Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn sgil cytundebau cyllidebol blaenorol gyda Plaid Cymru, mae’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn ailddatgan ein hymrwymiad i barhau i weithio ar opsiynau i fwrw ymlaen â chynllun ffordd osgoi Llandeilo.
Yn dilyn trafodaethau adeiladol gydag Adam Price, Aelod o’r Senedd ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae’n bleser gen i gyflwyno datganiad i’r Aelodau ynghylch y ffordd ymlaen o ran yr ymrwymiad hwn.
Mae hyn yn cynnwys pecyn o ymyriadau trafnidiaeth cynaliadwy i gefnogi teithio llesol ac i newid dulliau teithio yn Llandeilo a Ffairfach, yn ogystal â ffordd newydd i fynd i’r afael ag effeithiau lleol traffig yng nghanol tref Llandeilo.
Yn dilyn gwaith arfarnu trafnidiaeth helaeth ac ymgynghori â rhanddeiliaid, rydym wedi nodi llwybr dewisol ar gyfer y ffordd newydd. Byddwn yn awr yn dechrau ar waith dylunio amlinellol a manwl, trwy dîm prosiect sy’n dwyn ynghyd Gyngor Sir Caerfyrddin, Trafnidiaeth Cymru, a thîm Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu i Gyngor Sir Caerfyrddin heddiw i roi rhagor o fanylion ynghylch y cyhoeddiad hwn ac i gyflwyno amserlen ddangosol wrth i ni baratoi at adeiladu a chwblhau’r ffordd newydd.
Gallai’r ffordd newydd hwyluso dulliau teithio newydd a bydd y gwaith datblygu yn ystyried agor llwybrau sy’n bodoli’n barod ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth teithio llesol, blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch trwy roi blaenoriaeth i fysiau a gwella cysylltedd â chysylltiadau bysiau a threnau presennol. Bydd ymyriadau eraill, gan gynnwys teithio llesol i ysgolion, clybiau ceir, a chynlluniau llogi beiciau yn cael eu hystyried fel rhan o’r rhaglen gyflawn.
Byddai system llif traffig unffordd yn cael ei chyflwyno ar Stryd Rhosmaen fel rhan o'r rhaglen gyflawn. Gallai hyn, yn ei dro, gefnogi rhaglen adfywio ehangach i wella'r amgylchedd yng nghanolfannau masnachol Llandeilo a Ffairfach. Bydd y ffordd newydd hefyd yn arwain at well ansawdd aer ar yr A483 bresennol yn Stryd Rhosmaen. Byddai cyflymder y ffordd yn cael ei leihau mewn lleoliadau sensitif, gan gynnwys ger Ysgol Bro Dinefwr, er mwyn gwella diogelwch.
Bydd gwaith dylunio pellach yn archwilio cyfleoedd i gynyddu gwytnwch y rhwydwaith ffordd strategol rhag llifogydd yn Ffairfach, trwy gynnwys arglawdd i’r briffordd a gwaith ategol.
Ochr yn ochr â’r datganiad hwn rydym wedi cyhoeddi map er mwyn dangos y llwybr dewisol ar gyfer y ffordd newydd. Rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi crynodeb cam 2 WelTAG o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, a’r cynllun TR111 sy’n diogelu’r llwybr dewisol, erbyn diwedd mis Ebrill.