Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym wedi cael wythnos lwyddiannus unwaith eto yn ein Rhaglen Frechu COVID-19; mae dros 2.8 miliwn o frechiadau COVID-19 wedi’u rhoi. Mae data a gyhoeddwyd heddiw’n dangos bod ein timau brechu rhagorol nawr wedi darparu 1,948,683 o ddosau cyntaf ac 854,441 o ail ddosau. Golyga hyn eu bod wedi darparu cyfanswm o 2,803,124 o frechiadau.
Rwy’n falch o gadarnhau bod 77% o holl oedolion Cymru wedi cael eu brechiad cyntaf a bod un o bob tri oedolyn wedi cael eu hail ddos i gwblhau’r cwrs. Diolch i bawb sydd wedi derbyn y cynnig i gael eu brechu. Mae’r rhaglen yn mynd rhagddi’n ardderchog, ond mae angen inni barhau i wneud y pethau sy’n ein cadw’n saff hyd nes y byddwn ni i gyd wedi’n diogelu.
Hoffwn eich sicrhau unwaith eto mai diogelwch pobl a ddaw gyntaf bob amser. Ni fyddwn ond yn defnyddio brechlynnau pan fo hynny’n ddiogel a phan fo’r manteision yn dal i fod yn fwy na’r risgiau. Rydym yn hyderus yn y brechlynnau ac mae rhaid inni gynnal y momentwm. Ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru, rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill i fonitro diogelwch brechlynnau’n barhaus a byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa’n ofalus iawn.
Ddydd Gwener 7 Mai, diweddarodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ei gyngor arbenigol ac, fel mesur rhagofalus, bydd pobl o dan 40 oed sydd heb ffactorau risg glinigol ac sydd heb gael eu brechu eto yn cael cynnig brechlyn arall yn lle brechlyn AstraZeneca. Rydym wedi gweithredu’r newid hwn ar unwaith yn ein rhaglen. Bydd y brechlyn priodol ar gael i bobl yn eu hapwyntiad.
Nid ydym yn rhag-weld y bydd hyn yn arwain at oedi yn ein rhaglen frechu yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio tuag at y drydedd garreg filltir yn ein Strategaeth, sef cynnig brechlyn i bawb sy’n 18 oed a hŷn erbyn 31 Gorffennaf 2021. Fel yr ydym wedi’i ddweud yn gyson, os bydd y cyflenwad o frechlynnau’n caniatáu inni roi’r rhaglen ar waith yn gyflymach yna byddwn yn gwneud hynny.
Dylai pawb sydd eisoes wedi cael dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca gael eu sicrhau mai cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yw y dylent gael ail ddos o’r un brechlyn, ni waeth beth fo’u hoedran. Gall eithriadau meddygol fod yn berthnasol i leiafrif bach iawn.
Mae brechlyn AstraZeneca eisoes wedi achub miloedd o fywydau ac mae’n ddiogel ac yn effeithiol o hyd i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Mae dros 1.2 miliwn o bobl wedi cael brechlyn AstraZeneca yng Nghymru ers mis Ionawr, ac ychydig iawn o achosion o glotiau gwaed gyda thrombocytopenia sydd wedi bod.
Brechlynnau yw’r ffordd orau o hyd o ddod allan o’r pandemig hwn ac maent yn darparu amddiffyniad cryf rhag COVID-19 – mae’n bwysig bod pobl yn cael eu brechiad pan gânt eu gwahodd. Mae hi’r un mor bwysig bod pobl yn dod i gael yr ail ddos er mwyn cael eu diogelu’n llawn. Mae pob un brechiad wir yn cyfrif.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin defnyddiol ar ei wefan ynglŷn â’r brechlynnau a’u diogelwch.
Rwy’n hynod o ddiolchgar i’n holl gydweithwyr yn y GIG a’r gwirfoddolwyr lu ledled Cymru am eu gwaith caled a’u hymroddiad cyson sy’n ei gwneud yn bosibl inni wireddu ein Rhaglen Frechu COVID-19. Cyn bo hir, byddwn wedi rhoi 2 filiwn o ddosau cyntaf ac 1 miliwn o ail ddosau sy’n gyflawniad gwirioneddol ryfeddol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19.