Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf roi gwybod ichi fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Nodyn Cyngor Caffael a Chanllawiau ar Gyfrifon Banc Prosiectau.

Yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennyf ym mis Ionawr, dywedais fod prosiectau peilot wedi’u nodi ar gyfer Cyfrifon Banc Prosiectau. Rwy’n falch fod y fenter hon yn symud yn ei blaen yn dda. 

Busnesau bach a chanolig sy’n ffurfio’r sector adeiladu yng Nghymru, i raddau helaeth. Mae llawer ohonynt yn gwneud gwaith hollbwysig drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn cwblhau contractau adeiladu’r sector cyhoeddus. Mae’r busnesau bach hyn yn allweddol i les economaidd Cymru, ac rwy’n benderfynol o sicrhau bod polisi caffael cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i annog ymddygiad cyfrifol gan fusnesau.

Mae’n hanfodol fod isgontractwyr llai yn gallu cael gafael ar arian er mwyn diogelu eu llif arian. Mae hefyd yn gwbl deg eu bod yn cael eu talu’n brydlon yn unol â’u perfformiad ar y contract, am helpu i gyflawni’r prosiectau adeiladu a’r prosiectau seilwaith sydd mor bwysig i economi Cymru. Bydd cyflwyno Cyfrifon Banc Prosiectau yn helpu i sicrhau bod isgontractwyr sy’n helpu i gyflawni prosiectau adeiladu cyhoeddus yn cael eu talu’n brydlon. Dyma ddatblygiad hollbwysig a fydd yn helpu i wella llif arian amryw o’n contractwyr llai, yn ogystal â gwella’r cydweithredu ar hyd y gadwyn gyflenwi.

Roedd y Strategaeth Gaffael ar gyfer Adeiladu a gadarnhawyd gennyf ym mis Gorffennaf 2013 yn cynnwys ymrwymiad i ddefnyddio Cyfrifon Banc Prosiectau mewn contractau adeiladu. Mae hyn hefyd yn cefnogi Datganiad Polisi Caffael Cymru, a gyhoeddwyd gennyf ym mis Rhagfyr 2012. Yn ôl y Datganiad Polisi hwnnw, rhaid i gyrff cyhoeddus dalu aelodau o’r gadwyn gyflenwi yn unol â’r arferion gorau. Yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennyf ym mis Ionawr, cyhoeddais fod Cynghorau Sir y Fflint, Abertawe a Thorfaen wedi nodi prosiectau i’w defnyddio i brofi’r defnydd o Gyfrifon Banc Prosiectau yng Nghymru. Bydd y cynlluniau peilot hyn yn anhepgor wrth ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer diweddaru polisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd adroddiad ar y Gwersi a Ddysgwyd yn cael ei baratoi maes o law.

Hoffwn ddiolch i aelodau’r Grŵp Contractwyr Peirianneg Arbenigol yng Nghymru am eu cefnogaeth wrth godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu amryw o isgontractwyr, o ran sicrhau eu bod yn cael eu talu. Eu hymrwymiad i’r mater yma oedd un o’r prif resymau dros gyhoeddi’r polisi a’r canllawiau ar gyfer cyflwyno Cyfrifon Banc Prosiectau. Dyma enghraifft arall o’m hymrwymiad i ddefnyddio’r polisi caffael cyhoeddus i sicrhau bod busnesau llai yn gallu ffynnu yn sgil contractau yng Nghymru. 

Mae’r Nodyn Cyngor Caffael a’r canllawiau i’w gweld drwy ddilyn y ddolen isod i’r Canllaw Cynllunio Caffael. 
http://prp.wales.gov.uk

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.