Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pan gyflwynais Gynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ym mis Rhagfyr 2011, fe ymrwymais i roi diweddariad i chi ar y camau sy'n cael eu cymryd i weithredu'r Cynllun Cyflenwi a datblygu adolygiad annibynnol ar roi'r gorau i ysmygu. Croesawodd Aelodau'r Cynulliad y Cynllun Gweithredu, sydd â'r nod o ostwng y lefelau ysmygu i 16% erbyn 2020, gyda'r weledigaeth yn y pen draw o greu cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru.
Yn ystod y ddadl ar y Cynllun Gweithredu fe hysbysais y Cynulliad Cenedlaethol y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu bwrdd cyflawni strategol er mwyn goruchwylio datblygiad y Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco. Ym mis Chwefror fe gytunais ar aelodaeth y Bwrdd, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol sy'n gyfrifol am weithredu'r camau yn y cynllun.
Bydd y Bwrdd yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn ac fe wnaeth gwrdd am yr eildro ar 9 Gorffennaf. Bydd cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd ar gael i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd aelodau'r Bwrdd hefyd yn lledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf drwy eu rhwydweithiau lleol er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn atebol.
Swyddogaeth y Bwrdd yw sbarduno, cefnogi a goruchwylio datblygiad y Cynllun Cyflenwi ar Reoli Tybaco, sy'n amlinellu pwy sy'n gyfrifol am bob cam gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ynghyd â'r amserlen ar gyfer ei weithredu. Byddaf yn ystyried cyngor y Bwrdd yn ofalus ac yn penderfynu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r camau sy'n flaenoriaethau.
Mae'r Cynllun Cyflenwi yn pennu wyth cam gweithredu allweddol y bydd angen mynd i'r afael â hwy os ydym am gyflawni'r nod heriol o ostwng y lefelau ysmygu i 16% erbyn 2020. Bydd fy swyddogion yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Bwrdd ar ddatblygiad y rhain.
Yn ardaloedd nifer o AwdurdodauLleol mae grwpiau tybaco lleol yn datblygu eu cynlluniau rheoli tybaco lleol eu hunain, gyda phartneriaid o'r GIG a'r Trydydd Sector. Mae'r Bwrdd Cyflawni eisoes wedi canfod pa Awdurdodau Lleol sydd wedi datblygu eu cynlluniau gweithredu rheoli tybaco lleol eu hunain a bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos â'r Bwrdd a'r rhanddeiliaid allweddol i sicrhau cysondeb wrth adrodd ar ganlyniadau. Dylai'r cynlluniau lleol hyn ddatblygu canlyniadau priodol a mesuradwy y gellir eu bwydo i waith y Bwrdd ar lefel strategol.
Er mwyn cyflawni targed cyffredinol y Cynllun Gweithredu, rydym yn cydnabod y bydd yn rhaid i nifer y smygwyr sy'n llwyddo i roi'r gorau iddi gynyddu'n sylweddol. Un o'r camau pwysicaf o blith yr wyth cam gweithredu allweddol yw i Lywodraeth Cymru sefydlu adolygiad annibynnol o'r gweithgarwch rhoi'r gorau i ysmygu. Mae'r adolygiad hwn yn cael ei ddatblygu er mwyn canfod unrhyw welliannau y gellir eu gwneud i'r gwaith cyfredol ac unrhyw gamau pellach a fydd yn helpu i gyflawni'r targed yn y Cynllun Gweithredu.
Adolygiad system fydd yr adolygiad annibynnol yn hytrach nag adolygiad o wasanaethau unigol, gan fod yna wahanol bwyntiau mynediad ar gyfer cael gafael ar wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Mae fy swyddogion yn cydweithio'n agos â'r Bwrdd Cyflawni i sicrhau bod y rhanddeiliaid allweddol yn cael cyfle i gyfrannu at ddatblygiad yr adolygiad. Bydd hynny'n sicrhau bod yr adolygiad yn dryloyw ac yn agored.
Dywedodd aelodau'r Bwrdd y dylai'r adolygiad ystyried pa mor hawdd yw hi i bobl gael gafael ar wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, a'r effaith y mae hyfforddiant ymyrraeth byr rhoi'r gorau i ysmygu ar gyfer bydwragedd wedi'i chael ar nifer y menywod beichiog sy'n defnyddio gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Awgrymodd y Bwrdd Cyflawni hefyd y dylai'r adolygiad ymdrin â'r gwasanaethau a gynigir o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys fferyllfeydd, a datblygu cronfa ddata Rhoi'r Gorau i Ysmygu Genedlaethol gynhwysfawr.
Bydd yr holl elfennau hyn yn helpu'r adolygiad i ganfod sut y mae'r gwasanaethau'n cael eu darparu ar hyn o bryd. Mae fy swyddogion wedi sicrhau y cynhwyswyd holl argymhellion y Bwrdd Cyflawni a'r rhanddeiliaid ym manyleb yr adolygiad a fydd yn destun proses dendro gystadleuol yn fuan.
Un cam allweddol arall yw parhau i annog pobl ifanc i beidio â dechrau ysmygu a chefnogi'r rheini sydd eisoes wedi dechrau rhoi'r gorau iddi.
Mae'r Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco yn argymell defnyddio marchnata cymdeithasol fel rhan o strategaeth i annog pobl ifanc i beidio â dechrau ysmygu yn y lle cyntaf ac i helpu'r rhai sy'n ysmygu ar hyn o bryd i roi'r gorau iddi.
Yn dilyn y trafodaethau diweddar yn y Cynulliad, rwyf wedi gofyn i'r Bwrdd Cyflawni fwrw ymlaen ag awgrym William Graham AC yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 26 Mehefin 2012 y dylid cynnal mis Dim Ysmygu er mwyn helpu plant a phobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu. Caiff y cynllun ei weithredu ar y cyd â phrosiect cyfryngau cymdeithasol ASH Cymru a'r rhaglen genedlaethol rhoi'r gorau i ysmygu er mwyn helpu pobl ifanc i roi'r gorau iddi yn llwyddiannus.