Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg
Yn dilyn trafodaethau helaeth gydag undebau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnig cyflog newydd gwell i athrawon a phrifathrawon ddoe.
Yn ogystal â’r codiad o 5%, byddai’r cynnig cyflog newydd yn cynnwys 3% ychwanegol – 1.5% ohono yn gyfunedig ac 1.5% yn anghyfunol.
Byddai elfen anghyfunol y cynnig yn cynnwys cyflog, lwfansau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr. Byddai’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2022-23 yn ei chyfanrwydd.
Mae elfen gyfunedig y cynnig yn cynnwys cyflog, lwfansau, Yswiriant Gwladol y cyflogwr a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr. Byddai hyn yn cael ei ôl-ddyddio i fis Medi 2022.
Byddai dwy elfen y cynnig yn berthnasol i bob pwynt cyflog statudol.
Os caiff y cynnig newydd ei dderbyn yn y pen draw, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu cost y cynnig 3% yn llawn yn 2022-23. Bydd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i drafod p’un a fydd modd ariannu cost y cynnydd o 1.5% cyfunedig dros y blynyddoedd nesaf heb effeithio ar gyllidebau ysgolion.
Mae’n bwysig bod yn glir mai’r cynnig cyflog newydd yw’r uchafswm y gallwn ei fforddio, ac rydym wedi bod yn agored ac yn onest gyda’n partneriaid cymdeithasol ynghylch y cyfyngiadau ariannol sydd arnom. Y realiti yw, os caiff cynnig eleni ei wrthod, ni fyddwn yn gallu gwneud cynnig uwch.
Fel Gweinidog, rwyf wedi bod yn glir mai dim ond os yw ein gweithlu yn teimlo eu bod nhw yn cael eu cefnogi y gallwn ofalu am les disgyblion a sicrhau addysgu o ansawdd. Rhaid i les y gweithlu, felly, gael lle blaenllaw ym mhopeth a wnawn. Dros yr wythnosau diwethaf, gan weithio gyda’r undebau, rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol yn hyn o beth, sy’n flaenoriaeth i bawb. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau ac yn rhan o’r pecyn yr ymgynghorir â’r aelodau yn ei gylch. Caiff rhagor o fanylion am y pecyn hwn eu cyhoeddi maes o law.
Rydym yn croesawu’r ffaith bod yr Undeb Addysg Cenedlaethol a Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, o ganlyniad i’r trafodaethau diweddar, wedi cytuno i roi’r cynnig cyflog newydd gerbron eu haelodau. Mae penderfyniad yr Undeb Addysg Cenedlaethol i beidio â bwrw ymlaen â streic yr wythnos nesaf yn newyddion da i ddisgyblion, rhieni a staff.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau adeiladol hyn. Rydym nawr yn aros am ymateb ffurfiol gan yr undebau llafur.