Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n falch o gyhoeddi cynnydd cadarnhaol pellach yn y gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu a swyddi hyfforddi craidd ac arbenigol gofal eilaidd ledled Cymru.
Yn 2019, cadarnheais fy mwriad i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu yng Nghymru o 136 i 160. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar sail y targed sylfaenol diwygiedig o 160, gan ddechrau yn 2020. Cytunais hefyd, lle y mae rhagor o gyfleoedd i recriwtio mwy o feddygon teulu dan hyfforddiant na'r 160, y dylai Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud hynny pan fo capasiti yn y system i gyflawni hyn.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnig dau gynllun cymhelliant ariannol ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu: cynllun wedi'i dargedu sy'n cynnig cymhelliant o £20,000 i hyfforddeion sy'n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodedig lle bu'n anodd, yn y gorffennol, i lenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bawb sy'n hyfforddi i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol.
Ers 2016, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill o Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru i hyrwyddo Cymru fel dewis ar gyfer meddygon iau drwy ein hymgyrch farchnata Gwlad, Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw. Mae'r ymgyrch wedi helpu i osod y sylfaen ar gyfer y sefyllfa recriwtio well sy’n cael ei chyhoeddi heddiw.
O ran hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi recriwtio cyfanswm o 176 o hyfforddeion. Mae hyn yn gynnydd o 13.5% o'i gymharu â'r un cyfnod yn y broses recriwtio yn 2019, a chynnydd o 58.5% ers 2018. Bydd cylch recriwtio arall yn cael ei gwblhau yn nhymor yr hydref.
Mae 99.3% o leoedd hyfforddi ar draws y 15 rhaglen hyfforddiant gofal eilaidd craidd ac arbenigol yng Nghymru (ee hyfforddiant llawfeddygol craidd, hyfforddiant meddygaeth fewnol) wedi cael eu llenwi, gyda 425 o’r 428 o swyddi sydd ar gael wedi cael eu llenwi'n barod. O bedair gwlad y Deyrnas Unedig, Cymru sydd â’r gyfradd lenwi uchaf.
Mae hwn yn gyflawniad arbennig yng nghyd-destun yr her fwyaf y mae GIG Cymru wedi'i hwynebu erioed yn sgil COVID-19.
Nid oedd yn bosibl cyhoeddi'r datganiad hwn cyn y toriad oherwydd amseriad ac argaeledd data recriwtio. Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach ar ddechrau 2021, pan fydd data’r cylch recriwtio nesaf ar gael.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.