John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Cyhoeddais ar 20 Mawrth y byddai Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar raglen pum mlynedd o frechu moch daear o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Mae’n gwneud hyn fel rhan o’n hymdrechion i ddileu TB gwartheg yng Nghymru. Mae’r Ardal Triniaeth Ddwys yn cwmpasu ardal o 288km2 a dyma’r tro cyntaf i brosiect fynd ati i ddal moch daear mewn cewyll a’u brechu ar raddfa mor uchelgeisiol.
Rydym bellach wedi cwblhau blwyddyn gyntaf y prosiect brechu. Dechreuodd y gwaith maes a oedd yn cynnwys wyth prif gylch gwaith ym mis Mai a daeth i ben ym mis Hydref. Cafodd nifer bach o frochfeydd moch daear hefyd eu brechu yn ystod mis Tachwedd. Amrywiodd hyd bob cylch rhwng tair a phedair wythnos, gan ddibynnu ar faint yr ardal a nifer y moch daear yno.
Staff Llywodraeth Cymru a oedd wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs gan yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd a fu’n gyfrifol am yr holl waith brechu. Roedd y cwrs yn ymwneud â dal moch daear mewn cewyll a’u brechu drwy bigiad.
Dengys ffigurau dros dro ein bod wedi llwyddo i ddal a brechu dros 1400 o foch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys ers mis Mai. Bydd angen i’r data sy’n sail i’r ffigur hwn gael eu dilysu a chaiff y ffigur pendant ei gadarnhau yn yr adroddiad ar y prosiect. Caiff yr adroddiad hwn ei lunio erbyn diwedd mis Ionawr. Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb o gostau’r rhaglen yn ystod ei blwyddyn gyntaf a chaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae ein rhaglen frechu wedi galluogi Cymru i weithredu’n benderfynol ac ar fyrder er mwyn ceisio magu peth imiwnedd i TB ymysg y moch daear a geir o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Credwn y bydd hyn yn lleihau’r risg y gallai TB gael ei drosglwyddo o foch daear i wartheg ac y bydd yn cyfrannu at ddileu TB gwartheg dros amser.
Yn ogystal â’r prosiect yn yr Ardal Triniaeth Ddwys, gwnes hefyd ofyn i’r Prif Swyddog Milfeddygol ystyried ardaloedd eraill lle y gallai gwaith brechu gyfrannu at ddileu TB gwartheg. Mae opsiynau ynghylch ehangu’r rhaglen frechu a’i gweithredu mewn ardaloedd eraill wrthi’n cael eu datblygu. Caiff cynigion eu cyflwyno i mi maes o law.
Mae llwyddiant y cynllun brechu moch daear yn dibynnu ar allu staff i gael mynediad at gymaint â phosibl o dir. Hoffwn ddiolch i ffermwyr a thirfeddianwyr am eu cydweithrediad parhaus a hoffwn hefyd annog partneriaid a rhandaliad eraill i ystyried sut y gallent gydweithio â ni er mwyn cynyddu nifer y moch daear y gallwn eu brechu yng Nghymru.
Byddaf yn monitro canlyniadau’r rhaglen frechu ynghyd â’n holl raglen ar gyfer dileu TB gwartheg er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd cywir ar gyfer cyflawni Cymru sy’n glir o TB. Byddaf yn adrodd ar y mater unwaith eto yn y Flwyddyn Newydd.