Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Ym mis Gorffennaf 2016 cyflwynais y newyddion diweddaraf i’r Aelodau ynghylch hynt prosiect Cylchffordd Cymru. Dywedais bryd hynny fy mod wedi cyfarfod â Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd (HOVDC) ac wedi egluro’r ffaith bod angen iddynt sicrhau mai’r sector preifat fyddai’n darparu o leiaf 50 y cant o’r cyllid ac yn ysgwyddo 50 y cant o risg y prosiect cyn y gallai Llywodraeth Cymru ystyried unrhyw gynnig newydd.
Ers hynny mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â thîm y prosiect ac maent wedi cynnig pob cymorth posibl. Rwyf wedi pwysleisio i dîm Cylchffordd Cymru mai eu cyfrifoldeb nhw yw cyflwyno cynnig newydd sy’n bodloni’r gofynion hynny o safbwynt porth.
Ddydd Mercher 25 Ionawr, gan ystyried yr amser a oedd wedi mynd rhagddo a’r angen i roi’r newyddion diweddaraf i gymuned Blaenau Gwent, gwnes herio tîm Cylchffordd Cymru i symud y cynigion yn eu blaenau a rhoi i mi enwau’r buddsoddwyr o’r sector preifat o fewn pythefnos.
Mae Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno cynnig newydd ar gyfer Cylchffordd Cymru sy’n cynnwys enwau’r buddsoddwyr preifat ac maent yn haeru ei fod yn bodloni’r meini prawf a bennwyd gennyf ym mis Gorffennaf.
Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y cynnig yn ofalus yn awr, ac yn cychwyn proses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy ynghylch y cynnig ei hun, a hefyd y buddsoddwyr a’r cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am y prosiect.
Bydd yr ymarfer diwydrwydd dyladwy yn cynnwys gwaith profi trylwyr mewn perthynas â gwerth am arian a hefyd asesiad Person Addas a Phriodol o ran y cyfarwyddwyr. Bydd hefyd yn asesu’r gallu i gyflenwi a chynaliadwyedd hirdymor y cynnig. Byddwn yn ceisio eglurder o ran y mathau a nifer y swyddi a fydd yn deillio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o’r prosiect; sut y mae nifer y swyddi hynny’n cymharu â’r ffigur a nodwyd yn wreiddiol sef 6,000 a hefyd nifer tebygol y swyddi a fyddai’n cael eu llenwi gan bobl leol.
Bydd gwaith asesu’n cael ei wneud yn ogystal er mwyn sicrhau bod y risgiau a’r buddion ar gyfer pob parti yn gymesur ac yn deg ar gyfer prosiect sydd wedi’i danysgrifennu’n rhannol gan arian cyhoeddus.
Wrth i ni symud ymlaen i’r cam diwydrwydd dyladwy mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i ystyried a yw’n brosiect a fydd o fudd uniongyrchol i bobl Blaenau Gwent ac economi ehangach Cymoedd De Cymru ar gyfer yr hirdymor.
Deallwn y bydd y buddsoddwyr yn cynnal eu gwaith diwydrwydd dyladwy eu hunain ar wahân, ond yn ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth Cymru. Bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan y Cabinet unwaith y bydd yr ymarfer uchod wedi’i gwblhau.