Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Medi 2021, cyhoeddais lansiad y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP) a rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ym mis Mai 2022. Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol ar draws y rhaglen – mae’r datganiad hwn yn nodi’r gwaith hyd yma a’r camau nesaf.
Mae tîm y DMTP, sy’n cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn cydlynu pob gweithgaredd ar draws GIG Cymru. Mae pedwar maes allweddol:
- Gofal sylfaenol, sy’n cynnwys gweithredu gwasanaeth presgripsiynau electronig.
- Gofal eilaidd, sy’n canolbwyntio ar ddigideiddio gweithgareddau rhoi presgripsiynau yn yr ysbyty a gweithgareddau gweinyddu meddyginiaethau a throsglwyddo gwybodaeth am bresgripsiynau yn electronig wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty, aco adrannau cleifion allanol i fferyllfeydd cymunedol.
- Mynediad i gleifion a datblygu meddyginiaethau’n gysylltiedig ag ymarferoldeb yn Ap GIG Cymru.
- Cofnod Meddyginiaethau a Rennir – creu lleoliad canolog, lle y bydd gwybodaeth am feddyginiaethau person yn cael ei gadw. Bydd yn galluogi i wybodaeth am feddyginiaethau gael ei throsglwyddo yn fwy hwylus rhwng lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â rhwng sefydliadau’r GIG.
Mae’r tîm DMTP yn gweithio gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i gynnal gweithgareddau darganfod defnyddwyr gyda sefydliadau’r GIG, i lywio’r gwaith o ddatblygu a dylunio cynhyrchion portffolio digidol i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cyhoedd a chlinigwyr.
Byddaf yn trafod pob maes yn ei dro. O fewn gofal sylfaenol, mae tîm y rhaglen wedi datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth presgripsiynau electronig, yn seiliedig ar y platfform a ddatblygwyd gan GIG Lloegr, ac mae’n gweithio tuag at brawf technegol o’r cysyniad ngwanwyn 2023, gyda’r bwriad o gyflwyno’r gwasanaeth i feddygfeydd a fferyllfeydd cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Bydd cyflwyno gwasanaeth presgripsiynau electronig yng Nghymru yn gofyn i gwmnïau yn y sector preifat, sy’n darparu systemau TG i feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol, ymgymryd â datblygu meddalwedd. Bydd rhai systemau TG yn barod cyn eraill – bydd y cyflwyno felly yn cael ei gynllunio a’i roi ar waith fesul cam. Disgwylir y bydd y presgripsiynau cyntaf yn cael eu hanfon yn electronig gan feddygfeydd i fferyllfeydd yn yr haf neu ddechrau’r hydref yn 2023.
Rydym hefyd yn gweithio gyda darparwyr systemau TG fferyllfeydd cymunedol i’w hannog i leihau’r defnydd o bapur, optimeiddio prosesau a gwella’r gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd, gan gynnwys olrhain ceisiadau presgripsiwn, fel bod pobl yn gwybod pryd y cafwyd eu presgripsiwn gan y fferyllfa a phryd y bydd yn barod i’w gasglu.
O fewn gofal eilaidd, lansiwyd y fframwaith caffael aml-werthwr ar gyfer Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA) gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar 1 Tachwedd. Mae’r fframwaith yn caniatáu i sefydliadau’r GIG ddewis o restr a gymeradwyir yn genedlaethol o systemau y gellir eu rhyngweithredu i ddigideiddio rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau ar bob ward a lleoliad cleifion allanol ym mhob ysbyty yng Nghymru.
Mae pob bwrdd iechyd bellach yn y cam cyn gweithredu’r rhaglen er mwyn rhoi’r system y maent wedi’i dewis ar waith mor gyflym a diogel â phosibl. Bydd y bwrdd iechyd cyntaf yn dyfarnu contract o dan y fframwaith tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon a bydd yn dechrau ei gyflwyno erbyn hydref 2023.
Mae’r gofynion cyntaf o ran nodweddion wedi’u darparu i dîm datblygu Ap GIG Cymru a disgwylir yr iteriad cyntaf o ymarferoldeb yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn cynnwys ail archebu presgripsiynau rheolaidd. Bydd fersiynau diweddarach yn cynnwys y gallu i enwebu fferyllfa gymunedol a ffefrir i gael presgripsiynau, a’r gallu i olrhain statws presgripsiwn.
Mae’r prosiect Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) wedi asesu nifer o opsiynau o ran platfformau technegol ac mae ar y trywydd iawn i ddarparu prawf o gysyniad erbyn gwanwyn 2023 – er mwyn paratoi i rannu’r rhestr o feddyginiaethau rhagnodedig rhwng systemau meddygon teulu ac ePMAs gofal eilaidd (fel y maent yn cael eu gweithredu).
Mae’r gwaith ar ddiffinio safonau gwybodaeth Cymru gyfan ar gyfer rhannu gwybodaeth am feddyginiaethau wedi datblygu’n dda, a bydd Hysbysiad Newid Safonau Data yn cael ei gyhoeddi i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a chyflenwyr cyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd hyn yn sicrhau bod iaith meddyginiaethau gyson yn cael ei defnyddio ar draws systemau i alluogi gwybodaeth am feddyginiaethau i gael ei rhannu’n hwylus ac yn ddiogel. Rydym yn awyddus i ddysgu gan eraill yn y maes hynod arloesol hwn ac mae tîm y prosiect Cofnod Meddyginiaethau a Rennir yn parhau i gydweithio ag ardaloedd eraill yn y DU ac Ewrop.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i waith fynd rhagddo.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.