Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

I nodi Wythnos y Ffoaduriaid, rwyf eisiau rhoi diweddariad i’r Aelodau am y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd ar y blaenoriaethau a’r camau gweithredu a geir yng Nghynllun Gweithredu Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid Llywodraeth Cymru.  Yr wyf heddiw’n lansio Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu er mwyn nodi’r cynnydd hyd yma.

Mae Llywodraeth Cymru’n credu bod integreiddio ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dechrau ar y diwrnod cyntaf un. Dyna pam y gwnaethom lansio ein Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid yn 2008 a’i dilyn gyda Chynllun Gweithredu wedi’i ddiweddaru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2011, 60ain pen-blwydd llofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid. Mae’r Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddatblygu i ddangos sut mae Llywodraeth Cymru’n cyflawni ei hymrwymiadau i ffoaduriaid yng Nghymru trwy nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru a’i sefydliadau partner yn eu cymryd yn y dyfodol i wireddu’r amcanion yn y Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid.

Ers 2011, mae gwaith wedi cael ei wneud i gyflawni’r Cynllun Gweithredu nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan lawer o sefydliadau partner yr ydym yn eu hariannu. Mae’r Adroddiad Diweddaru yn rhoi manylion y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a’n hymrwymiadau yn y dyfodol ar gyfer gweithredu.

Mae’n bwysig hefyd tynnu sylw at y cyfraniad y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ei wneud i fywyd yng Nghymru. Dônt ag amrywiaeth fawr o sgiliau sydd o fudd ac yn cyfoethogi’r cymunedau y maent yn byw ynddynt ac sydd wedi rhoi croeso iddynt. Mae llawer o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn rhoi o’u hamser fel gwirfoddolwyr mewn gwaith di-dâl amrywiol, o siopau elusen ac eglwysi i sefydliadau iechyd meddwl a sefydliadau eraill y trydydd sector.  

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i hybu cydlyniant cymunedol a chefnogi mentrau ceiswyr lloches, ffoaduriaid a gweithwyr mudol trwy’r Strategaeth Cydlyniant Cymunedol a Chynllun Gweithredu’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r ymrwymiad hwn nid yn unig trwy’r Cynllun Gweithredu ond trwy nifer o strategaethau a rhaglenni allweddol eraill. Mae’r rhain yn cynnwys ‘Cymru’n Cyd-dynnu – Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru’ (2009), Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (2012) a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2012). O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’r rhaglenni hyn yn darparu fframwaith ar gyfer gweithio trawsadrannol a chydgysylltiedig yn Llywodraeth Cymru, gan flaenoriaethu anghenion y rheiny sy’n wynebu’r anfantais fwyaf a gwarchod y rheiny sy’n fwyaf agored i dlodi ac ymyleiddio yn ein cymunedau.  

Rwy’n falch o ddweud y bu cynnydd cadarnhaol gyda blaenoriaethau a geir yn y cynllun, a nodir yn y Diweddariad.  

Mae Fframwaith Gweithredu yn erbyn Troseddau Casineb Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chaiff ei lansio i ymgynghori arno’r mis nesaf. Bydd yn canolbwyntio ar dri phrif amcan i atal troseddau casineb, cynorthwyo dioddefwyr, a gwella’r ymateb gweithredol i droseddau casineb. Mae’r Fframwaith hwn yn cael ei lywio gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen gyda chynrychiolwyr o feysydd polisi Llywodraeth Cymru a hefyd gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector statudol a gwirfoddol. Mae grŵp ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi cyfrannu at y cam casglu tystiolaeth.

Mae plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches yn grŵp agored iawn i niwed y gall asesiad o’u hoed fod yn hollbwysig iddynt wrth hawlio lloches. Mae asesu oed yn fater cymhleth iawn ac mae wedi bod yn destun llawer o drafod yng Nghymru.  Rwy’n falch o ddweud y bydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru yn cynhyrchu Pecyn Cymorth Asesu Oed gyda chymorth gan Rwydwaith Ymarferwyr Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches a gyda chytundeb Penaethiaid Gwasanaethau Plant yng Nghymru. Nod y Pecyn Cymorth yw darparu cymorth a chyfarwyddyd i weithwyr proffesiynol a safoni gwaith penderfynu yn y maes cymhleth hwn.

Penododd Llywodraeth Cymru Gydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl newydd ym mis Tachwedd 2012. Ei flaenoriaethau dros y ddwy flynedd nesaf yw:

  • Gweithio gyda swyddog arweiniol Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron i lunio trywydd Atal Masnachu mewn Pobl i Swyddogion Ymchwilio ac Uwch Swyddogion Ymchwilio.
  • Codi ymwybyddiaeth gyda staff rheng flaen ledled Cymru.
  • Sefydlu Grŵp Arweiniad Atal Masnachu mewn Pobl Cymru i roi arweiniad strategol wrth fynd i’r afael â masnachu mewn pobl yng Nghymru.
  • Gwella’r sail dystiolaeth ynghylch masnachu mewn pobl trwy gynyddu nifer y sefydliadau yng Nghymru sy’n darparu ystadegau i’r Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol.


Mae Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig yn dal i gynorthwyo disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol. Ei nod yw gwella safonau cyrhaeddiad i ddisgyblion o rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig y nodir bod risg iddynt dangyflawni. Mae’r grant yn cefnogi gwasanaethau cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig awdurdodau lleol gan gynnwys athrawon a chynorthwywyr addysgu arbenigol Saesneg fel Iaith Ychwanegol. £10.5 miliwn yw gwerth y grant yn 2013-14 ac mae’n cael ei rannu rhwng y 22 awdurdod lleol. Mae wedi’i seilio ar fformiwla ariannu sy’n rhoi’r pwysoliad mwyaf i blant sy’n ceisio lloches er mwyn cydnabod eu hanghenion arbennig.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol a chymunedau ffoaduriaid i sicrhau y diwellir anghenion amrywiol ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac Alltudion ar Waith ill dau’n dal i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol, nid yn unig i ffoaduriaid a cheiswyr lloches hwythau, ond hefyd i sefydliadau sy’n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, gan helpu i wella profiadau a bywydau’r bobl hyn sy’n agored i niwed. Yn ogystal, mae’r sefydliadau hyn ac eraill sy’n gweithio yn y sector yn sicrhau bod barn ffoaduriaid yn cael ei chynnwys mewn penderfyniadau am wasanaethau a’r ffordd y’u darperir.

Mae gwaith cyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid yn drawsadrannol a byddaf yn gweithio gyda’m cydweinidogion yn y Cabinet i fwrw ymlaen â’r ymrwymiadau sydd ar ôl. Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig am eu gwaith caled wrth wneud Cymru’n wlad lle mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches nid yn unig yn teimlo bod croeso iddynt ond lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo a’u galluogi i ailadeiladu eu bywydau.  

Gellir cael dolen i Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid wedi’i ddiweddaru ar-lein.