Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y cynnig i greu cynllun peilot bwndel babi fel anrheg "croeso i'r byd" gan Lywodraeth Cymru yn ymrwymiad ym maniffesto arweinyddiaeth Prif Weinidog Cymru. Rwy'n falch i gyhoeddi y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnal cynllun peilot ar gyfer y cynllun bwndel babi yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i’r Bwrdd Iechyd am ei ddiddordeb o ran gweithio mewn partneriaeth â ni i ddatblygu a chyflwyno'r cynllun peilot pwysig hwn, lle y bydd oddeutu 200 o fwndeli babi yn cael eu dosbarthu yn ardal Bae Abertawe haf nesaf.

Bydd y cynnig cyffredinol o fwndel babi yn dangos faint mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi pob plentyn, a bydd yn dangos yn bendant ein cefnogaeth i rieni a phlant ar adeg hanfodol yn eu bywydau. Ein bwriad yw bod y bwndel yn cael ei weld fel 'anrheg' sydd wedi'i fwriadu i hyrwyddo cyfle mwy cyfartal i rieni a'u babanod drwy leihau'r angen i wario ar bethau hanfodol ar gyfer y newydd-anedig.

Bydd y bwndeli hefyd yn cynnwys rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i rieni newydd a bydd yn cynnig cyfle ardderchog i weithwyr iechyd proffesiynol i ymgysylltu â theuluoedd gyda gwasanaethau cymorth, lle y bo angen, ac i ddechrau sgyrsiau am fwyta'n iach, cysgu'n ddiogel, bwydo ar y fron ac iechyd meddwl ôl-enedigol.

Bu rhywfaint o ddiddordeb hanesyddol mewn cynlluniau Blwch Babi fel ffordd o wella canlyniadau iechyd ar gyfer babanod hyd at chwe mis oed, yn bennaf o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod ac arferion cysgu anniogel. Mae'r diddordeb hwn wedi'i ysgogi’n bennaf gan y model traddodiadol o'r Ffindir ond hefyd gan gynlluniau tebyg sy'n cael eu sefydlu mewn rhai ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr a'r cynllun a lansiwyd gan Lywodraeth yr Alban yn 2017. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth o ran effeithiolrwydd y blychau babi yn brin ac mae'n anodd gwahaniaethau rhwng effaith y blychau babi a'r ffactorau eraill sydd wedi lleihau marwolaethau babanod. O ystyried y diffyg tystiolaeth i gefnogi defnyddio blwch babi, rydym yn bwriadu cyflwyno bwndel babi yng Nghymru.

Er mwyn casglu'r amrywiaeth fwyaf o safbwyntiau i lywio'r gwaith o ddatblygu ein bwndel babi Cymreig, a'i gynnwys, dros yr haf rydym wedi cynnal arolwg ar-lein yn ogystal â nifer o grwpiau ffocws gyda rhieni newydd a gweithwyr proffesiynol. Rydym hefyd wedi dysgu gymaint ag y gallwn o gyflwyno cynlluniau tebyg mewn mannau eraill.

Bydd Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â ni i reoli'r gwaith o gaffael y bwndeli ar gyfer y cynllun peilot a hoffwn ddiolch iddynt am eu cymorth a'u harbenigedd yn ogystal â'u hymrwymiad i'r prosiect. Mae'r broses gaffael, wrth gwrs, yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau Cymru i dendro ar gyfer cyflenwi'r bwndeli a'u cynnwys. Mae digwyddiadau ymgysylltu â'r farchnad yn cael eu cynnal yn y Gogledd a'r De yn ystod tymor yr hydref. Gymaint ag y gallwn, byddwn yn annog cynnwys busnesau Cymru wrth gyflenwi cynnyrch ar gyfer y bwndel babi.

Ar ôl gorffen ein gwaith ymchwil ac arolwg, mae'r fanyleb ar gyfer y nwyddau i'r cynllun peilot yn cael ei chwblhau a bydd yn mynd allan i’r broses gaffael yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Ymhlith yr eitemau eraill, bydd y bwndeli'n cynnwys dillad o ansawdd uchel wedi'u dylunio'n niwtral mewn sawl maint; rhai eitemau ar gyfer chwarae a chefnogi cyfathrebu cynnar a datblygu agosrwydd rhwng rhieni a'u plant; eitemau i'r cartref i gefnogi ymolchi'n ddiogel; ac amrywiaeth o eitemau i gefnogi menywod ar ôl geni.  

Mae'n bwysig nodi na fydd unrhyw rwymedigaeth i rieni dderbyn bwndel babi pe na baent eisiau neu ddim yn dymuno cael un am unrhyw reswm. Fodd bynnag, mae cynlluniau tebyg wedi cael eu defnyddio'n helaeth ac nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd hynny'n wahanol o gwbl yng Nghymru os oes amrywiaeth debyg o nwyddau o ansawdd uchel yn cael eu cynnig ac os yw’r gwaith ymgysylltu priodol â rhieni yn cael ei wneud. Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau trydydd sector i ddatblygu ffordd o ailgylchu ac ailddefnyddio'r cynnyrch bwndel babi pan fydd teulu wedi gorffen gyda nhw.

Byddwn ni'n comisiynu gwerthusiad annibynnol o'n cynllun peilot bwndel babi. Drwy'r gwerthusiad byddwn yn ceisio deall a yw'r rhai sy'n derbyn budd ohono yn credu bod y bwndel babi wedi bod o fantais iddynt a'u teuluoedd, neu y bydd o fantais iddynt. Ar y cam hwn, y cyfan rydym yn ceisio’i wneud yw profi'r cysyniad o gyflwyno bwndel babi yng Nghymru a chasglu gymaint o dystiolaeth ag y gallwn am ei fanteision neu fel arall.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae'r gwaith a wneir fel rhan o gynllun Dechrau'n Deg, Rhaglen Plant Iach Cymru a'r Rhaglen Y 1000 Diwrnod Cyntaf yn dangos gymaint o werth mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei osod ar sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau'n deg mewn bywyd. Mae ein cynllun peilot bwndel babi yn dangos yr ymrwymiad hwnnw ymhellach, drwy roi anrheg sy’n cynnig cymorth materol ac ymarferol i helpu babanod a'u teuluoedd ar adeg hanfodol yn eu bywydau.

Rwy'n edrych ymlaen at allu diweddaru’r Aelodau eto wrth i'r cynllun peilot bwndel babi fynd rhagddo.