Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau breision ymlaen gyda’i chynlluniau i foderneiddio’r Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru er mwyn hybu symudedd annibynnol, cynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal a mynediad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso. Hoffwn roi’r diweddaraf i chi am rai o’r datblygiadau diweddar hyn.
Ar 1af Awst 2011 daeth rheoliadau i rym a oedd yn ymestyn cymhwysedd i blant dan dair oed y mae’n rhaid iddynt gael cyfarpar meddygol swmpus gyda hwy neu y gallent fod angen mynediad i gerbydau er mwyn cael triniaeth frys yn yr ysbyty. Ar yr un pryd gwnaethom ymestyn y Cynllun i gyn-filwyr a anafwyd yn ddifrifol ac sy’n syrthio o fewn tariffau 1 – 8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.
Un o’r meysydd allweddol ar gyfer moderneiddio’r cynllun yw darparu bathodyn mwy diogel a datblygu system rhannu data. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i lunio system rhannu data ar gyfer Prydain Fawr gyfan a fydd yn cyrraedd y nod hwn. Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dyfarnu contract i Northgate Information Solutions, mewn partneriaeth â Payne Security a fydd yn argraffu ac yn cyflenwi’r bathodyn ar ei newydd wedd. Yr enw ar hwn yw Gwasanaeth Gwella’r Bathodyn Glas neu BBIS.
Bydd BBIS ar gael i’r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd BBIS craidd:
- yn argraffu, yn personoli ac yn dosbarthu’r dyluniad Bathodyn Glas newydd mewn modd diogel;
- yn darparu cronfa ddata ganolog o’r holl Fathodynnau Glas a gyflwynwyd ynghyd â gwybodaeth allweddol am ddeiliaid bathodynnau;
- yn darparu system ar-lein i archwilio cymhwysedd ynghyd â ffurflen ymgeisio ar-lein a fydd ar gael drwy gyfrwng Directgov, gwefannau Awdurdodau Lleol a rhyngwynebau addas eraill;
- yn darparu gwasanaeth cefnogi ar gyfer ymholiadau cychwynnol; ac
- yn darparu cefnogaeth a gweinyddiaeth i’r gwasanaeth a reolir.
Mae un o’r newidiadau pwysicaf yr ydym yn ei wneud fel rhan o BBIS yn cael ei wneud i ddyluniad y Bathodyn Glas ei hun fel ei fod yn anos ei gopïo, ei ffugio a’i addasu. Bydd y bathodyn newydd wedi’i wneud o PVC ac mae’n cynnwys elfennau megis patrymau argraffu cymhleth; nodwedd holograffig na ellir ei llungopïo na’i sganio; inciau diogelwch nad ydynt ond ar gael gan restr gyfyngedig o ddarparwyr; nodweddion sy’n codi a Braille; ynghyd â ffotograff digidol. Mae sawl mantais i ddefnyddio un cyflenwr ar gyfer y bathodynnau. Yn ogystal â gwella diogelwch o safbwynt dosbarthu, cyflenwi a storio’r bathodyn:
- gallwn ddefnyddio system rifo gyffredin, gan ein galluogi i reoli bathodynnau yr adroddir eu bod ar goll neu wedi’u dwyn yn fwy effeithiol;
- gallwn sicrhau’r arbedion maint gorau a chyflwyno nodweddion atal twyll soffistigedig am y gost isaf;
- gallwn ymateb yn gyflym drwy newid, er enghraifft, rai o’r nodweddion lliw pe byddai copïau neu fathodynnau ffug yn dechrau cael eu cynhyrchu;
- gellir gwella ansawdd a pharhad bathodynnau fel eu bod yn ddarllenadwy a ddim yn colli’u lliw yn yr haul.
Cynhaliwyd ymarferiad ymgynghori cyhoeddus rhwng 8 Awst a 31 Hydref 2011 a rhoddai hwn sylw i nifer o faterion: ffi’r Bathodyn Glas, y drefn asesu a gorfodi.
Yn y Rhaglen Lywodraethu rydym wedi ymrwymo i leihau tlodi ymysg rhai o’n cymunedau a’n pobl dlotaf. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a wnaed ar gyfer diwygio’r Bathodyn Glas yn datgan bod pobl anabl yng Nghymru bron ddwywaith mor debygol â phobl nad ydynt yn anabl o fyw mewn aelwydydd incwm isel, eu bod yn wynebu costau ychwanegol yn gysylltiedig â rheoli eu nam, ac y gallai hyn wthio unigolion ymhellach i dlodi.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cynigion i godi lefel y ffi y gall Awdurdodau Lleol ei chodi am ddarparu Bathodyn Glas newydd mwy diogel a chryf. Yn y Rhaglen Lywodraethu rydym wedi ymrwymo i leihau tlodi ymysg rhai o’n cymunedau a’n pobl dlotaf. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a wnaed ar gyfer diwygio’r Bathodyn Glas yn datgan bod pobl anabl yng Nghymru bron ddwywaith mor debygol â phobl nad ydynt yn anabl o fyw mewn aelwydydd incwm isel, eu bod yn wynebu costau ychwanegol yn gysylltiedig â rheoli eu hanabledd, ac y gallai hyn wthio unigolion ymhellach i dlodi. Er mwyn cydnabod ein dyletswydd i gefnogi’r grwpiau mwyaf bregus yn ein cymdeithas, rwy’n ystyried ffyrdd o gynorthwyo â chost y Cynllun Bathodyn Glas. O’r herwydd rwyf wedi penderfynu peidio â chodi ffi ar ddefnyddwyr y Bathodyn Glas. Er mwyn gwneud hynny, rwyf wrthi’n ymgynghori ynghylch opsiynau a allai sicrhau ffordd fwy effeithlon o roi cyhoeddusrwydd i orchmynion traffig. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr dalu ffi am fathodynnau sefydliadol a rhai bathodynnau cyfnewid. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer Awdurdodau Lleol i dalu am gost y bathodyn newydd. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr a’r Alban, lle gallai awdurdodau lleol godi hyd at £10 a £20, yn y drefn honno, am fathodyn glas.
Yn fuan byddaf yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad sydd hefyd yn datgan ein cynlluniau i fwrw ymlaen arferion da o safbwynt asesu cymhwysedd ar gyfer y Cynllun ac i roi i Awdurdodau Lleol y pŵer i wella gorfodi a lleihau camddefnyddio.
Yn olaf, rwyf hefyd yn edrych ar y dystiolaeth er mwyn ymestyn cymhwysedd i gategorïau penodol o bobl sydd â nam gwybyddol megis clefyd Alzheimer neu awtistiaeth. Mae ymchwil bellach yn mynd rhagddi er mwyn pennu technegau asesu a throthwyon, a chynhelir ymgynghoriad cyn i unrhyw benderfyniad polisi gael ei wneud.
Wrth fwrw ymlaen â’r holl waith hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd y gall Awdurdodau Lleol ddatblygu arferion gweithio cydweithredol i gyflawni’r Cynllun.