Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ein cenhadaeth yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chreu system addysg y gallwn fod yn hyderus ynddi ac yn falch ohoni fel cenedl. Yn ein system addysg, mae pob plentyn y cyfrif; rhaid i'r ffordd yr ydym yn mesur perfformiad ysgolion adlewyrchu hyn.

Gan weithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chan ddysgu o arferion gorau o bob cwr o'r byd, cydnabyddwn fod angen i'r ffordd rydym yn mesur perfformiad ysgolion a systemau adlewyrchu'n well ein hymrwymiad i ddisgwyliadau uchel, a hynny ar gyfer pob dysgwr, ar gyfer datblygiad athrawon ac ar gyfer y gwerth ychwanegol y mae pob ysgol yn ei ddarparu.

Yn Addysg yng Nghymru Cenhadaeth ein Cenedl 2017-2021 un o'r amcanion galluogi allweddol oedd sefydlu trefniadau gwerthuso ac atebolrwydd cadarn i gefnogi system o hunanwella. I’r perwyl hyn, rydyn ni eisoes wedi gwneud sawl newid.

Camau sydd wedi'u cymryd eisoes

Rydyn ni wedi ymgynghori ar ddod â’r arfer o gyhoeddi data asesu athrawon i ben yn is na’r lefel genedlaethol. Bydd hyn yn helpu i symud y ffocws yn ôl i asesu disgyblion, yn hytrach na defnyddio'r data'n anghywir fel rhan o system atebolrwydd lem.Rydym wedi ymgynghori ar y defnydd a wneir o ddata'r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Rwyf am fod yn glir: ni chaiff data o'r profion hyn ei ddefnyddio fel rhan o'r system atebolrwydd.
Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar 4ydd Mai. Rydym yn rhagweld y bydd y rheoliadau diwygio yn dod i rym ym mis Awst ar gyfer gweithredu o fis Medi 2018.

Bydd profion cenedlaethol yn parhau. O'r hydref ymlaen, bydd system o asesiadau personol ar-lein yn cael ei chyflwyno, felly bydd rhieni'n parhau i gael gwybodaeth flynyddol ar ddatblygiad sgiliau darllen a rhifedd eu plant.

Rydym wedi delio â'r tueddiad cynyddol i gofrestru disgyblion i wneud TGAU yn gynnar - y nod yw sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud er budd y dysgwyr. Bellach, caiff data o Gam 1 y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ei ddefnyddio fel rhan o broses hunanasesu'r ysgolion gyda'u consortia rhanbarthol; hefyd, mae Estyn wedi comisiynu'r Athro Graham Donaldson i gynnal adolygiad o'r trefniadau arolygu cyfredol.  

Y Fframwaith Asesu a Gwerthuso

Gan weithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, rydym yn parhau â'r gwaith o ddatblygu Fframwaith Asesu a Gwerthuso. Caiff ei gyhoeddi ar y cyd â'r Cwricwlwm i gael adborth arno ym mis Ebrill 2019, gyda'r nod o'i roi ar waith yn 2022. Fe ddarparaf ddiweddariad pellach ar hyn yn nes ymlaen yn y tymor ar ôl i'r Athro Donaldson gyhoeddi ei adolygiad.

Fel rhan o'n taith tuag at fframwaith newydd, fe ymrwymon ni, yn Cenhadaeth ein Cenedl, i gyflwyno trefniadau gwerthuso interim yn 2019, er mwyn cefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion a chodi safonau ar gyfer dysgwyr.  

Mesurau Perfformiad a Dangosyddion Gwerthuso Interim ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 o 2019 ymlaen

Rydyn ni wedi bod yn cydweithio ag ysgolion ar ystod o fesurau perfformiad interim ar gyfer ysgolion uwchradd, sy'n symud y ffocws o 'cyfartalog' i gynyddu dyheadau ar gyfer pob dysgwr.

Bydd y mesurau newydd hyn, sy'n seiliedig ar sgoriau, yn cael gwared ar y pwyslais ar y mesurau Lefel 2 cynhwysol ar gyfer TGAU a'r ffocws cul ar ddisgyblion sydd ar y ffin rhwng C a D sydd wedi datblygu o ganlyniad i'r defnydd o fesurau a throthwyon yn y gorffennol. Rwy'n benderfynol ein bod ni'n codi safonau, a hynny ar gyfer pob disgybl - gan gynnwys y disgyblion mwy abl a thalentog.

I'r perwyl hwn, fe symudwn ni at fersiwn mwy diweddar o'r system sgôr pwyntiau wedi'u capio, yr hyn a elwir yn sgôr 'Cap 9'. Bydd hyn yn cynnwys tair cydran benodol wrth graidd y system. Un yr un, yn adrodd ar TGAU, ar gyfer deilliannau disgyblion o ran llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Bydd y rhain hefyd yn fesurau perfformiad ar eu pennau eu hunain. Bydd pob un o'r cydrannau hyn yn casglu canlyniadau TGAU gorau'r disgybl o'r pynciau penodol.

Bydd y chwe chydran sy'n weddill yn cynnwys canlyniadau gorau disgyblion ar gyfer TGAU, neu gymwysterau cyfwerth sydd wedi'u cymeradwyo i gael eu darparu yng Nghymru, ac felly bydd yn bosibl dewis yn lleol.

Cydrannau Penodol

Mesurau Dysgu (TGAU yn unig)

Math o Fesur

Llythrennedd

y gorau o: 'Saesneg Iaith', 'Cymraeg Iaith Gyntaf', 'Saesneg Llenyddiaeth' neu 'Cymraeg Llenyddiaeth'

Sgôr pwyntiau cyfartalog

Rhifedd

y gorau o: Mathemateg neu Rifedd

Sgôr pwyntiau cyfartalog

Gwyddoniaeth

y gorau o Wyddoniaeth

Sgôr pwyntiau cyfartalog


Bydd hyn yn arwain at ysgol yn cael sgôr cyfartalog ar gyfer y tri. Bydd disgwyl i bob ysgol hunanasesu yn erbyn y sgorau hyn, yn ogystal â'r sgorau cyfartalog ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a dysgwyr nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i sicrhau bod pob plentyn y cyfrif a'n bod ni'n deall ac yn gwerthfawrogi cynnydd pob disgybl ar draws y cohort.

Disgwyliwn weld y bydd y 6 cydran sy'n weddill o'r sgôr 'Cap 9' yn adlewyrchu cyd-destun yr ysgol ac ehangder y cwricwlwm a gynigir a'i fod hefyd yn darparu sicrwydd fod pob disgybl yn gallu dilyn cwricwlwm sy'n diwallu ei anghenion.

Yn ogystal â'r cydrannau ar wahân, bydd hefyd angen i ysgolion hunanasesu yn erbyn y sgôr cyfartalog ar gyfer y 'Cap 9' i gyd, ac eto byddwn yn gwneud rhaniad rhwng dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a dysgwyr nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Bydd hyn yn caniatáu dadansoddiad llawer mwy soffistigedig a thrylwyr o gynnydd ysgolion a disgyblion nag sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Bydd cael Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen a Chenedlaethol yn cael ei gynnwys fel mesur perfformiad penodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn ymwneud â'r cymhwyster hwn sy'n darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr ac ar gyfer addysg uwch. Yn ogystal, gall y Dystysgrif Her Sgiliau gyfrif yn y 'Cap 9' ar y cyd ag unrhyw gymwysterau eraill sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer eu cyflawni yng Nghymru. Bydd cymhwyster y Dystysgrif Her Sgiliau yn cyfrif os bydd yn un o chwe chanlyniad gorau disgybl y tu hwnt i'r tair cydran benodol.

Ymhellach at hynny, byddwn yn rhannu gydag ysgolion ystod bellach o fesurau a dadansoddiadau i gefnogi proses hunanwerthuso gadarn a thrylwyr. Yn ogystal, bydd angen i ysgolion ystyried eu perfformiad gan ddefnyddio'r dadansoddiadau canlynol:
  • Caiff cohort pob ysgol ei rannu'n dair yn seiliedig ar sgoriau disgyblion, gan ddangos y sgôr cyfartalog ar gyfer y rhan uchaf, y rhan ganol, a'r rhan isaf. Bydd hyn yn sicrhau nad yw ysgolion yn gwella'u sgoriau cyfartalog drwy ffocysu ar un rhan o'r cohort yn unig.  Bydd yr un peth yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol, gyda'r cohort yn cael ei rannu'n dri i'w cymharu. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn cyfrif.
  • Perfformiad ysgolion mewn lleoliadau economaidd tebyg. Drwy wneud hyn, gall ysgolion ddysgu o lwyddiannau ysgolion eraill sy'n wynebu heriau tebyg.
  • Cyfranogiad, cofrestriadau a graddau yn Saesneg Iaith, Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith), Mathemateg a Rhifedd, ynghyd â Gwyddoniaeth Sengl, Dwbl a Threbl. Fy mwriad yw ein bod yn parhau i ffocysu ar wella deilliannau i bobl ifanc, a hynny yn yr holl feysydd allweddol, a thrwy'r system hunanwerthuso.  
Bydd adrodd yn erbyn mesurau perfformiad interim yn cychwyn ym mis Medi 2019. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid ar weithredu'r mesurau perfformiad hyn.

Rhannu’r dudalen hon