Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae'r Lot olaf o dan y prosiect sy'n olynu Cyflymu Cymru ar gyfer dwyrain Cymru wedi'i dyfarnu i BT PLC. Bydd modd i tua 10,000 o eiddo ychwanegol fanteisio ar fand eang dibynadwy a chyflym o dan y Lot hon. Bydd dros £9.2 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei neilltuo i'r gwaith hwn a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2021.
Fel yr amlinellodd fy rhagflaenydd yn ei datganiad llafar ym mis Hydref y llynedd, cafodd Lot 1 sef Gogledd Cymru a hefyd Lot 3 sef y De-orllewin a'r Cymoedd eu dyfarnu i BT PLC. Bydd y gwaith drwy'r ddwy Lot hyn yn golygu y bydd modd i bron i 16,000 o eiddo ychwanegol fanteisio ar fand eang cyflym erbyn mis Mawrth 2021. Mae ychydig dros £13 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei ddyrannu i'r gwaith hwn.
Golyga fy nghyhoeddiad heddiw y bydd modd i gyfanswm o 26,000 o eiddo fanteisio ar fand eang dibynadwy a chyflym erbyn mis Mawrth 2021 am gost o bron i £22.5 miliwn. Cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru a'r UE fydd yn cyllido'r gwaith hwn. Mae hyn yn ychwanegol at y 733,000 o eiddo sydd bellach yn gallu manteisio ar fand eang cyflym yn sgil Cyflymu Cymru lle cafodd dros £200 miliwn o arian cyhoeddus ei wario. Ni fyddai modd i unrhyw un o'r eiddo hyn fanteisio ar fand eang mwy cyflym heb yr ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru gan nad oedd gan y farchnad unrhyw gynlluniau i sicrhau mynediad i fand eang cyflym iawn o dan eu cynlluniau masnachol nhw. Mae'r broses gaffael ar gyfer y prosiect olynol bellach wedi'i chwblhau.
O ystyried graddfa a chymhlethdod y gwaith o sicrhau band eang cyflym a dibynadwy i'r eiddo nad oes modd iddynt fanteisio arno ar hyn o bryd mae angen ymyrryd mewn sawl gwahanol ffordd. Nid oes un ateb syml sy'n gweddu i bawb. Bydd yr ymyriadau hyn yn cyd-fynd â'i gilydd a byddant yn adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau.
Mae tair elfen i'n dull; cymorth unigol drwy ein cynlluniau talebau cysylltedd ABC a chyflym iawn; cymorth ar gyfer cymunedau drwy ein cynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan gymunedau; a hefyd brosesau cyflwyno sy'n defnyddio arian cyhoeddus drwy'r prosiect sy'n olynu Cyflymu Cymru.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.