Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu COVID-19. Cyhoeddir y diweddariad nesaf ddiwedd mis Awst ac yn y tymor newydd bydd y diweddariadau hyn yn cael eu rhyddhau bob pythefnos.

Mae dros 4.2 miliwn o frechiadau COVID-19 wedi cael eu rhoi yng Nghymru. Mae tri chwarter o bobl Cymru wedi cael y ddau ddos o frechlyn y coronafeirws. Mae dros 90% o oedolion yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn COVID-19 ac mae 78% hefyd wedi cael eu hail ddos. Mae hyn yn gynnydd anhygoel ond rwy’n gofyn ichi ddal ati a gofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu a ydynt wedi cael y brechlyn a'u hannog i gael y ddau ddos. Mae canolfannau brechu ar draws sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw i mewn i'w gwneud yn haws ichi gael y brechlyn.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) eu cyngor ar frechu plant a phobl ifanc. Mae'r GIG yn gweithio'n gyflym i nodi’r plant a'r bobl ifanc y dylid cynnig brechlyn iddynt, a threfnu apwyntiadau ar eu cyfer.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'n rhaglen frechu COVID-19 am eu hymrwymiad di-ildio a'u gwaith caled. Hoffwn ddiolch hefyd i’r cyhoedd yng Nghymru am fanteisio ar y cynnig o frechlyn i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel. Brechlynnau yw'r ffordd orau o hyd o ddod allan o'r pandemig hwn. Mae llwyddiant y rhaglen frechu yn ffactor allweddol i’n galluogi i lacio’r cyfyngiadau a'r brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.