Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Hydref 2018, cynhaliwyd arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Powys. Mae adroddiad yr Arolygiaeth yn cael ei gyhoeddi heddiw (9 Ionawr). Mae’r arolygiad hwn yn adeiladu ar yr arolygiad a gynhaliwyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2017, lle nodwyd pryderon difrifol ynghylch cyflenwi gwasanaethau plant ym Mhowys. Cafodd Hysbysiad Rhybuddio ffurfiol ei gyhoeddi i Gyngor Sir Powys o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a hynny ym mis Hydref 2017. Roedd yr Hysbysiad Rhybuddio hwnnw yn gosod amryw o ofynion ar yr awdurdod lleol; gan gynnwys datblygu Cynllun Gwella a sefydlu Bwrdd Gwella.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Rhybuddio Dilynol ym mis Ionawr 2018 ac Atodiad i’r Hybsysiad Rhybuddio Dilynol ym mis Ebrill 2018. Roedd y ddau hysbysiad hwn yn tynnu sylw at waith pellach yr oedd angen ei wneud er mwyn gwella’r gwasanaethau yn y tymor canolig a’r tymor hir. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi bod yn monitro’n ffurfiol y ffordd y mae cynllun gwella’r awdurdod lleol wedi cael ei roi ar waith.
Ym mis Mai 2018, rhoddodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd ddatganiad llafar i’r Cyfarfod Llawn yn cyhoeddi manylion pecyn cymorth corfforaethol ar gyfer y Cyngor. Roedd y cymorth hwn yn rhoi cyfle i gyflwyno Bwrdd Gwella a Sicrwydd i gefnogi cynnydd y gwelliannau ar draws y sefydliad, a’i fonitro. Mae’r Bwrdd yn rhoi trosolwg strategol i Arweinydd y Cyngor, ac yn sicrhau bod cydweithio a gweithredu ar draws pob rhan o’r awdurdod er mwyn cyflawni’r gwelliannau angenrheidiol.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cwblhau arolygiad dilynol o Wasanaethau Plant Cyngor Sir Powys erbyn hyn. Mae’r adroddiad yn cydnabod gwaith caled staff yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys i gefnogi a chyflawni canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc. Mae’n cydnabod bod gwelliannau mawr wedi’u gwneud mewn rhai meysydd ymarfer, ac mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynyddu’r trosolwg corfforaethol o wasanaethau plant a chryfhau trosolwg y rheolwyr.
- Gwella’r mynediad i ‘ddrws y ffrynt’ gwasanaethau plant a darparu’n fwy amserol a gwella ansawdd y penderfyniadau cychwynnol drwy gryfhau trosolwg y rheolwyr.
- Gwneud gwelliannau sylweddol o ran cynnal ymweliadau rheolaidd â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant.
- Sefydlu timau asesu ac arddangos arwyddion bod y gwasanaeth yn cyflawni’n fwy prydlon a bod ansawdd yr asesiadau yn gwella.
- Gwella amseroldeb ac ansawdd ceisiadau am orchmynion llys mewn perthynas â phlant.
- Lleihau llwythi gwaith unigolion a goruchwylio staff yn llawer mwy rheolaidd.
Mae’r meysydd gweithredu â blaenoriaeth fel a ganlyn:
- Sicrhau bod gweledigaeth strategol glir ar gyfer cyfarwyddo cynllunio cyffredinol a chyflenwi gwasanaeth di-dor ar gyfer plant a’u teuluoedd, sy’n cynnwys darparu cymorth effeithiol yn gynnar a gwasanaethau cymorth i deuluoedd ynghyd ag ymyrraeth statudol.
- Rhoi ffocws cliriach ar wella perthnasoedd strategol â phartneriaid i gydweithio mwy er budd plant a’u teuluoedd.
- Datblygu strategaeth gomisiynu ac arferion gwaith cymdeithasol er mwyn rhagweld anghenion llety plant a lleihau nifer y lleoliadau brys.
- Sicrhau bod y broses ddiogelu yn cynnwys rhannu gwybodaeth amlasiantaethol cyn gynted â phosibl wedi i blentyn gael ei atgyfeirio er mwyn sicrhau bod yr ymarfer yn seiliedig ar yr wybodaeth honno ac i gael y canlyniadau gorau posibl i blant.
- Sicrhau bod ymateb amlasiantaethol ar gael yn syth i ddiogelu plant sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol.
- Sicrhau bod ymchwiliadau i gŵynion yn fanwl ac yn amserol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn disgwyl i Wasanaethau Plant Cyngor Sir Powys adolygu ei gynllun gwella presennol fel ymateb i’w adroddiad newydd. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn parhau i fonitro’n ffurfiol drwy weithgareddau ag iddynt ffocws penodol. Mae’r Bwrdd Gwella a Sicrwydd yn parhau i gefnogi Arweinydd y Cyngor i ysgogi gwelliannau ac mae’r Cadeirydd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i Weinidogion Cymru.