Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 20 Mehefin 2023, rhoddais ddiweddariad ar ddyfarniad cyflog dwy flynedd Agenda Newid y GIG. Er i’r rhan fwyaf o undebau ddewis derbyn y cynnig, roedd dau undeb, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas y Radiograffwyr, yn parhau â’r anghydfod.
Yn fy natganiad blaenorol, dywedais y byddai fy swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn cynnal y cytundeb ar y cyd a pharhau i drafod gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas y Radiograffwyr i roi sylw i bryderon dilys penodol ac osgoi unrhyw weithredu diwydiannol pellach. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, roeddem wedi gallu datblygu ymhellach nifer o elfennau’r cynnig cyflog ddwy flynedd, nad oeddent yn ymwneud â thâl gan sicrhau eglurder yn eu cylch, gan eu bod yn elfennau a oedd yn peri’r pryder mwyaf i’r proffesiynau a gynrychiolir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas y Radiograffwyr.
Mae’n dda gennyf gyhoeddi bod aelodau’r Coleg Nyrsio a Chymdeithas y Radiograffwyr wedi pleidleisio o blaid derbyn y cynnig cyflog ddwy flynedd gan ddod â’r anghydfod â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflog ar gyfer 2023/24 i ben yn ffurfiol.
Er fy mod yn falch bod yr anghydfod ynglŷn â chyflogau a oedd yn gysylltiedig â’r Agenda Newid wedi dod i ben, rydym yn deall cryfder teimladau staff ar draws y GIG cyfan, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda’n hundebau iechyd a chyflogwyr y GIG i roi sylw i bryderon y staff a chydweithio ar yr elfennau o’r dyfarniad cyflog nad ydynt yn ymwneud â thâl.