Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Yn fy natganiad blaenorol, a gyhoeddwyd ychydig cyn y Nadolig, ymrwymais i roi diweddariad ar hynt ein gwaith o lunio deddfwriaeth er mwyn datblygu argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd.
Rydym yn parhau i wneud cynnydd da o ran datblygu manylion y polisi sydd eu hangen i drosi argymhellion y Pwyllgor yn ddarpariaethau deddfwriaethol fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Wrth wneud hynny, rydym yn adlewyrchu’r casgliadau y daeth y Pwyllgor Busnes iddynt yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i nodi ar gyfer yr Aelodau y themâu polisi eang sydd wedi’u datblygu ers fy natganiad diwethaf:
- Cynnwys cwotâu rhywedd statudol integredig a threfniadau ‘am yn ail’ gorfodol ar gyfer rhestrau ymgeiswyr pleidiau.
- Ailgyfansoddi ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan ddarparu'r swyddogaethau angenrheidiol i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth newydd Cymru allu cynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethau'r Senedd.
- Y cyfarwyddiadau y bydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru yn eu dilyn i gynnal ei adolygiadau o'r ffiniau – a hynny o ran yr adolygiad symlach i baru etholaethau cyn etholiad Senedd 2026, adolygiad llawn cyn yr etholiad dilynol, ac adolygiadau cyfnodol parhaus.
- Mesurau mewn perthynas â chasglu a chyhoeddi data am ymgeiswyr sy'n ceisio cael eu hethol i'r Senedd, a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant gan bleidiau gwleidyddol.
- Cynyddu'r terfyn o ran nifer y Gweinidogion Cymru o 12 i 17, gyda phŵer i hyn gael ei gynyddu ymhellach i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
- Cynyddu'r nifer uchaf o Ddirprwy Lywyddion y gellir eu hethol o 1 i 2.
Wrth ddatblygu a llunio deddfwriaeth diwygio'r Senedd, rydym hefyd wedi ystyried nifer o bolisïau cysylltiedig nad oedd yn rhan o argymhellion y Pwyllgor. O ganlyniad, rydym yn archwilio a ddylid cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- Gofyniad i ymgeiswyr ddatgan, fel rhan o'u henwebiad, unrhyw aelodaeth o blaid wleidyddol sydd wedi bod ganddynt yn y 12 mis cyn etholiad, yn debyg i'r trefniadau sydd eisoes ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
- Gofyniad i ymgeiswyr ac Aelodau'r Senedd fyw yng Nghymru.
- Adolygiad o weithrediad y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid cyflenwi mewn nifer o fforymau i ystyried y trefniadau gweithredu ar gyfer y diwygiadau hyn a datblygu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y dogfennau ategol a fydd yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd â'r diwygiadau sy'n cael eu datblygu yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Senedd ar doriad yr haf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.