyddau neu rai tebyg yn y ffordd y maent yn gweithredu ac yn cael eu llywodraethu.
Ym mis Mawrth 2021 gwnaed Rheoliadau a oedd yn darparu ar gyfer sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau gofynion goruchwylio, rheoli ac ymddygiad priodol o’r dechrau ar gyfer y Cyd-bwyllgorau a’u haelodau. Cymeradwyodd y Senedd ddwy set arall o is-ddeddfwriaeth ym mis Tachwedd 2021 a mis Mawrth 2022, a oedd yn darparu ar gyfer agweddau ar y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y Cyd-bwyllgorau.
Heddiw rwyf wedi gosod Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) (Rhif 2) 2022, y mae dadl arnynt wedi’i hamserlennu ar gyfer 12 Gorffennaf. Mae’r rhain yn darparu ar gyfer:
- cymhwyso’r drefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol i’r Cyd-bwyllgorau
- trosolwg a chraffu ar y Cyd-bwyllgorau
- ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgor fabwysiadu rheolau sefydlog gweithdrefnol penodol
- nifer bach o newidiadau canlyniadol ac amrywiol eraill i ddeddfwriaeth bresennol
Roedd y Rheoliadau Cyffredinol hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 28 Mawrth a 23 Mai. Rwy’n ddiolchgar am yr 17 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Yn gyffredinol, teimlwyd bod y Rheoliadau drafft yn glir a chytunwyd â’r darpariaethau arfaethedig. Dilëwyd un diwygiad arfaethedig i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Archwilio Cymru.
Bydd tri Offeryn Statudol ategol hefyd yn cael eu gosod cyn bo hir. Mae’r rhain yn angenrheidiol i roi effaith i gymhwyso Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022. Bydd yr Offerynnau Statudol canlynol yn darparu ar gyfer cymhwyso’r Cod Ymddygiad yn llawn i’r Cyd-bwyllgorau:
- Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022
- Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022
- Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022
Ochr yn ochr â hyn, os ceir cymeradwyaeth y Senedd i’r Rheoliadau Cyffredinol ar 12 Gorffennaf, byddaf hefyd yn cyhoeddi Cyfarwyddyd Trosglwyddo Staff Awdurdodau Cymru (Pensiynau) 2022 a fydd yn cwmpasu’r Cyd-bwyllgorau ac yn ceisio diweddaru’n gyffredinol derminoleg y Cyfarwyddyd blaenorol o 2012.
Bydd nifer bach o fân Offerynnau Statudol pellach yn ofynnol yn ystod y misoedd nesaf er mwyn rhoi effaith lawn i gymhwyso Rhan 3 o Ddeddf 2000 ond ni fydd y rhain yn gyfystyr â set sylweddol bellach o ddeddfwriaeth. Yn ogystal, mewn nifer bach o feysydd mae angen diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â materion a gedwir yn ôl a bydd angen ei diwygio gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag mae’r Offerynnau Statudol a amlinellwyd uchod i raddau helaeth yn cwblhau’r gwaith i roi fframwaith deddfwriaethol sylfaenol y Cyd-bwyllgorau ar waith.
Mae gan y Cyd-bwyllgorau gyfrifoldebau uniongyrchol sylweddol y byddant yn dechrau eu cyflawni o fis Mehefin a fydd yn cael effeithiau mawr ar awdurdodau lleol a phobl sy’n byw yn eu hardaloedd. Bydd gofyn i’r Cyd-bwyllgorau baratoi Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. O’r amser hwnnw ymlaen bydd y Cyd-bwyllgorau hefyd yn gallu arfer pŵer lles economaidd eang - y pŵer i wneud unrhyw beth a fydd yn gwella neu’n hybu lles economaidd ei ardal.