Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ar 29 Gorffennaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu’r pedwar maes gwaith y bwriadwn fynd ar eu trywydd cyn etholiadau mis Mai 2022 er mwyn galluogi mwy o bobl sydd newydd gael yr etholfraint a phobl yr oeddent eisoes yn gallu pleidleisio i gofrestru a phleidleisio os ydynt yn dymuno gwneud hynny:
- gweithio gyda phrif gynghorau ar amrywiaeth o drefniadau pleidleisio hyblyg i dreialu’r gwahanol ddulliau o bleidleisio hyblyg;
- gweithio gydag awdurdodau lleol a’r gymuned etholiadol i gynyddu nifer y rhai hynny sy’n cofrestru, yn arbennig drwy weithio gydag ysgolion;
- adeiladu ar sianeli presennol er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb yn y broses ddemocrataidd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o safbwynt pobl ifanc a’u dealltwriaeth hwy o’r effaith a gaiff llywodraeth leol ar eu bywydau;
- ystyried dyluniad papurau pleidleisio drwy’r post, er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau y ceir cyn lleied o wallau â phosibl.
Yr etholiadau llywodraeth leol a gynhelir ym mis Mai 2022 yw’r cyfle cyntaf i wneud cynnydd tuag at sicrhau bod etholiadau yng Nghymru mor hygyrch â phosibl a bod pawb sy’n dymuno pleidleisio yn gallu pleidleisio.
Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein bwriad ar gyfer trefniadau pleidleisio hyblyg a fydd yn treialu’r gwahanol ddulliau o bleidleisio hyblyg.
Yn dilyn proses mynegi diddordeb, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi derbyn, mewn egwyddor, gynigion gan bedwar awdurdod lleol sy’n bwriadu treialu trefniadau pleidleisio hyblyg ar gyfer etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2022, sef:
Blaenau Gwent – bydd Parth Dysgu Glynebwy a leolir yn ganolog yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio hyblyg i holl breswylwyr y sir, gan gynnwys myfyrwyr y coleg. Bydd pleidleisio hyblyg ar gael drwy gydol yr wythnos yn arwain at Ddiwrnod yr Etholiad.
Pen-y-bont ar Ogwr – bydd gorsafoedd pleidleisio mewn rhai wardiau lle mae canran isel o bobl yn bwrw eu pleidlais ar agor ar gyfer pleidleisio hyblyg yn ystod yr wythnos yn arwain at Ddiwrnod yr Etholiad. Bydd gorsaf bleidleisio newydd yn cael ei chreu hefyd mewn ysgol i fyfyrwyr cofrestredig yn yr ysgol honno yn unig.
Caerffili – bydd swyddfeydd y cyngor yn Ystrad Mynach yn cael eu defnyddio fel gorsaf bleidleisio hyblyg i holl breswylwyr y sir dros y penwythnos cyn Diwrnod yr Etholiad.
Torfaen – bydd swyddfeydd y cyngor ym Mhont-y-pŵl yn cael eu defnyddio fel gorsaf bleidleisio hyblyg i holl breswylwyr y sir dros y penwythnos cyn Diwrnod yr Etholiad.
Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda’r awdurdodau i fireinio manylion eu cynigon a chychwyn ar y broses gymeradwyo ffurfiol yn unol ag adran 10 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda llywodraeth leol a’r gymuned etholiadol ar yr holl faterion hyn a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynglŷn â chynnydd.