Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein neges i fyfyrwyr, staff a phrifysgolion yr un fath a gweddill y boblogaeth: arhoswch adref, gweithiwch ac astudiwch adref os allwch chi. Dim ond os na allwch weithio gartref neu astudio adref y dylech fynychu eich gweithle.

Bydd prifysgolion yn rhoi gwybod i fyfyrwyr pryd y dylent ddychwelyd i'r campws.

Yng ngoleuni'r straen newydd, yr wyf wedi gofyn i brifysgolion adolygu eu cynlluniau ac adolygu eu hasesiadau risg. Yr ydym yn parhau i gydweithio ar hyn, a chroesawaf y cydlynu lleol, rhanbarthol a cenedlaethol sy'n parhau i nodweddu ein dull o weithredu yng Nghymru.

Mae pob prifysgol yn adolygu eu cynlluniau yn seiliedig ar eu hamgylchiadau yn unol â  canllawiau cenedlaethol, gan ystyried yr effaith ar anghenion eu myfyrwyr, eu staff a'u cymunedau.

Mae prifysgolion yn bod yn rhagweithiol ac yn realistig wrth edrych ar y ddarpariaeth a'r gefnogaeth bresennol. Gall hyn olygu penderfyniadau anodd ynglyn â  blaenoriaethu pa gyrsiau a pa fyfyrwyr sy’n dychwelyd i'r campws dros yr wythnosau nesaf, neu sy’n parhau ar-lein tan yn ddiweddarach ym mis Chwefror.

Bydd hyn yn arwain at myfyrwyr sydd angen mynediad i gyfleusterau i fodloni deilliannau dysgu’n effeithiol, sydd angen cwblhau achrediad proffesiynol, neu sydd angen cymorth ychwanegol.

Bydd prifysgolion hefyd yn asesu pa gymorth sydd ar y myfyrwyr hynny na symudodd i ffwrdd dros y gwyliau gan mai'r gymuned leol yw eu cartref.

Ar ôl dychwelyd, disgwylir i fyfyrwyr hefyd gymryd dau brawf asymptomatig a chydymffurfio â rheolau wrth iddynt ail-ymuno â'u cartref yn ystod y tymor.

Mae prifysgolion yng Nghymru ar agor ar gyfer gweithgareddau hanfodol ar gampws gan fod angen i lawer o fyfyrwyr a staff gael mynediad i labordy, llyfrgell academaidd arbenigol, gofod astudio neu stiwdio briodol sy'n golygu bod angen iddynt adael cartref gan na allant gwblhau'r gwaith hwnnw gartref.

Yr wyf wedi cyfarfod yn rheolaidd ag NUS Cymru drwy gydol y pandemig, ac mae'r cymorth yr ydym yn ei ddarparu yn cynnwys £10m ar gyfer caledi myfyrwyr, darpariaeth iechyd meddwl a chyllid undebau myfyrwyr.

Ar 6 Ionawr, roedd y data yn dangos bod 1,350 o brofion asymptomatig wedi'u cofnodi mewn prifysgolion yng Nghymru, a dim ond 5 o'r rhain sydd wedi bod yn gadarnhaol. Mae'r profion asymptomatig yn cael eu cynnig i fyfyrwyr a staff.

Dylai unrhyw fyfyriwr sydd ddim eisiau dychwelyd neu sydd yn methu dychwelyd siarad â'i prifysgol i drafod pa gymorth sydd ar gael iddynt barhau â'u hastudiaethau ar-lein.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru yma heddiw:

Canllawiau ar addysg uwch: Diogelu Cymru (COVID-19) | LLYW.CYMRU