Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi diweddariad ar y llifogydd diweddar ac yn amlinellu'r ffordd y mae buddsoddiad parhaus y Llywodraeth hon wedi sicrhau ein bod yn gallu ymdopi â llifogydd. Mae hefyd yn ystyried goblygiadau hirdymor y newid yn yr hinsawdd i gymunedau Cymru.

Yn ystod y mis diwethaf, rydym wedi cael glaw trwm cyson a gorllanw uchel. Drwy gydol y cyfnod, mae ein hasedau ar gyfer afonydd a'r arfordir wedi perfformio fel y disgwyl ac wedi helpu i warchod miloedd o eiddo rhag llifogydd.

Rwy'n cydymdeimlo yn fawr â phobl a fu’n anffodus i gael eu taro. Adroddodd Awdurdodau Lleol lifogydd i eiddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Ceredigion, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, ac yn fwy diweddar ym Mhowys a Sir Fynwy. Serch hynny, roedd y niferoedd yn isel  ac nid oeddent yn gysylltiedig ag unrhyw fethiant ar ein rhwydwaith o amddiffynfeydd.

Diolch o galon hefyd i waith caled swyddogion yn ein Hawdurdodau Lleol, y gwasanaethau brys a Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd yn gweithio mewn amodau ofnadwy, yn sicrhau bod yr amddiffynfeydd hynny wedi gwneud eu gwaith ac yn helpu'r bobl a gafodd eu taro.

Mae rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn parhau'n flaenoriaeth, gyda thros £350 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod y Llywodraeth hon. Mae hefyd yn dangos ein bod yn cymryd y camau priodol mewn ymateb i fygythiad parhaus llifogydd a'r newid yn yr hinsawdd.

Pan gaiff ein gallu i gynllunio, ymateb ac adfer ei brofi yn sgil llifogydd, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried beth weithiodd yn dda a pha wersi sydd i’w dysgu er mwyn gwella. Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos ble mae ein buddsoddiad i liniaru llifogydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:

  • Mae cynllun Llanelwy, a agorwyd yn 2018, yn parhau i berfformio'n dda mewn ymateb i gyfnodau diweddar o law trwm.
  • Mae systemau monitro o bell newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi galluogi ei swyddogion i ganfod rhwystrau a phroblemau posibl ac yna gweithredu'n gyflym i atal llifogydd o'r cyrsiau dŵr rhag cyrraedd cartrefi cyfagos.
  • Yn ystod y cyfnodau diweddar o orllanw uchel, caeodd Cyngor Casnewydd y ffordd yng Nghaerllion i alluogi CNC i godi ei amddiffynfeydd dros dro newydd. Cyn hyn, dim ond ar gyfer ymarferion yr oedd y rhain wedi'u profi. Perfformiodd yr amddiffynfa'n dda gan warchod eiddo wrth i lefelau dŵr gyrraedd y ffordd drwy'r dref.

Er bod adroddiadau o'r fath, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus, yn rhoi rheswm i fod yn obeithiol ni allwn fforddio llaesu dwylo. Bydd y newid yn yr hinsawdd yn dod â stormydd mwy dwys a mwy o berygl yn sgil ymchwydd yn y llanw ynghyd â chynnydd yn lefel y môr. Serch hynny, nid ardaloedd ger yr arfordir yn unig fydd mewn mwy o berygl ond ein holl gymunedau, gan y bydd mwy o siawns o lifogydd sydyn o ddŵr wyneb ac afonydd.

Mae angen gwneud penderfyniadau anodd mewn sawl cymuned. Mae angen i'r ardal leol arwain y sgyrsiau hyn, gan gynnwys preswylwyr a busnesau. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi ein Hawdurdodau Lleol drwy ddarparu cyllid i liniaru llifogydd ac addasu iddynt, ochr yn ochr ag ymchwil i helpu i ddeall effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a'r ffordd y gellir cefnogi cymunedau yn awr ac yn y dyfodol.

Byddaf yn fuan yn cyhoeddi ymchwil newydd, sy'n ystyried y materion sy'n effeithio ar Fairbourne, cymuned sy'n wynebu'r newid yn yr hinsawdd ac yn helpu i lunio ei dyfodol ei hun. Bydd yr ymchwil hon yn cyd-fynd â chynllun Gwynedd, a gefnogir gan ein rhaglen Lifogydd, Fairbourne: Fframwaith ar gyfer y Dyfodol a gyhoeddwyd ar 10 Hydref.

Mae'r Newid yn yr Hinsawdd ar frig fy agenda ac rwy'n llwyr gydnabod bod llifogydd ac erydu arfordirol yn ddau o ganlyniadau mwyaf uniongyrchol cynnydd yn lefel y môr a chynnydd yn nwyster stormydd, nid yn unig ar lesiant ond ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ehangach. Bydd ein pwyslais yn parhau i fod ar y cymunedau hynny yr effeithir arnynt gan bob math o lifogydd sy'n peri perygl i fywyd.

Mae gwaith yn parhau drwyddi draw yn y Llywodraeth, ac yn nes ymlaen eleni byddaf yn cyhoeddi ein cynllun newydd ar gyfer addasu i'r newid yn yr hinsawdd, Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd. Bydd y cynllun yn egluro'r ffordd rydym yn paratoi at beryglon y newid yn yr hinsawdd ar draws pob sector, gan gynnwys ein hymrwymiadau i gefnogi ein cymunedau, gan gydnabod y bydd effeithiau llifogydd a'r newid yn yr hinsawdd yn golygu goblygiadau ehangach ar draws ein holl bortffolios.