Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nid yw rôl allweddol y diwydiant glo yn hanes Cymru, a'r etifeddiaeth mae wedi'i gadael ar ei ôl, yn bwnc newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r etifeddiaeth honno'n cynnwys pensiynau glowyr, a'r cwestiwn ynghylch sut mae arian dros ben a gynhyrchir gan y cynlluniau pensiwn yn cael ei rannu. Er nad yw'r maes hwn wedi cael ei ddatganoli, ac mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdano, nid oes dwywaith nad yw llesiant y rhai sy'n dibynnu ar Gynllun Pensiwn y Glowyr yn bwysig inni. Ysgrifennodd Prif Weinidog blaenorol Cymru at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r mater hwn yn 2016, ac eto yn 2017.

Cwrddais ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ddiweddar i drafod eu cynnydd o ran gofalu am y tua 22,000 o bobl yng Nghymru sydd ymhlith y bron 140,000 o bobl ledled y DU sy'n dibynnu ar y cynllun ar hyn o bryd, neu a fydd yn dibynnu arno yn y dyfodol.

Ers i'r cynllun gael ei breifateiddio yn 1995, mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu na fydd glowyr na’u gweddwon byth yn colli eu pensiynau craidd. Yn gyfnewid am y gwarant hwn, mae wedi derbyn 50% o unrhyw arian dros ben mae'r gronfa'n ei gynhyrchu.

Pan roddwyd y trefniant hwn ar waith, disgwylid y byddai Llywodraeth y DU yn derbyn tua £2 biliwn dros cyfnod o 25 mlynedd. Ond rwy’n deall bod yr holl adenillion gan Gynllun Pensiwn y Glowyr ers yr adeg honno, i wahanol Lywodraethau'r Du, wedi bod tua £4.5 biliwn, gan greu elw cryn dipyn yn uwch na'r disgwyl ar gyfer Llywodraeth y DU ar draul y rhai sy'n dibynnu ar y cynllun.  

Mae annhegwch y sefyllfa honno wedi arwain at ymgyrchoedd dros ddiwygio'r system yn llawer o rannau'r DU, gan gynnwys yma yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod yr angen am drefniadau sy'n briodol, yn ddiogel ac sy'n cael eu rheoli'n dda ar gyfer y cynllun pensiwn hwn, a'r rôl mae Llywodraeth y DU yn ei chwarae wrth warantu pensiynau craidd. Ond dylai lefel yr adenillion o'r arian dros ben mae'r cynllun yn ei greu fod yn gyfatebol i'r risg ac ystyried anghenion ehangach y rhai sy'n dibynnu ar y cynllun.

Mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi comisiynu adroddiad ariannol manwl, gan ddau Actiwari Pensiwn ar wahân, a archwiliodd i hanes y cynllun a'r ffordd mae'n cael ei weithredu. Mae'r adroddiad yn nodi camau ymarferol i unioni annhegwch y trefniadau cyfredol. Rwy'n cytuno â dadansoddiad yr adroddiad bod y ffordd mae'r arian dros ben yn cael ei rannu ar hyn o bryd yn annheg, a dylai gael ei hadolygu fel mater o frys. 

Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac Ymddiriedolwyr y Cynllun i ofyn unwaith eto iddynt adolygu'r cynllun, ac i ystyried adolygu'r ffordd mae arian dros ben yn cael ei rannu. Gobeithio y cytunir ar ffordd newydd a thecach o rannu'r arian dros ben hwn, ac o ganlyniad gwella'r manteision i'r rhai sy'n derbyn pensiwn ac adlewyrchu gwir lefel y risg sy'n gysylltiedig â gwarantu pensiynau craidd. 

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i'r materion a godwyd yn yr adroddiad ac yn gweithio gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol ar gyfer y rhai sy'n dibynnu ar y cynllun. Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth y DU gydnabod brys yr adolygiad hwn, gan fod llawer o'r rhai sy'n dibynnu ar y cynllun pensiwn yn hen, ac nid oes modd iddynt aros i broses fiwrocrataidd hirfaith gael ei chynnal.