Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 12 Mawrth 2012 i roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad, i randdeiliaid ac i’r cyhoedd yn gyffredinol ein bod wedi lansio’r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Gwasanaethau Cymdeithasol i Gymru.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Mawrth ac 1 Mehefin 2012. Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyfarfu fy swyddogion a minnau â mwy na 500 o unigolion mewn amrywiol ddigwyddiadau cyhoeddus, a derbyniwyd 275 o ymatebion ysgrifenedig gan randdeiliaid.
Dadansoddwyd yr ymatebion hynny, ac rydym yn ystyried y safbwyntiau’r rhai yr ymgynghorwyd â hwy yn ofalus fel rhan o’r broses o ddrafftio’r Bil, sy’n bur ddatblygedig erbyn hyn.
Cyhoeddir adroddiad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn nes ymlaen yn yr haf. Bydd hwn yn cynnwys disgrifiad o’r materion a leisiwyd mewn ymateb i’n cynigion, a’n hymateb ninnau i sylwadau’r ymgynghoreion.
Yn y cyfamser, fodd bynnag, gallaf gyhoeddi heddiw fy mod wedi penderfynu peidio â chynnwys ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) y darpariaethau hynny sy’n ymwneud â rheoleiddio ac arolygu’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gynhwyswyd ym mhennod 5 o’n dogfen ymgynghori.
Rwyf wedi penderfynu hyn yng ngoleuni’r hyn a ddywedodd rhanddeiliaid wrthym mewn ymateb i’n cynigion gwreiddiol, ac er mwyn rhoi mwy o amser inni ystyried y ffordd orau inni gyflawni ein dyheadau ar gyfer trefn fodern o reoleiddio ac arolygu yng Nghymru, sy’n seiliedig ar ddymuniadau’r dinesydd.
Mae’r penderfyniad hwn yn rhoi cyfle inni fynd y tu hwnt i’r cynigion sydd yn ein papur ymgynghori, ac mae’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad yn awgrymu imi fod yna awydd am hynny. Rwy’n cynnig felly y dylid cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ar wahân yn ystod oes y Cynulliad hwn, a fydd yn mynd i’r afael â rheoleiddio ac arolygu’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rwy’n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ar gynnwys arfaethedig yr ail Fil hwn yn ystod 2013, a rhoddaf wybod i Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid am y datblygiadau wrth i’r gwaith ar y ddeddfwriaeth newydd hon fynd rhagddo.
Yn fy natganiadau blaenorol roeddwn wedi dweud ein bod yn bwriadu cyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yn ystod hydref 2012. Ond gan fod y Bil sy’n ymddangos yn sgil yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r broses ddrafftio mor eang ac mor gymhleth, rwyf wedi cytuno â’r Prif Weinidog mai ym mis Ionawr 2013 y caiff y Bil ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol yn awr.
Rwyf eisoes wedi dweud ei bod yn rheidrwydd arnom i gael y ddeddf bwysig ac uchelgeisiol hon yn gywir. Rhaid inni hefyd ddeall a dadansoddi goblygiadau’r ddeddfwriaeth bresennol a’r ffordd y bydd ein dull newydd yn gweithio’n ymarferol, a sicrhau bod y Bil hwn yn un cystal ag y mae’n bosibl iddo fod, cyn iddo gael ei roi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Credaf fod ein rhesymau dros benderfynu cyflwyno’r Bil yn y flwyddyn newydd yn rhai dilys, a hyderaf y byddwn yn parhau â’r broses gyda chefnogaeth gyson ein rhanddeiliaid, yn yr ysbryd o gytuno a chydweithio sydd wedi nodweddu ein taith hyd yn hyn.