John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Yn dilyn y tân ar do Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 26 Ebrill, cytunais i hysbysu’r aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf.
Cefais gyfarfod gyda Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr newydd y Llyfrgell a Llyfrgellydd, ar 7 Hydref 2013. Ail-bwysleisiais ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi’r Llyfrgell drwy’r broses barhaus o reoli canlyniadau’r tân a datblygu’r cyfleusterau. Mae trafodaethau cyfreithiol ynghylch yswiriant a chanlyniadau ariannol y tân yn parhau a byddaf yn rhoi diweddariad i’r Aelodau pan fydd penderfyniad pendant wedi’i wneud. Yn y cyfamser, mae fy swyddogion yn parhau i gydweithio’n agos â’r Llyfrgell i’w galluogi i wneud y gwaith adfer a datblygu sy’n angenrheidiol o ganlyniad i’r tân.
Mae’n bleser gennyf gadarnhau fy mod wedi dyrannu £625,000 o gyllid cyfalaf yn 2013-14 o’r Adran Diwylliant a Chwaraeon ar gyfer gwaith atgyweirio strwythurol hanfodol a gwaith adfer parhaol ar do’r adeilad a ddifrodwyd gan y tân. Bydd y gwaith hwn yn adfer to a llawr uchaf yr adeilad i gyflwr gweithredol sylfaenol erbyn gwanwyn 2014. Dyrannwyd £375,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol i’r Llyfrgell yn 2014-15 i helpu i fuddsoddi yn adeilad ac isadeilad y Llyfrgell er mwyn cefnogi ei waith pwysig. Cafodd y cyllid cyfalaf ychwanegol hwn ei amlinellu yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd ar 8 Hydref. Byddaf yn parhau i chwilio am gyfleoedd pellach i gefnogi buddsoddiadau cyfalaf strategol yn isadeilad ffisegol a thechnegol y Llyfrgell.
Mae’r Gyllideb Ddrafft hefyd yn amlinellu £3.5 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a ddarparwyd o gronfeydd cyfalaf canolog Llywodraeth Cymru (£3.3 miliwn yn 2014-15 a £200,000 yn 2015-16). Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i’r Llyfrgell ddechrau paratoi ar gyfer prosiect ar gadwraeth, cadwraeth ddigidol a mynediad y mae’r Llyfrgell wrthi’n ei ddatblygu.
Bydd y gwaith paratoi yn darparu capasiti ychwanegol a chyfleusterau storio arbenigol gwell i gadw a sicrhau mynediad cynaliadwy at ein casgliadau cenedlaethol. Yn ogystal â’r swyddi a grëwyd yn ystod y camau datblygu ac adeiladu, mae’r prosiect ehangach yn gobeithio datblygu’r gweithlu cadwraeth presennol ac yn y dyfodol yng Nghymru drwy ystod o rwydweithiau, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau arbenigol a chyfleoedd hyfforddi.
Ymwelais â’r Llyfrgell ar 17 Hydref i agor yn swyddogol arddangosfa newydd sy’n dwyn ynghyd pedair o lawysgrifau canoloesol mwyaf eiconig Cymru am y tro cyntaf. Dyma un o gyfres o arddangosfeydd sydd i’w cael yn y Llyfrgell ar hyn o bryd sy’n tanlinellu pwysigrwydd gwaith y Llyfrgell o ran cadw, digideiddio a rhoi mynediad at ein treftadaeth ddiwylliannol.
Hoffwn ddiolch i staff y Llyfrgell am eu hymrwymiad parhaus i wasanaethu’r cyhoedd drwy’r cyfnod anodd hwn, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan y cynlluniau positif y mae’r Llyfrgell yn eu datblygu ar gyfer y dyfodol.