Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ym mis Mawrth 2022, gwnaethom brynu Fferm Gilestone am £4.25 miliwn, yn erbyn gwerthusiad marchnad agored y cytunwyd arno o £4.325 miliwn, er mwyn cefnogi twf y sector creadigol o fewn economi gryfach yng Nghanolbarth Cymru.
Rydym wedi bod yn trafod y posibilrwydd o gefnogi twf y brand yng Nghymru â Gŵyl y Dyn Gwyrdd am nifer o flynyddoedd. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn gyflogwr allweddol yng Nghanolbarth Cymru, sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi leol ac yn darparu swyddi drwy ei brif fusnes, sef yr ŵyl ei hun, ac mewn nifer cynyddol o fusnesau cysylltiedig – busnesau sy'n rhoi cryn bwyslais ar ddatblygu cynaliadwy.
Roedd y cynnig gan Ŵyl y Dyn Gwyrdd ar gyfer canolfan yng Nghwm Wysg yn rhoi cyfle inni ddatblygu economi wledig mewn ffordd gynaliadwy, a'r cyfle i angori brand llwyddiannus o fewn Cymru. Mae ein cefnogaeth ar gyfer cyfle busnes cynaliadwy mewn ardal wledig, yn Fferm Gilestone, yn cyd-fynd â'r nodau a amlinellir ym Margen Twf y Canolbarth, a lofnodwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn 2022. Mae twristiaeth gynaliadwy, bwyd a diod ac amaethyddiaeth yn sectorau allweddol y mae'r Fargen yn canolbwyntio arnynt, ac rydym yn bartner gweithredol wrth gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r meysydd hyn.
Cyfarfu Gŵyl y Dyn Gwyrdd â chynrychiolwyr lleol yn ddiweddar a rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y safle’n gyhoeddus. Maen nhw’n ceisio creu 'menter wledig gynaliadwy' y maent wedi dweud y bydd yn creu £23 miliwn ar gyfer yr economi leol, yn darparu o leiaf 38 o swyddi llawnamser newydd ac yn cefnogi 300 o swyddi lleol drwy ei gadwyn cyflenwi.
Ni chaniateir i unrhyw weithgareddau masnachol ychwanegol gael eu cynnal yn Fferm Gilestone heb dderbyn y trwyddedau a'r caniatadau sydd eu hangen, a chynnal yr asesiadau amgylcheddol priodol.
Ar y cyd â phartneriaid fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i drafod dyfodol y safle â'r gymuned leol.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn amlinellu uchelgeisiau ar gyfer ardal ar wahân sy'n gallu cadw a denu pobl ifanc, yn wyneb newidiadau demograffig mawr.
Mae'n bwysig ein bod ni’n gallu cefnogi ymyriadau i fwrw ymlaen â'r uchelgeisiau cyffredin yn y Fargen er mwyn helpu'r sector creadigol, sector sy'n symud yn gyflym, i ddatblygu ac i ffynnu yng Nghymru.
Mae newid clir yn nemograffig yr ardal wedi bod, ac mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i weithio ar y cyd i sicrhau bod datblygiadau economaidd yn y cefn gwlad yn gallu ffynnu er mwyn creu'r swyddi a'r cyfleoedd o fewn cadwyni cyflenwi y mae cymunedau sy'n ffynnu'n dibynnu arnynt. Rydym wedi ymrwymo i helpu rhagor o bobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru, oherwydd mai'r bobl hyn a fydd yn gyfrifol am lwyddiant yr economi ranbarthol yn y tymor hir.
Yn strategol mae'r cynllun busnes a gyflwynwyd gan Ŵyl y Dyn Gwyrdd i Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn gryf â nodau ac amcanion ein Rhaglen Lywodraethu a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn ogystal â ffermio, mae'r gweithgareddau arfaethedig yn canolbwyntio ar y canlynol:
-
- Canolfan Greadigol
- Profiadau byw a chynulliadau llai newydd
- Cynhyrchu bwyd a diod, gan gynnwys cefnogi busnesau bragu a phobi
- Twristiaeth gynaliadwy
- Priodasau a digwyddiadau eraill
Mae hanes cryf o dwristiaeth a digwyddiadau bach yn Fferm Gilestone, yn ogystal â busnesau presennol a gweithgareddau economaidd y gellir eu gwella ymhellach i ddatblygu'r ganolfan greadigol wledig gyntaf yng Nghymru. Rhaid inni bwysleisio na fyddai'r safle yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd ei hun. Nid yw Fferm Gilestone yn ddigon mawr i gynnal yr Ŵyl, ac ni fyddai'n gwneud synnwyr ei symud chwe milltir i safle nad yw wedi cael ei ddatblygu.
Mae'r cynigion sy'n cael eu hystyried yn nodi y byddai egwyddorion cynaliadwyedd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael eu hymgorffori yn y gweithgareddau amaethyddol ar safle, a byddai asesiadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod yr holl weithgareddau'n gweithio mewn cytgord â'r amgylchedd, gan ategu bioamrywiaeth y fferm. Er enghraifft, mae'r cynllun busnes yn nodi y bydd yr holl weithgareddau ffermio yn y dyfodol yn defnyddio'r arferion gorau wrth reoli ffosffadau i'w hatal rhag trwytho i Afon Wysg.
Yn seiliedig ar y gwaith diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd gan swyddogion hyd yn hyn, rwyf wedi cytuno y gall y broses symud ymlaen i'r cam nesaf hwn, ac rwyf wedi cytuno ar y canlynol:
- Rhoi mynediad, drwy drwydded, i gynrychiolwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd, fel y gallant gynnal arolygon amgylcheddol ac arolygon eraill er mwyn sicrhau'r trwyddedau a'r caniatadau sydd eu hangen ar gyfer eu cynnig.
- Cynnal trafodaethau ffurfiol â Gŵyl y Dyn Gwyrdd ynghylch prydles.
Cynhelir gwaith ymgynghori pellach â'r gymuned leol, gan weithio'n agos gyda Chyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Pan fydd y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau, a bod y gwaith diwydrwydd dyladwy wedi cael ei gwblhau, cyflwynir arfarniad llawn o'r opsiynau terfynol imi eu hystyried. Byddaf wedyn yn gwneud penderfyniad ac yn gwneud ddatganiad llafar i Aelodau.
Yn y cyfamser, mae Fferm Gilestone yn parhau i fod o dan gytundeb rheoli gyda'r perchennog blaenorol drwy Denantiaeth Busnes Fferm ar delerau masnachol. Nid yw'r ffordd mae'r safle'n cael ei ddefnyddio wedi newid ers iddo gael ei brynu gan Lywodraeth Cymru, ac felly na fu angen unrhyw asesiadau nac ystyriaethau pellach mewn perthynas â'r amgylchedd na chynllunio.
Rwy'n ymwybodol o'r diddordeb sylweddol yng nghynigion Gŵyl y Dyn Gwyrdd ymhlith y cyhoedd, ynghyd â diddordeb gan y cyfryngau ac, yn wir, diddordeb parhaus Aelodau o'r Senedd. Felly, byddaf yn cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin ar ein gwefan, bydd ar gael yfory yma Fferm Gilestone: cwestiynau cyffredin pan fyddant yn fyw.