Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddais bapur ymgynghori yn nodi'r trefniadau arfaethedig ar gyfer cyflwyno rôl Archwilwyr Meddygol yng Nghymru. Dilynodd hyn ymgynghoriad cynhwysfawr Llywodraeth y DU, yn gynharach y flwyddyn honno, ar y diwygiadau arfaethedig i ardystio marwolaethau yng Nghymru a Lloegr a chyflwyno'r rôl newydd hon i graffu ar yr holl farwolaethau nad ydynt yn cael eu hatgyfeirio at Grwner, gan sicrhau bod craffu annibynnol yn digwydd yn achos pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr.
Rwyf yn croesawu'r newidiadau arfaethedig hyn gan nad yw'r system ardystio marwolaethau yn y DU wedi newid ers dros 60 mlynedd ac fe wnaeth sawl adroddiad megis Trydydd Adroddiad ymchwiliad Shipman a gyhoeddwyd yn 2003 ac Ymchwiliad Francis i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford argymhellion ar gyfer craffu'n annibynnol ar farwolaethau a'r angen i gynnwys teuluoedd y rhai sydd wedi cael profedigaeth.
Er nad yw'r rhan fwyaf o faes ardystio marwolaethau wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru, bydd Gweinidogion Cymru'n gyfrifol am roi'r trefniadau arfaethedig ar waith yn ymarferol yng Nghymru. Ceisiais safbwyntiau ar y ddwy set neilltuol o reoliadau lle mae gan Weinidogion Cymru bwerau. Mae'r rhain yn ymwneud â phenodi Archwilwyr Meddygol a'r ffioedd i'w codi am wasanaeth archwilwyr meddygol.
Rwyf yn ymwybodol ei bod hi dros 18 mis ers i'r ymgynghoriadau hyn ddigwydd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr wedi ystyried yr ymateb i'w ymgynghoriad ei hun, ynghyd ag adborth oddi wrth safleoedd peilot Archwilwyr Meddygol a'r Ymddiriedolaethau hynny sydd wedi mabwysiadau dull gweithredu Archwilwyr Meddygol i gefnogi eu gwaith wrth adolygu marwolaethau. Mae hyn wedi arwain at gynlluniau diwygiedig yn y ffordd y caiff Archwilwyr Meddygol eu cyflwyno sydd wedi peri bod angen oedi cyn cyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad tan heddiw. Hoffwn ddiolch i'r unigolion a sefydliadau a ymatebodd i'r ymgynghoriad am eu safbwyntiau a'u hawgrymiadau. Mae'r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o'r prif themâu a safbwyntiau a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad yng Nghymru.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i'w ymgynghoriad. Yn gryno, mae ymateb Llywodraeth y DU'n nodi dull gweithredu o ran cyflwyno system anstatudol ar gyfer archwilwyr meddygol lle y caiff archwilwyr meddygol eu penodi yn y GIG heb gyflwyno unrhyw ffi newydd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU'n bwriadu diwygio Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, pan gyfyd cyfle i roi'r system archwilwyr meddygol ar sail statudol.
Caiff adran 18 o reoliadau'r Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder eu cychwyn, gan ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr meddygol adrodd marwolaethau i'r crwner y mae'n ddyletswydd ar y crwner ymchwilio iddynt, ynghyd ag adran 21 i alluogi Archwilydd Meddygol Cenedlaethol i gael ei benodi ar gyfer Cymru a Lloegr.
Dylai'r adroddiad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw gael ei ddarllen felly ar y cyd â'r ddogfen hon y ceir dolen iddi isod gydag adroddiad Llywodraeth Cymru er hwylustod:
Death certification reforms on GOV.UK
Cyflwyniad rôl archwiliwr meddygol a'r diwygiadau i ardystio marwolaeth
Yng Nghymru caiff y trefniadau newydd eu cyflwyno'r un pryd â Lloegr, gan ddechrau yn Ebrill 2019 ac fe gaiff Bwrdd Gweithredu ei sefydlu cyn hir.