Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Fis Mawrth 2020, ysgrifennais at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Jesse Norman Aelod o Senedd y DU, i wneud cais ffurfiol i ddatganoli cymhwysedd trethu pellach i Senedd Cymru mewn perthynas â ‘threth ar dir gwag’. Roedd y cais ffurfiol hwn yn cyd-fynd â’r broses y cytunwyd arni rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru fel y darperir gan Ddeddf Cymru 2014. Hefyd, gwnaed y cais ar ôl cyfarfod adeiladol rhyngof i ac Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ddiwedd mis Chwefror.
Ein cais ffurfiol ar gyfer cymhwysedd trethu yw’r tro cyntaf inni brofi’r system a daw’r cais ar ôl dwy flynedd o waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Drysorlys Ei Mawrhydi wybodaeth ddigonol i asesu cynigion Llywodraeth Cymru. Mae’r profiad o symud drwy’r broses wedi bod yn hirfaith ac yn heriol, gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi yn gofyn yn barhaus am fanylion ynglŷn â gweithrediad penodol y dreth arfaethedig – mater i Gymru – yn hytrach na gwybodaeth ynglŷn â datganoli cymhwysedd ar gyfer deddfwriaeth mewn maes trethu newydd. Ar 19 Awst 2020, ymatebodd Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys drwy ddweud y byddai angen mwy fyth o fanylion cyn y gellid bwrw ymlaen â’n cais ffurfiol.
Mae hi wedi dod i’r amlwg nad yw’r broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd trethu pellach i Gymru yn addas i’r diben, ac o safbwynt ymarferol mae’n nodedig o debyg i broses flaenorol y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol. Gwaethygir y sefyllfa gan y ffaith y gall Trysorlys Ei Mawrhydi symud y pyst o ran pa wybodaeth sydd ei hangen ar unrhyw adeg. O ystyried yr heriau yr ydym wedi’u hwynebu wrth hebrwng y maes penodol a chul iawn hwn o gymhwysedd deddfwriaethol drwy’r system, mae’n anodd rhag-weld sefyllfa lle gallai Llywodraeth Cymru lwyddo i ddadlau’r achos dros gymhwysedd trethu pellach, os bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn parhau. Bydd methiant y system hon yn cael effaith sylweddol ar allu’r llywodraeth hon a llywodraethau’r dyfodol i ddefnyddio treth fel ffordd o ddylanwadu ar ymddygiad neu gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion pobl Cymru.
Rwy’n gobeithio nad yw’r ymateb hwn yn adlewyrchu agwedd ehangach Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli. Rydym yn credu’n gryf fod rhaid parchu a chryfhau datganoli er mwyn sicrhau dyfodol y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i fynegi fy siom o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cymaint o fanylion ag sy’n bosibl yn y cam hwn o’r broses. Fel yr wyf wedi’i grybwyll wrth Lywodraeth y DU sawl gwaith, bydd y gwaith o ystyried gweithrediad penodol y dreth yn cael ei wneud ar ôl datganoli’r cymhwysedd i Gymru, gan ddilyn proses gyhoeddus drwyadl briodol, yn unol â’n hegwyddorion o ran trethi.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i’r sefyllfa hon ddatblygu.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.