Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Er ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i atgyweirio diffygion diogelwch adeiladau – heb i'r costau hyn ddisgyn ar lesddeiliaid – ac i ddiwygio cyfraith diogelwch adeiladau. Mae llawer o bethau y gall ein llywodraethau eu gwneud i wella diogelwch adeiladu ledled y DU.
Yr oeddwn yn siomedig iawn pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Ffyniant Bro a Chymunedau Michael Gove addewid datblygwyr i Loegr yn unig y mis diwethaf.
Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol a Thai, Shona Robison a minnau wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd y DU gyfan at yr addewid. Byddai "addewid" yn y DU yn ymrwymo datblygwyr i atgyweirio adeiladau yr oeddent yn ymwneud â'u datblygu.
Mae dull unochrog Llywodraeth y DU tuag at faterion diogelwch adeiladau yn ei gwneud yn anos sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd ei gyfrifoldebau i gyfrannu tuag at gostau datrys problemau diogelwch adeiladau yng Nghymru o ddifrif.
Mae'n llesteirio ein gallu i ddal datblygwyr a gweithgynhyrchwyr i gyfrif am drwsio eu camgymeriadau ac mae'n mynd yn groes i'r Adolygiad diweddar o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.
Mae hefyd yn creu mwy o ddryswch i breswylwyr ar adeg pan fo angen cysondeb ac eglurder arnynt.
Codwyd y materion hyn yn uniongyrchol gyda'r Arglwydd Greenhalgh, y Gweinidog dros Ddiogelwch Adeiladau a Thân mewn cyfarfod yn gynharach y mis hwn.
Dywedwyd wrtho fod cyfle ar hyn o bryd i wneud i ddull yr Adran Tai, Ffyniant Bro a Chymunedau weithio i bob rhan o'r DU drwy lunio'r contractau cyfreithiol ar y cyd gyda datblygwyr.
Mae'r Arglwydd Greenhalgh wedi ein sicrhau y byddai sail gyfreithiol addewid y datblygwr yn cael ei hymestyn a'i theilwra i gynnwys y Llywodraethau Datganoledig.
Ers hynny, rydym wedi derbyn llythyr gan Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol, yn rhoi sicrwydd o'r newydd o gydweithio.
Er budd perchnogion tai, lesddeiliaid a thenantiaid Cymru, byddwn yn parhau i bwyso am y canlynol:
1. Newid yn y llythyrau addewid gyda datblygwyr ac yn y cytundebau cyfreithiol manwl dilynol o "heb unrhyw ragfarn i wledydd eraill" i ymrwymiad cyfatebol a chymesur i hunan-adfer ar draws y Deyrnas Unedig.
2. Llywodraeth y DU i ymdrechu'n galetach i gyflwyno cynllun Yswiriant Indemniad Proffesiynol credadwy, fforddiadwy i'r DU gyfan eleni, ac i gomisiynu gwaith i gefnogi creu cynllun yswiriant cydymaith ar gyfer ardystio gwaith adfer sy'n cynnwys agweddau perthnasol ar ddiogelwch tân.
3. Ein swyddogion i gysylltu'n uniongyrchol â datblygwyr a chyrff Cyllid y DU fel dull pragmatig o gynllunio anghenion Llywodraethau Datganoledig.
4. Sicrwydd y bydd y Llywodraethau Datganoledig yn cael pob cefnogaeth i ymestyn cyflwyno'r Ardoll Diogelwch Adeiladu.
5. Cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol Gove i geisio cyllid cyfalaf ac adnoddau sylfaenol ychwanegol gan Drysorlys EM dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant y DU.
Bydd cyfarfod pedair gwlad diogelwch adeiladau yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn ac rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad yn fwy cadarnhaol i'r miloedd lawer o bobl sy'n byw mewn adeiladau sydd â’r diffygion diogelwch a nodwyd.