Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cymru Iachach yn adnabod digidol fel prif ddull o alluogi newid trawsnewidiol, tra hefyd yn cydnabod yr heriau o yrru newid digidol ar ras ac ar led ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cafodd yr heriau hyn eu hamlygu hefyd gan waith yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal, ac argymhellion a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PCC). Ymatebais trwy gomisiynu dau adolygiad annibynnol sylweddol o dechnoleg ddigidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Adolygiad o Lywodraethu Digidol yn mynd i'r afael â chyflwr presennol ein strwythurau sefydliadol a'n strwythurau gwneud penderfyniadau, gan ystyried adroddiadau ac argymhellion yr Adolygiad Seneddol, SAC a'r PCC. Mae'n amlinellu ystod eang o argymhellion, gan gynnwys penodi Prif Swyddog Digidol newydd ar gyfer Iechyd a Gofal, rhagor o bwyslais ar safonau technegol cyffredin, strwythurau llywodraethu a strwythurau gwneud penderfyniadau newydd, a dull cydwasanaethau i wasanaethau digidol craidd.
Mae’r Adolygiad o Saernïaeth Ddigidol yn mynd i'r afael â chyflwr presennol ein systemau digidol cenedlaethol, gan eu hasesu yn erbyn yr uchelgeisiau ar gyfer newid a amlinellir yn Cymru Iachach. Mae’n disgrifio sut y dylid cryfhau systemau a'u diffinio'n gliriach ac yn fwy cyson ar ffurf 'platfform agored' sy’n seiliedig ar safonau cyffredin. Mae hefyd yn argymell opsiynau ar gyfer gwelliannau sydd wedi'u targedu.
Lluniwyd y ddau adolygiad drwy ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid allweddol ar draws y system, ac mae fy swyddogion wedi gofyn am farn uwch-glinigwyr ac arweinyddion ynghylch argymhellion pob adolygiad. Mae'r gwaith hwn wedi llywio fy mhenderfyniadau ar y camau nesaf pwysig ar gyfer iechyd a gofal digidol yng Nghymru, sydd wedi eu crynhoi yn y datganiad hwn.
Bydd rôl Prif Swyddog Digidol newydd yn cael ei sefydlu yn swyddogaeth Gweithrediaeth Genedlaethol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) gyda chylch gwaith 'system gyfan' a fydd wedi'i ddiffinio'n glir. Gyda chefnogaeth strwythur cynghori a thîm bach, bydd y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal yn diffinio safonau a gwasanaethau cenedlaethol, fel rhan o'r broses o symud i saernïaeth ddigidol agored, ar draws yr holl systemau digidol. Bydd y Prif Swyddog Digidol hefyd yn rhoi cyngor ar strategaeth ddigidol ar gyfer y dyfodol, yn gweithredu fel arweinydd proffesiynol ar gyfer y gweithlu digidol, ac yn eirioli dros iechyd a gofal digidol yng Nghymru. Bydd y Prif Swyddog Digidol yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau cyflenwi ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig, yn enwedig Prif Swyddogion Digidol eraill yng ngwasanaeth cyhoeddus ehangach Cymru.
Bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn newid ei strwythur presennol, fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, i fod yn Awdurdod Iechyd Arbennig newydd. Drwy ddangos bod ein sefydliad gwasanaethau digidol cenedlaethol yn sefydliad pwrpasol, rydym yn adlewyrchu bod technoleg ddigidol yn ffordd bwysig o sicrhau newid, fel yr amlinellir yn Cymru Iachach. Bydd y newid hwn yn cryfhau trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd, o ran y berthynas â sefydliadau eraill yn GIG Cymru a drwy fesurau arwain a goruchwylio cryfach. Gwneir hynny o dan arweiniad aelodau bwrdd a chadeirydd annibynnol sydd â phrofiad a dealltwriaeth o newid digidol.
Mae Cymru Iachach hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu'r buddsoddiad mewn blaenoriaethau digidol yn sylweddol, ochr yn ochr ag arweiniad a threfniadau cyflawni gwell. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd £50 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer technoleg ddigidol, fel rhan o'r £192 miliwn a roddwyd yn y gyllideb i gefnogi'r gwaith o wireddu Cymru Iachach. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei reoli'n ganolog gan Lywodraeth Cymru i gefnogi portffolio o raglenni trawsnewidiol, gan ymdrin â phum thema strategol:
- Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion a'r cyhoedd
- Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer pobl broffesiynol
- Buddsoddi mewn data a gwybodaeth ddeallus
- Moderneiddio dyfeisiau a symud i wasanaethau cwmwl
- Seiberddiogelwch a chadernid
Mae hwn yn newid sylweddol i fuddsoddi digidol. Bydd yn cyflymu'r gwaith o gyflwyno rhaglenni allweddol, gan gynnwys System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ac Adnodd Data Cenedlaethol, dwy o raglenni yr ymrwymir iddynt yn Cymru Iachach. Bydd yn cefnogi'r gwaith ehangach o weithredu ar argymhellion y ddau adolygiad, gan gynnwys creu Prif Swyddog Digidol ac Awdurdod Iechyd Arbennig, a bydd camau gweithredu eraill yn cryfhau'r ddarpariaeth a'r cynlluniau digidol ar draws y system. Mae'r rhain yn cynnwys Uned Gyflawni Achosion Busnes Digidol newydd a phedwar adolygiad arall a fydd, yn ystod y flwyddyn nesaf, yn arwain at gynllun seilwaith digidol, cynllun gweithlu digidol, strategaeth fasnachol ddigidol, a strategaeth cyfathrebu digidol.
Mae hon yn rhaglen waith heriol, yn arbennig yng nghyd-destun ein parodrwydd ar gyfer Brexit a phwysau eraill sy'n ymwneud ag iechyd a gofal. Er hynny, mae'n dal i fod yn flaenoriaeth gennyf oherwydd gallai arloesi digidol wella iechyd a llesiant yng Nghymru, yn ogystal â gwneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy effeithlon ac effeithiol, a chryfhau economi Cymru.
Bydd Rhaglen Trawsnewid Digidol yn cael ei sefydlu’n benodol i helpu i gyflawni hyn, ond rwy'n cydnabod y bydd cyflymder y newid yn dibynnu ar barodrwydd pob rhanddeiliad a phartner i fabwysiadu dulliau cyffredin a gweithio gyda'i gilydd. rwy’n disgwyl gweld arweinyddiaeth gydweithredol gadarn ar bob lefel, ochr yn ochr â’r newid sylweddol mewn buddsoddi a'r trefniadau cyflawni diwygiedig yr wyf yn cyhoeddi heddiw.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i Aelodau'r Cynulliad.