Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau rydym yn eu cymryd i i wireddu’r ymrwymiad yn ein maniffesto ac yn y Rhaglen Lywodraethu i fwrw ymlaen â’r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru.

Ym mis Hydref 2019, cyflwynodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas) adroddiad pwysig, Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o argymhellion a oedd yn gosod gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol. Er bod yr angen brys i aiflaenoriaethu adnoddau yn ystod y 18 mis diwethaf i ddelio â phandemig Covid-19 wedi arafu ein gwaith ar weithredu’r argymhellion, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar nifer o agweddau pwysig.

Fis Gorffennaf, cadeiriais gyfarfod cyntaf Is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder, sydd wedi ei ailgynnull. Cytunais â'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ei bod yn adeg briodol, wrth inni symud i gyfnod gwahanol yn y pandemig, i ailgychwyn y sgyrsiau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd i fynegi siom ddybryd fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod argymhelliad canolog adroddiad Comisiwn Thomas, gan bwysleisio bod nifer fawr o argymhellion eraill y gellid eu cyflawni o dan y trefniadau datganoli presennol, neu sy'n cynnwys rhyw elfen o ddatganoli heb drosglwyddo'r cyfrifoldeb am gyfiawnder yn ei gyfanrwydd. Er enghraifft, mae dadl gref dros ddatganoli'r system cyfiawnder ieuenctid, a argymhellwyd gan Gomisiwn Silk hefyd yn 2014.

Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio'r ffordd orau o gyflawni hynny. Rwy'n disgwyl y bydd y Comisiwn arfaethedig ar y Cyfansoddiad hefyd yn ystyried y materion hyn. Yn y cyfamser, ar sail yr ohebiaeth â'r Arglwydd Ganghellor blaenorol, rydym yn disgwyl y bydd y trafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth yn dechrau cyn bo hir. Ein bwriad yw y bydd y rhain yn ymdrin â'r ystod o bynciau sydd yn adroddiad Comisiwn Thomas, gan gynnwys yr angen am ddata cyfiawnder wedi'u dadgyfuno ar gyfer Cymru, sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau llysoedd wrth iddynt gael eu digideiddio, archwilio'r posibilrwydd o lysoedd datrys problemau yng Nghymru, cymorth i ddarparwyr gwasanaethau cynghori; amrywiaeth yn asiantaethau'r system gyfiawnder, ansawdd a lleoliad adeiladau llysoedd, darpariaeth Gymraeg yn y system gyfiawnder, a threfniadaeth yr uwch-farnwriaeth gan gynnwys cynrychiolaeth yng Ngoruchaf Lys y DU.

Law yn llaw â'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, bydd yn parhau i fwrw ymlaen â'r rhaglenni presennol o weithio mewn partneriaeth. Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gartref a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd, gan gynnwys sefydlu Canolfan Breswyl i Fenywod yng Nghymru a datblygu model cyflenwi newydd i ystad ddiogel Cymru ar gyfer cyfiawnder a phlant sy’n derbyn gofal.

Rydym hefyd yn datblygu ein rhaglen waith ein hunain ar argymhellion Comisiwn Thomas sydd o fewn maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru. Un maes allweddol yw cyfiawnder teuluol. Roedd Comisiwn Thomas yn rhannu ein pryderon ynghylch nifer y plant yng Nghymru sy'n cael eu derbyn i ofal, ac ystyriodd y rôl bwysig sydd gan bartneriaid yn y system gyfiawnder wrth ofalu am blant yng Nghymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaid yn y maes cyfiawnder yng Nghymru i fwrw ymlaen ag argymhellion Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus yr Is-adran Deulu a gynlluniwyd i gadw teuluoedd gyda'i gilydd, a disgwylir y bydd Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol cyntaf Cymru yn cael ei lansio yr hydref hwn drwy gynllun peilot yng Nghaerdydd. Mae Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Lleol Gogledd Cymru yn un o ddwy ardal fraenaru yng Nghymru a Lloegr sy'n cymryd rhan mewn rhaglen beilot i brofi a gwerthuso Rhaglen Trefniadau Plant ddiwygiedig ar ran Gweithgor Cyfraith Breifat yr Is-adran Deulu. Y nod yw hyrwyddo dulliau sy’n datrys problemau a dulliau nad ydynt yn wrthwynebol wrth ymdrin ag achosion, a sicrhau bod llai o achosion yn cronni drwy reoli achosion yn well.

Mae'n hanfodol bod gennym sector cyfreithiol egnïol yng Nghymru i sicrhau bod pob person, busnes a chymuned yn gallu cael gafael yn hawdd ar y cyngor sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt, ac i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer system gyfiawnder well i bobl Cymru. Rydym yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol ar becyn o fesurau i gefnogi ei ddatblygiad hirdymor drwy gymorth busnes a digidol, seiberddiogelwch a chaffael gwasanaethau cyfreithiol, a hynny mewn modd sy’n gweddu i anghenion penodol cwmnïau cyfraith fasnachol,  practisau’r stryd fawr a'r bar.

Un o argymhellion allweddol Comisiwn Thomas oedd sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru, i sicrhau darpariaeth briodol o addysg gyfreithiol yn Gymraeg, ac i gynorthwyo myfyrwyr yn eu haddysg a'u hyfforddiant fel ymarferwyr yn y dyfodol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i sefydlu Cyngor y Gyfraith. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cael ymateb brwdfrydig o ran cymryd rhan ynddo. Yn unol â hynny, rwyf bellach wedi gwahodd aelodau arfaethedig ei Bwyllgor Gweithredol i gyfarfod cychwynnol ym mis Tachwedd, a disgwyliwn y bydd hynny’n arwain at sefydlu Cyngor y Gyfraith yn ffurfiol yn fuan ar ôl hynny. Er mai mater i Gyngor y Gyfraith ei hun fydd penderfynu ar ei union gylch gwaith, rhagwelwn ar sail trafodaethau â’r sector y bydd yn ymestyn y tu hwnt i addysg gyfreithiol a chyfraith Cymru i gynnwys datblygiad economaidd y sector a thechnoleg ac arloesedd ym maes y gyfraith.

Rydym yn parhau i weithio i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl drwy'r swyddogaethau cyfiawnder datganoledig presennol. Mae tribiwnlysoedd Cymru wedi addasu'n dda ar ôl i’r pandemig darfu ar eu harferion gwaith arferol mewn modd na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae’r ffaith eu bod wedi dal i weithredu, gan sicrhau bod defnyddwyr wedi gallu parhau i gael mynediad at gyfiawnder, yn dangos mor effeithiol y mae barnwriaeth a gweinyddwyr y tribiwnlysoedd, dan arweiniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Syr Wyn Williams, wedi ymateb i amgylchiadau gwirioneddol eithriadol. Rwy’n cymeradwyo adroddiad blynyddol diweddaraf Syr Wyn ar gyfer 2020-2021, ac rydym yn bwriadu trefnu amser i drafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

Yn ei adroddiad cyntaf hyd at fis Mawrth 2019, cyfeiriodd Syr Wyn at Ddeddf Cymru 2017 a oedd yn sefydlu swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac yn diffinio tribiwnlysoedd Cymru, a disgrifiodd hyn fel "... cychwyn taith tuag at gyflwyno system dribiwnlysoedd fodern a hyblyg i Gymru - system a fydd yn gallu ymateb i anghenion rhesymol y rheini sy’n defnyddio’r tribiwnlysoedd.” Mae'r daith honno wedi parhau gyda phrosiect gan Gomisiwn y Gyfraith i adolygu'r gyfraith sy'n llywodraethu’r ffordd y mae ein tribiwnlysoedd datganoledig yn gweithredu, ac i argymell diwygiadau i gryfhau eu hannibyniaeth a'u heffeithiolrwydd. Mae'r prosiect pwysig hwn yn nodi'r diwygiadau strwythurol y gallwn eu gwneud ar gyfer system dribiwnlysoedd fodern i Gymru fel cam pwysig arall tuag at adeiladu seilwaith cyfiawnder datganoledig. Daeth ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith i ben ym mis Mawrth, ac rwy’n rhag-weld y byddaf yn cael ei adroddiad terfynol yr hydref hwn ac yn ystyried ei argymhellion er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil a fydd yn rhoi polisi penodol ar waith i Gymru yn y maes pwysig hwn.