Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Rwy'n ysgrifennu at yr Aelodau i roi gwybod iddynt am hynt prosiect Cyflymu Cymru i gyflwyno band eang cyflym iawn.
Ers ei sefydlu yn 2013, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi mynd ati i drawsnewid y tirlun band eang yng Nghymru, gan gefnogi twf economaidd a swyddi cynaliadwy ledled y wlad.
Mae'r prosiect yn parhau i gyflwyno cysylltedd band eang cyflym iawn (30Mps ac uwch) i ardaloedd na fyddai fel arall wedi'i gael, gan gynnwys llawer o'n cymunedau gwledig. Bellach mae Cymru yn elwa ar yr argaeledd uchaf o fynediad at gyflymderau band eang cyflym iawn ymysg y gwledydd datganoledig.
Hyd yn hyn, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad at gyflymderau band eang cyflym iawn i dros 565,000 o gartrefi a busnesau ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, gyda 25% yn gosod cabinetau band eang ar y safle am 12 mis a mwy.
(Tabl yn Annex 1)
Mae dros £159 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn trwy gyfrwng prosiect Cyflymu Cymru, ac mae hyn wedi arwain at dros 73% o adeiladau cymwys ledled Cymru yn cael mynediad at gysylltedd band eang cyflymder ffeibr.
Yn ogystal, mae contract gwreiddiol prosiect Cyflymu Cymru wedi cael ei ymestyn i gynnwys 42,000 o adeiladau ychwanegol, a nodwyd trwy broses adolygu'r farchnad agored, na chafodd eu cynnwys yn wreiddiol fel rhan o'r prosiect na'r ymarfer masnachol.
Bydd y prosiect yn parhau i gyflwyno mynediad at gyflymder band eang cyflym iawn ledled Cymru dros y misoedd nesaf hyd nes y daw i ben yn 2017.